Cynnydd yn cael ei wneud ond newidiadau mewn gwasanaethau cyhoeddus ‘yn rhy araf o hyd’ Darllen mwy about Cynnydd yn cael ei wneud ond newidiadau mewn gwasanaethau cyhoeddus ‘yn rhy araf o hyd’ Trawsgrifiad Cymraeg - fideo yn Saesneg yn unig [Word 12KB Agorir mewn ffenest newydd] Mae angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ehangu eu gorwelion, cymryd risgiau wedi'u rheoli'n dda er mwyn arloesi a bod yn realistig er mwyn iddynt allu ymateb yn fwy effeithiol i'r heriau sy'n eu hwynebu. Mae angen iddynt hefyd ganolbwyntio ar fesur y pethau sy'n bwysig a chydweithio er mwyn rheoli effeithiau gostyngiadau yn lefelau gwasanaethau.
Cyngor Sir Penfro yn cydnabod ei fod angen strategaeth newydd Darllen mwy about Cyngor Sir Penfro yn cydnabod ei fod angen strategaeth newydd Ar hyn o bryd ni all Cyngor Sir Penfro ddarparu sicrwydd digonol fod ei drefniadau'n alluog i gyflawni ei flaenoriaethau a chanlyniadau gwell i ddinasyddion. Dyma yw casgliad cyffredinol adroddiad asesu corfforaethol a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol heddiw.
Cyngor Sir Ynys Môn yn gwneud cynnydd da wrth gryfhau trefniadau a gwella gwasanaethau Darllen mwy about Cyngor Sir Ynys Môn yn gwneud cynnydd da wrth gryfhau trefniadau a gwella gwasanaethau Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gwella ei hunanymwybyddiaeth, yn gwneud cynnydd da wrth gryfhau ei drefniadau llywodraethu a rheoli, yn ogystal â gwella gwasanaethau; ond mae llawer mwy i'w wneud er mwyn defnyddio staff ac adnoddau eraill yn fwy strategol. Dyma gasgliad cyffredinol asesiad corfforaethol ac adroddiad gwella blynyddol a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol heddiw.
Cyflawni â llai - Gwasanaethau Hamdden Darllen mwy about Cyflawni â llai - Gwasanaethau Hamdden Dros y pum mlynedd diwethaf, mae cynghorau ledled Cymru wedi cyflwyno gostyngiadau o bron i £18 miliwn i’w gwariant ar wasanaethau hamdden. Serch hynny, yn ôl ein hadroddiad ar Wasanaethau Hamdden a gyhoeddir heddiw, ceir cyfleoedd i sicrhau mwy o arbedion, ac mae angen mynd ar drywydd y cyfleoedd hynny.
Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi adolygiad o'r cynnydd o ran ei hymagwedd at gydraddoldeb Darllen mwy about Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi adolygiad o'r cynnydd o ran ei hymagwedd at gydraddoldeb Yn 2014-15, datblygodd Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru raglen ddiwygiedig o waith i helpu i sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol ar waith er mwyn inni gyflawni eu dyletswyddau a'u hamcanion cydraddoldeb yn llawn.
Lansio arolwg o ddewisiadau ieithyddol y cyrff a archwilir gennym Darllen mwy about Lansio arolwg o ddewisiadau ieithyddol y cyrff a archwilir gennym Rydym yn cynnal arolwg dewis iaith bob tair blynedd fel rhan o Gynllun Iaith Gymraeg [PDF 500KB Agorir mewn ffenest newydd] yr Archwilydd Cyffredinol, sy'n esbonio sut rydym yn rhoi'r egwyddor o drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ar waith. Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:
Gwasanaethau cynllunio – Cyhoeddi adroddiadau ar gyfer y 3 o Barciau Cenedlaethol Cymru Darllen mwy about Gwasanaethau cynllunio – Cyhoeddi adroddiadau ar gyfer y 3 o Barciau Cenedlaethol Cymru Yn yr adroddiadau hyn, rydym yn ceisio ateb y cwestiwn: A yw’r Awdurdodau yn darparu gwasanaethau cynllunio effeithiol gyda’r nod o sicrhau perfformiad da, er gwaethaf y cyfyngiadau cynyddol ar y gyllideb?
Mae angen i’r sector cyhoeddus yng Nghymru newid ei ffocws i gynnal annibyniaeth pobl hŷn Darllen mwy about Mae angen i’r sector cyhoeddus yng Nghymru newid ei ffocws i gynnal annibyniaeth pobl hŷn Mae arweinyddiaeth a strategaethau Cynghorau yng Nghymru yn methu cydnabod bob amser y rôl bwysig sydd gan wasanaethau y tu allan i’r sector iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol o ran cefnogi a chynnal annibyniaeth pobl hŷn, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Pa mor ddiogel yw eich cymuned? Darllen mwy about Pa mor ddiogel yw eich cymuned? Mae ein cymunedau’n bwysig i ni ac mae’r ffordd y cânt eu cadw’n ddiogel yn effeithio arnom i gyd. Heddiw, rydyn ni wedi lansio arolwg ar ddiogelwch cymunedol fydd yn edrych ar sut y mae unigolion yn teimlo ynglŷn â’r mannau lle maent yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden.
Cynghorau tref a chymuned yng Nghymru yn dangos gwelliant o ran cyflwyno'u cyfrifon yn brydlon Darllen mwy about Cynghorau tref a chymuned yng Nghymru yn dangos gwelliant o ran cyflwyno'u cyfrifon yn brydlon Mae prydlondeb cyflwyno cyfrifon diwedd y flwyddyn gan gynghorau tref a chymuned yng Nghymru wedi gwella ers 2011-12. Fodd bynnag, mae gan y sector yn gyffredinol le i wella o ran rheolaeth ariannol a llywodraethu, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.