Gyrfaoedd

Mae gyrfa yn Archwilio Cymru yn yrfa sydd wir yn cyfrif.

Byddwch yn falch o ble rydych chi'n gweithio. A chael effaith.

Rydym yn sefydliad gyda set amrywiol o sgiliau. Rydyn ni'n gyfrifwyr, archwilwyr, cyfathrebwyr, gwneuthurwyr newid, gweithwyr AD proffesiynol, dadansoddwyr data a llawer mwy. 

A allai hyn fod yn rhywbeth i chi? Rydyn ni'n griw cyfeillgar o bobl gyda set gref o werthoedd ac ymddygiadau sy'n llywio sut rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd. 

Mwy am Archwilio Cymru.

Un gymuned

Mae ein cymuned wedi'i seilio ar fod yn amgylchedd gynhwysol lle gall pawb ragori ynddo.

Iechyd a lles

Un o’n prif flaenoriaethau yw lles ein cydweithwyr. Mae ein grŵp lles angerddol dan arweiniad gweithwyr yn trefnu gweithgareddau amrywiol i sicrhau bod staff yn gallu cael mynediad at y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Mae gennym hefyd swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl pwrpasol a rhwydwaith rhieni a gofalwyr gweithredol i gefnogi rhieni sy'n gweithio.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth ein holl gydweithwyr a'r rhai rydyn ni'n gweithio gyda nhw, ac rydym yn cefnogi'r hawl i gael ein trin ag urddas a pharch.

Rydym yn gyflogwr lefel 2 achrededig ar gyfer y Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn aelod balch o fenter Anableddau Cudd Blodyn yr Haul.

Mentrau elusennol

Rydym yn angerddol am roi'n ôl i'r cymunedau lleol yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt.

Gall staff sydd eisiau cymryd rhan mewn gwaith cymunedol neu elusennol wneud cais am hyd at 5 diwrnod o absenoldeb arbennig â thâl.

Mae ein rhwydwaith elusennau staff yn trefnu gweithgareddau codi arian ar gyfer ein helusen staff y flwyddyn.

Ein buddion

Rydym yn un o’r 10 Cyflogwr Gorau ar gyfer Teuluoedd Sy'n Gweithio, rydym yn ymroddedig i gynnig buddion sy'n adlewyrchu faint rydym yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am ein pobl.

Mae gennym set wych o fanteision o gynlluniau beicio i'r gwaith a gwiriadau iechyd am ddim i ostyngiadau ar y stryd fawr a bargeinion diwrnodau allan.

Porwch am fwy o fanteision isod...

Arbedion arian a gostyngiadau

Porth buddion cyflogeion

Mae ein porth buddion cyflogeion yn rhoi mynediad i chi at ostyngiadau mewn cannoedd o fanwerthwyr y stryd fawr, bwydydd, teithio, bwyta allan, sinemâu ac atyniadau. Mae hefyd yn cynnwys Rhoi Cyflogres gyda Charities Trust, gostyngiadau Campfa, ac yswiriant deintyddol gostyngol.

Cynllun Beicio i'r Gwaith

Rydym yn cynnig mynediad i'r Cynllun Beicio i’r Gwaith. Mae hyn yn rhoi swm o arian i chi i'w wario ar feic ac offer, gan ei dalu trwy eich cyflog gros dros y flwyddyn nesaf mewn rhandaliadau misol, cyn i unrhyw dreth gael ei ddidynnu.

Cynllun Prydlesu Ceir

Mae gan ein gweithwyr fynediad i brydlesu car newydd trwy gynllun aberthu cyflog am bris cystadleuol, sy'n cael ei dalu'n fisol trwy ddidyniadau cyflog gan arbed treth i chi.

Iechyd a lles

Bydd gennych fynediad at amrywiaeth o fudd-daliadau iechyd gan gynnwys yswiriant deintyddol, cymorth menopos, gostyngiadau hamdden, brechiadau ffliw a MOT iechyd. Mae ein Rhaglen Cymorth i Gyflogeion hefyd ar gael i chi 24/7 gan gynnig cefnogaeth emosiynol, cwnsela a mynediad at gynghorwyr arbenigol.

Eich Gyrfa

Llwybrau gyrfa

Fel aelod llawn amser o staff, byddwch yn cael hyd at 10 diwrnod y flwyddyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a datblygu.

Rydym wedi sefydlu ein rhaglen fentora a mentora gwrthdro ein hunain lle gall staff ddod yn fentoriaid neu ofyn am gael eu paru â mentor.

Tanysgrifiadau proffesiynol

Mae ein hymrwymiad i'ch statws proffesiynol yn cael ei ddangos trwy dalu eich tanysgrifiad proffesiynol blynyddol. Bydd y symiau yn amrywio yn dibynnu ar lefelau aelodaeth pob corff.

Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Mae gweithio i ni yn rhoi'r hawl i chi ddod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, ac rydym yn cyfrannu trwy dalu tua 26.6-30.3% o'ch cyflog bob blwyddyn.

Yswiriant Bywyd

Mae ein Cynllun Grŵp Yswiriant Bywyd yn darparu cyfandaliad o’ch cyflog blynyddol sy'n daladwy i'ch buddiolwr enwebedig os byddwch yn marw wrth gael eich cyflogi gennym ni. Mae'r yswiriant am ddim hwn yn arbed arian i chi ac yn osgoi unrhyw angen am danysgrifio meddygol.

Gweithio clyfrach

Gyda'n hoffer TG rhagorol, mynediad at feddalwedd ac egwyddorion gweithio craffach sy'n cynnig y gallu i weithio mewn gwahanol leoliadau a gwahanol amseroedd. Byddwch yn cael eich gliniadur eich hun a'ch hyfforddi'n llawn yn y pecynnau a ddefnyddiwn. Mae ein Tîm TG profiadol bob amser ar gael i roi help llaw pryd bynnag y bydd angen.

Cyfeillgar i'r teulu

Rydym yn cefnogi'r rhai sy'n ceisio dod yn rhieni a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu gydag amrywiaeth o opsiynau hyblyg. Byddwch yn cael 33 diwrnod o wyliau blynyddol (ynghyd ag 8 gŵyl banc), a gallwch hefyd gario hyd at 9 diwrnod o wyliau ymlaen y flwyddyn, prynu hyd at 7 diwrnod o wyliau ychwanegol y flwyddyn, a bancio gwyliau yn ein cynllun 'gwyliau oes’.

Oriau cywasgedig

Rydym yn cynnig oriau cywasgedig fel rhan o'n hymrwymiad i weithio hyblyg a lles staff. Mae'r budd hwn yn caniatáu ichi gywasgu hyd at 10% o'ch oriau dan gontract dros gyfnod o bythefnos a chymryd yr amser wedi'i arbed mewn un bloc. Mae'n un o'r nifer o ffyrdd rydyn ni'n cefnogi cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd a chreu gweithle modern, cynhwysol.

Swyddi gwag cyfredol

Gallwch ymuno â ni fel archwilydd, partner busnes AD, gwneuthurwr newid, gweithiwr cyfathrebu proffesiynol a llawer mwy.

Ein swyddi gwag ar hyn o bryd.

Gyrfaoedd cynnar

Mae ein rhaglen gyfrifyddu yn darparu'r sgiliau a'r profiadau y bydd eu hangen arnoch i gael effaith a datblygu eich gyrfa yn broffesiynol. 

Ochr yn ochr ag astudio ar gyfer eich cymhwyster cyfrifyddu, byddwch yn adeiladu perthnasoedd gwaith cryf ac yn derbyn cymorth dysgu a datblygu llawn.

Mwy am yrfa gynnar gydag Archwilio Cymru.

Lle rydyn ni'n gweithio

Mae gennym amgylchedd gwaith hybrid sy'n caniatáu i'n staff gydbwyso bywyd gwaith a bywyd cartref.

Wedi'i leoli ledled Cymru gyfan, mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Abertawe a Llandudno.

Edrychwch ar leoliadau ein swyddfeydd i weld ble gallech fod yn gweithio.