Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniol a ffontiau yn defnyddio porwr neu osodiadau dyfais.
  • chwyddo’r testun hyd at 400% heb fod y testun yn symud oddi ar y sgrin.
  • symud o gwmpas y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig neu feddalwedd adnabod lleferydd.
  • neidio i'r prif gynnwys. Mae gan bob un o'n tudalennau’r gallu ar frig y dudalen i neidio i'r brif gynnwys, gan roi'r dewis i chi osgoi'r prif dewislen. I’w ddefnyddio pwyswch ‘tab’ pan fydd y dudalen yn llwytho ac yna pwyswch ‘Enter’ i ddewis.
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).
  • profi dylunio ymatebol. Mae ein gwefan ar gael ar ddyfeisiau symudol a thabledi. Bydd dyluniad y safle yn newid i ffitio'r rhan fwyaf o ddimensiynau sgrin. Gellir gweld ein prif ddewislen ar ddyfais symudol trwy wasgu 3 llinell lorweddol yng nghornel dde uchaf unrhyw dudalen.
  • defnyddio dewisiadau testun amgen. Mae'r wefan hon a'n cyhoeddiadau yn defnyddio delweddau amrywiol i gyfleu gwybodaeth. Rydym wedi darparu dewisiadau testun amgen lle y bo'n bosibl i ganiatáu i unrhyw un sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol gael gafael ar y wybodaeth.
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd testun-i-leferydd - rydym wedi gosod webReader ReadSpeaker ar ein gwefan sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein i sain yn syth. Cliciwch ar yr eicon yn y gornel dde uchaf ein gwefan i roi cynnig ar hyn, a manteisio ar yr ystod lawn o nodweddion darllen gwefan [agorir mewn ffenestr newydd], gan gynnwys, cyfieithu, darllen-wrth-oedi a chwilio am air.

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn hygyrch yn llwyr.

  • Ni allwch addasu uchder llinell neu fylchau testun. 
  • Nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin.

Mae rhestr llawn yn yr adran 'diffyg cydymffurfio' isod.

Y nod yw adolygu a gwella pob tudalen ar y wefan erbyn diwedd 2024.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: gwybodaeth@archwilio.cymru

Os ydych angen gywbodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat wahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, neu mewn iaith wahanol:

E-bost: gwybodaeth@archwilio.cymru

Ffôn: 029 2032 0500

Nodwch:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a'ch cyfeiriad e-bost
  • y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft, CD sain, braille, BSL neu PDF hygyrch

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 5 diwrnod.

Byddwn yn gwneud ein gorau i fynd i'r afael â'ch gofynion hygyrchedd yn unol â’n Polisi Addasiadau Rhesymol

Y weithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Archwilio Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018 (Rhif 2).

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan yma yn cydymffurfio’n rhannol gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 safon AA o ganlyniad i’r diffyg cydymffurfiaeth ac eithriadau wedi’u rhestru isod.

Cynnwys di-hygyrch 

Mae'r cynnwys a restrir isod yn di-hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Nid oes gan rai delweddau ddewis testun amgen oherwydd newid diweddar i'r arddull y gwefan, felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad at y wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1  WCAG 2.2 (cynnwys nad yw'n destun).

Bwriadwn ychwanegu dewisiadau  testun amgen ar gyfer pob delwedd erbyn mis Rhagfyr 2024. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn cyrraedd safonau hygyrchedd.

Mae testun dirnadwy ar goll o elfennau o’r wefan. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â WCAG 2.4.4 Diben y Ddolen (Mewn Cyd-destun) a WCAG 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth: Rhaid i ddolenni fod â thestun dirnadwy.

Ar ôl chwyddo 200% a mwy, nid yw ffocws y bysellfwrdd yn weladwy ar y ddewislen byrger. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â WCAG 2.4.7 Ffocws yn Weladwy.

Rydym yn bwriadu cyweirio’r rhain erbyn mis Rhagfyr 2024.

Porwyr heb gymorth

Efallai y na fydd rhannau o’n gwefan yn ymddangos fel y dylai ar fersiynau 6, 7 ac 8 o Internet Explorer. Nid yw Microsoft yn cefnogi’r fersiynau hyn mwyach. Rydym yn argymell eich bod yn uwchraddio i fersiwn diweddaraf neu drio porwr gwahanol os ydych yn profi unrhyw broblemau.

Cynnyrch a gwefannau trydydd parti

Efallai y bydd angen defnyddio meddalwedd trydydd parti ar rai rhannau o'n gwefan. Gall ein gwefan hefyd gynnwys hyperddolenni i wefannau trydydd parti allanol er hwylustod i chi. Nid oes gennym reolaeth dros y cynnwys a gyhoeddir ar wefannau trydydd parti na'u cynnyrch. Cyfeiriwch at wefan y darparwr am wybodaeth cymorth.

Baich anghymesur

Dim ar hyn o bryd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw llawer o ddogfennau ar ein gwefan ar gael mewn modd hygyrch gan gynnwys testun amgen a strwythur dogfennau coll.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 [agorir mewn ffenestr newydd] os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio dogfennau hynach na'r 23 Medi 2018.

Bydd unrhyw ddogfennau PDFs neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd [agorir mewn ffenestr newydd].

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Yn ddiweddar, rydym wedi diweddaru ein gwefan i fersiwn diweddarach o Drupal ar ôl i'r fersiwn blaenorol gyrraedd diwedd ei hoes. Rydym hefyd wedi ailwampio arddull ein gwefan i ddarparu gwell profiad defnyddiwr. 

Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant digidol, gan gynnwys drwy fodloni meini prawf Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We lefel 2.1 AA (WCAG 2.0) [agorir mewn ffenestr newydd].

Ar hyn o bryd rydym yn gwella ein safle (prawf) beta newydd i gwrdd â WCAG 2.1 AA. Byddwn yn cwblhau'r gwaith hwn yn ystod gaeaf 2024. 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 25 Ebrill 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13 Hydref 2023 yn erbyn safon WCAG 2.1 AA.

Cynhaliwyd y prawf gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth.

Profwyd sampl o dudalennau gan ein tîm wefan yn defnyddio offer profi awtomataidd. Rydym wedi ymgorffori'r elfennau o adroddiad Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth a gawsom yn ddiweddar.

Rydym hefyd wedi cynnal ein harchwiliad hygyrchedd ein hunain o’n gwefan gan ddefnyddio offer gwerthuso hygyrchedd ar-lein WAVE and Axe.