Cyrff archwilio yn uno i gynhyrchu canllaw arfer da ar gyfer chwythu'r chwiban

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Nod y canllaw hwn yw nodi’n glir ac yn syml sut all gweithwyr yn y sector cyhoeddus fynegi pryderon a’r hyn y dylent ei ddisgwyl gan eu cyflogwr wrth wneud hynny.
Hefyd, mae’n darparu arweiniad i gyflogwyr sector cyhoeddus ar sut i annog gweithwyr i fynegi pryderon a sut i fynd i’r afael â phryderon yn effeithiol ac mewn modd agored a thryloyw. 
Mae’n gofyn am ddiwylliant agored a gonest ar draws y sector cyhoeddus, lle mae gan weithwyr wybodaeth glir am sut i fynegi pryderon (yn fewnol ac allanol) ac yn cael eu hannog i wneud hynny gan

Chwilio am y genhedlaeth nesaf o archwilwyr proffesiynol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae’r rhaglen ddwys, ond boddhaol, yma yn gofyn am chwaraewyr tîm craff, penderfynol, hunangymhellol a chreadigol i gyfrannu at ein sefydliad dynamig a blaengar. 
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn datblygu sgiliau newydd ac ennill gwybodaeth o amrywiaeth o waith archwilio yn ymwneud â thrawstoriad o gyrff cyhoeddus.

Archwilydd Penodedig yn tynnu hysbysiad ymgynghorol Cyngor Sir Penfro yn ôl

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Bore heddiw mae’r Archwilydd Penodedig, Anthony Barrett, wedi tynnu’r Hysbysiad Ymgynghorol y cyflwynodd i Gyngor Sir Penfro ar 28 Hydref 2014 yn ôl. 
Mae cytundeb setlo diwygiedig i derfynu cyflogaeth y Prif Weithredwr – gyda’r gwariant anghyfreithlon wedi ei ddiddymu – wedi ei gytuno arno gan bob parti.

Gwasanaethau iechyd yr amgylchedd o dan bwysau cynyddol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae cynghorau Cymru yn canfod ffyrdd i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol mewn perthynas ag iechyd yr amgylchedd, ond mae pryderon ynglŷn â’r ffordd y caiff y gwasanaethau pwysig hyn eu darparu yn y dyfodol.
Yn yr astudiaeth gyntaf mewn cyfres o astudiaethau sy’n edrych ar sut mae cynghorau’n llwyddo i ddarparu gwasanaethau allweddol gyda llai o arian, mae’r adroddiad 'Cyflawni â llai - yr effaith ar wasanaethau Iechyd yr amgylchedd a dinasyddion' hefyd yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd gan y cyhoedd yn ein hymgyrch 'Fy Nhref Iach'  a gynhaliwyd ym mis Ionawr eleni.

GIG Cymru yn mantoli'r gyllideb yn 2013-14 er gwaethaf perfformiad cymysg yn erbyn targedau gwasanaeth

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Llwyddodd GIG Cymru i fantoli'r gyllideb yn 2013-14, er gwaetha'r ffaith i dri bwrdd iechyd orwario, yn ôl adroddiad a ryddhawyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae'r adroddiad blynyddol, GIG Cymru: Trosolwg o Berfformiad Ariannol a Pherfformiad Gwasanaethau 2013-14, yn canolbwyntio ar dri phrif faes; rheolaeth ariannol, targedau perfformiad a chynllunio ar gyfer GIG Cymru yn y dyfodol. 

Cynghorau Tref A Chymuned Ddim yn gwneud digon i wella trefniadau rheoli ariannol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Cynghorau Tref a Chymuned yn gwella o ran cyflwyno eu cyfrifon ariannol ar amser, ond mae dal angen iddynt wella ansawdd y cyfrifon maent yn eu cyflwyno i’w harchwilio. Dyma gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru heddiw.

Diwylliant perfformiad corfforaethol Cyngor Ceredigion yn 'helpu i ysgogi gwelliannau'

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ac ar ôl cynnal proses ailstrwythuro fewnol o ran yr uwch swyddogion, mae’n arddangos diwylliant yn seiliedig ar berfformiad corfforaethol sydd â photensial da i ysgogi’r gwelliannau angenrheidiol i wasanaethau a chanlyniadau i’w ddinasyddion.

Gynllun amaeth-amgylchedd wedi dysgu gwersi o gynlluniau blaenorol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r ffordd y cafodd Glastir, cynllun amaeth-amgylchedd Llywodraeth Cymru ei lunio a'i weithredu, wedi adlewyrchu rhai o'r gwersi a ddysgwyd o gynlluniau tebyg a gynhaliwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru. Ond mae gan y cynllun rai diffygion sylweddol o hyd. Dyna brif gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

Dim Gwelliannau mewn meysydd gwasanaeth allweddol yng Nghyngor Caerdydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Er bod y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, yn enwedig ar ôl sefydlu uwch dîm arwain newydd, o ran gwella’r wybodaeth ariannol sydd ar gael am gyfarwyddiaethau a nodi gwerth £50 miliwn o arbedion posibl ar gyfer 2014-2015, erys nifer o risgiau sylweddol o hyd.
 

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw: