Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni am unrhyw agwedd ar ein gwaith ar wariant cyhoeddus. Ar gyfer rhai ymholiadau, efallai nad ni fydd y bobl orau i gysylltu â hwy. Dewiswch opsiwn o'r rhestr ganlynol i'ch helpu i gael rhagor o wybodaeth:

Byddwn yn cydnabod eich gohebiaeth o fewn pum diwrnod gwaith a byddwn yn ymateb i'ch ymholiad cyn gynted â phosib.

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

I gael gwybodaeth am sut y byddwn yn rheoli eich ymholiad, lawrlwythwch ein arweiniad i ohebwyr.  

Dysgwch sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth.

Deallusrwydd Artiffisial

Rydym yn ymwybodol y gallech ddewis defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i'ch cynorthwyo wrth ysgrifennu at Archwilio Cymru.

Byddwch yn ymwybodol y gall cynnwys a gynhyrchir gan AI weithiau gynnwys gwybodaeth ffug neu sydd heb gefnogaeth, neu efallai ei fod wedi'i ysgrifennu mewn ffordd sy'n gwneud y pwrpas neu'r neges allweddol yn aneglur, yn enwedig os yw'n hir, yn gyfreithiol ac yn ailadroddus.

Rydym yn awgrymu eich bod yn gwirio bod unrhyw beth a gynhyrchir gan AI yn ffeithiol gywir ac yn briodol cyn ei anfon atom. Cofiwch, os ysgrifennwch atom, mai chi sy'n gyfrifol am holl gynnwys y cyfathrebu, gan gynnwys unrhyw rannau a gynhyrchir gan AI. Gall cynnwys gwybodaeth ffug arwain at waith a gwariant diangen a gall fod yn ddifenwol.