Menter Twyll Genedlaethol

Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn paru data bob ddwy fflyneddar hyd a lled sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau. Ers iddi ddechrau ym 1996, mae ymarferion y Fenter wedi arwain at ganfod ac atal gwerth mwy na £56.5 miliwn o dwyll a gordaliadau yng Nghymru a £2.9 biliwn ledled y DU.

Mae ein hadroddiad ar ganfyddiadau ymarfer 2022-23 y Fenter Twyll Genedlaethol ar gael i'w lawrlwytho yma

Menter Twyll Genedlaethol 2024-25

Gall cyfranogwyr gael rhagor o wybodaeth ar app gwe'r fenter, gan gynnwys:

  • rhestr o gyfrifoldebau'r swyddogion enwebedig yn y corff sy'n cymryd rhan;
  • manylion unrhyw ofynion pellach a ffurflenni'n ymwneud â'r data sydd i'w darparu;
  • ffurflen cydymffurfio diogelu data; a
  • gwybodaeth am sut i ddehongli parau, ac am gydweithrediad rhwng cyrff sy'n cymryd rhan.

Mae'r rhestr wirio hon sydd mewn dwy ran wedi'i chynllunio i helpu pob un o gyrff y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) sy'n cymryd rhan i hunanwerthuso eu hymwneud â'r NFI cyn ac yn ystod ymarferion yr NFI:

Rhestr Wirio Hunan Arfarnu'r Fenter Twyll Genedlaethol [Agorir mewn ffenestr newydd]

Disgwylir i'r data ar gyfer y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) 2024-25 gael ei gyflwyno gan gyfranogwyr ym mis Hydref 2024. Mae'r ddogfen ganlynol yn nodi'r rhaglen waith derfynol a'r manylebau data ar gyfer yr ymarfer:

Menter Twyll Genedlaethol 2024-25: Rhaglen Waith a Manylebau Data Terfynol [Agorir mewn ffenestr newydd]

Amserlen ar gyfer ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol 2024-25 [Agorir mewn ffenestr newydd]

Cod ymarfer ar baru data

Paratowyd Cod Ymarfer ar Baru Data Archwilydd Cyffredinol Cymru [Agorir mewn ffenest newydd] i gynorthwyo pawb sy'n cymryd rhan mewn gwaith paru data.

Prosesu teg

Mae ein hysbysiad preifatrwydd [Agorir mewn ffenest newydd] yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl pan fyddwn yn casglu data personol ar gyfer ymarferion paru data ac yn egluro sut rydym yn diogelu eich preifatrwydd

Sut all fy sefydliad i gymryd rhan?

Os oes gennych ddiddordeb neu os ydych am ddarganfod mwy cysylltwch â ni: menter.twyll@archwilio.cymru.