Sicrhau etifeddiaeth y Gynhadledd Craffu Darllen mwy about Sicrhau etifeddiaeth y Gynhadledd Craffu Fel rhan o etifeddiaeth y Gynhadledd Craffu mae’r Tîm Arfer Da wedi ymrwymo i rannu allbynnau’r gynhadledd er mwyn sicrhau bod ei etifeddiaeth yn parhau ac yn cael ei rannu mor eang â phosib. Mae’r Tîm yn gwneud hyn drwy flog y Gyfnewidfa Arfer Da [Agorir mewn ffenest newydd] sy’n cynnwys dolenni i amrywiaeth o ffynonellau.
Seminar ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol, ar y gweill Darllen mwy about Seminar ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol, ar y gweill Cynhelir y seminar hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru. Bydd y Seminar hwn yn helpu sector cyhoeddus Cymru i baratoi ar gyfer Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y Bil yn gosod cyfrifoldeb newydd ar wasanaethau cyhoeddus datblygedig Cymru i wneud datblygiad cynaliadwy yn egwyddor drefniadol ganolog. Mae’r seminar wedi ei strwythuro er mwyn ymgysylltu ag arweinyddiaeth y sector cyhoeddus yng Nghymru ond hefyd i ddarparu cyfle i ymarferwyr ddatblygu eu crefft. Bydd cynrychiolwyr yn gadael y seminar gyda:
Seminar Rheoli Adeiladau yn Llwyddiant Darllen mwy about Seminar Rheoli Adeiladau yn Llwyddiant Yn Rhagfyr ac Ionawr, bu’r Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal seminarau yng Nghaerdydd ac yn Llanrwst ar Reoli Adeiladau. Roedd y rhain yn rhan o gyfres o seminarau ar Reoli Asedau, mewn cydweithrediad â’r Gweithgor Asedau Cenedlaethol.
Apel am farn cleifion ar wasanaethau orthopedig Darllen mwy about Apel am farn cleifion ar wasanaethau orthopedig Orthopaedeg yw'r arbenigedd meddygol sy'n atal a chywiro anafiadau ac anhwylderau yn ymwneud â'r esgyrn, cymalau, a'r cyhyrau a'r gewynnau cysylltiedig Bydd yr astudiaeth yn edrych ar effeithiolrwydd y gwasanaethau hyn ar hyd a lled Cymru ac yn gwneud awgrymiadau i'r GIG yng Nghymru. Ar gyfer yr astudiaeth, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gofyn i gleifion gwblhau arolwg byr ar-lein.
Swyddfa Archwilio Cymru yn Ymuno â'r Comisiwn Elusennau i Gynnal Seminar Arfer Da i Ymddiriedolwyr Darllen mwy about Swyddfa Archwilio Cymru yn Ymuno â'r Comisiwn Elusennau i Gynnal Seminar Arfer Da i Ymddiriedolwyr Mae'r digwyddiad, sy'n digwydd ar 6 Tachwedd, yn cael ei gynnal fel rhan o Wythnos Genedlaethol yr Ymddiriedolwyr gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y cyd â'r Comisiwn Elusennau ac Arfer Da Cymru. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer y rheini sy'n gyfrifol am lywio busnes elusen - p'un a ydynt yn ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, aelodau bwrdd, llywodraethwyr neu aelodau pwyllgor. Bydd y digwyddiad yn rhannu'r arferion mwyaf cyfredol o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Archwilydd Cyffredinol yn Ceisio Barn ar Set Fanylach o Egwyddorion Archwilio Darllen mwy about Archwilydd Cyffredinol yn Ceisio Barn ar Set Fanylach o Egwyddorion Archwilio Heddiw, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi ymgynghoriad ar God Ymarfer Archwilio a Datganiad o Arfer diwygiedig sy'n ymwneud â swyddogaethau archwilio, asesu ac arolygu arbennig ar gyfer gwella llywodraeth leol. Mewn ymateb i ofynion cyfreithiol newydd, a gan ystyried blaenoriaethau strategol ei ddull archwilio dros y tair blynedd nesaf, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cynnig gwella ac ymestyn yr egwyddorion sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gwneud gwaith ar ei ran.
Addysg Uwch Cymru mewn sefyllfa ariannol 'gadarn' a'r Polisi Ffioedd Dysgu'n cael ei weithredu'n dda Darllen mwy about Addysg Uwch Cymru mewn sefyllfa ariannol 'gadarn' a'r Polisi Ffioedd Dysgu'n cael ei weithredu'n dda Ar y cyfan, mae sefydliadau addysg uwch Cymru mewn sefyllfa ariannol gadarn ac mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) wedi rhoi polisi ffioedd dysgu ar waith yn effeithiol. Dyna yw casgliad adroddiad newydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ond datgelodd hefyd y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud mwy i arfarnu opsiynau polisi ar ffioedd dysgu ddiwedd 2010, cyn rhoi'r trefniadau cyfredol ar waith ar ddechrau blwyddyn academaidd 2012/13, a bod y costau a amcangyfrifir wedi cynyddu ers cyhoeddi'r polisi.
Mae angen i ni fuddsoddi mewn craffu er mwyn gwneud y mwyaf o'i effaith, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol Darllen mwy about Mae angen i ni fuddsoddi mewn craffu er mwyn gwneud y mwyaf o'i effaith, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol Archwilydd Cyffredinol Cymru – Prif Araith – Cynhadledd Goleuni ar Graffu [PDF 278KB Agorir mewn ffenest newydd]
Cynnydd araf wrth fynd i'r afael â materion diogelwch mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru Darllen mwy about Cynnydd araf wrth fynd i'r afael â materion diogelwch mewn gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru Mae plant a phobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn parhau i gael eu rhoi mewn perygl. Dyma gasgliad adolygiad dilynol ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru a gyhoeddwyd heddiw. Canolbwyntiodd yr adolygiad ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd mewn ymateb i bryderon yn ymwneud â diogelwch a nodwyd yn adroddiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a gyhoeddwyd yn 2009.
Dywedwch Wrthym: A Yw Eich Cymdogaeth Yn Iach? Darllen mwy about Dywedwch Wrthym: A Yw Eich Cymdogaeth Yn Iach? Caiff pobl yng Nghymru eu hannog i gwblhau arolwg byr i helpu astudiaeth newydd bwysig o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, sy'n cael ei lansio gan Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa mor dda y mae cynghorau lleol yn darparu'r gwasanaethau eang sy'n perthyn i gategori iechyd yr amgylchedd. Mae'r gwasanaethau hynny'n cynnwys: