Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Safle cryf ar Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn ‘fan cychwyn’ rhagorol
Yn y flwyddyn gyntaf o fod ar y Mynegai, daethom yn safke 251 allan o 439 o gyflogwyr ledled y DU, gyda sgôr o 66.5, gan hybu Stonewall i gydnabod safle cyntaf rhagorol y sefydliad.
Ystyrir Mynegai Cydraddoldeb yn y Gwaith Stonewall yn ddull pwerus o feincnodi i helpu i sicrhau bod pob cyflogai lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gweithle. Gofynnir i gyflogwyr sy’n cymryd rhan ddangos eu gwaith mewn 10 maes o bolisi ac arfer cyflogaeth, yn amrywio o hyfforddiant i ymgysylltu â’r gymuned. Ar yr un pryd, mae staff ar draws pob sefydliad yn llenwi arolwg dienw am eu profiadau yn y gwaith.
Rydym wedi’n cydnabod am ei hymrwymiad cynyddol i gynhwysiant LGBT+ sydd wedi cynnwys ffurfio ein rhwydwaith LGBT+ ei hun, ‘Spectrum’, yn ogystal â chynnal digwyddiadau mewnol i staff ar bynciau fel cynhwysiant hoyw a thrawsrywiol yn y gweithle a gweithio’n agos gyda’r rhaglen Iris Outreach i gynhyrchu ffilm fer sy’n ymdrin â chael eich derbyn yn y gweithle.
Dywedodd Steve O’Donoghue, Uwch Swyddog Arweiniol Swyddfa Archwilio Cymru ar LGBT+, wrth ymateb i’r gydnabyddiaeth:
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael ein gosod mor uchel yn ein blwyddyn gyntaf ar y mynegai. Bydd y broses adborth gyda Stonewall yn werthfawr iawn i’n helpu ni i fwrw ymlaen â’n hymgais i fod yn lle rhagorol i weithio ynddo, sy’n gynhwysol ac yn amrywiol, a lle y gall pobl fod yn nhw eu hunain.
Hoffwn ddiolch i gydweithwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru am y cymorth a’r anogaeth a roddwyd i ni, ac rwy’n diolch yn benodol i’n Grŵp Buddiant Cydraddoldeb am eu hymrwymiad a’u gwaith caled er mwyn mynd ati i newid er gwell.”
Dywedodd Lindsay Foyster, Aelod o’r Bwrdd a’r Swyddog Anweithredol Arweiniol ar Gydraddoldeb:
“Mae cyrraedd y safle hwn yn y flwyddyn gyntaf yn gyflawniad rhagorol ac mae’n rhywbeth y gall pob un ohonom fod yn falch iawn ohono. Mae’n bwysig iawn i mi a’r Bwrdd bod yr holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi i fod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Mae ein safle ar Fynegai Cydraddoldeb Stonewall yn dangos ymrwymiad clir i hyn ac mae’n fan cychwyn rhagorol i ddatblygu arno yn y dyfodol”
Bydd staff yn parhau â’r ymrwymiad hwn yn 2017. Bydd hyn yn cynnwys cydweithio’n agos â rhaglen Iris Outreach i gynhyrchu ffilm ffuglen fer sy’n ymdrin â chynnwys pobl hoyw yn y gweithle
Os hoffech chi wybod mwy am y mynegai a gweld yr adroddiad sy’n cyd-fynd ag ef, ewch i wefan Stonewall [sy’n agor mewn ffenestr newydd] i gael rhagor o wybodaeth.