Oes gennych ddawn o ddenu pobl at ddeunydd rhagorol? Darllen mwy about Oes gennych ddawn o ddenu pobl at ddeunydd rhagorol? Rydym yn edrych am Swyddog Cyfathrebu i helpu creu cynnwys sy’n denu diddordeb, megis blogiau, datganiadau i’r wasg, Testun i’r we, meicrowefannau a chylchlythyron gan deilwra’r iaith yn effeithiol yn ôl y gynulleidfa targed a sianel. Mae’r swydd fel arfer yn denu pwll cyfoethog ag amrywiol er mwyn cynghori a chynorthwyo gydag ymholiadau gan y cyhoedd, newyddiadurwyr a rhanddeiliaid eraill.
Mae cynghorau yng Nghymru yn gwella eu cynllunio ariannol ar gyfer y tymor canolig Darllen mwy about Mae cynghorau yng Nghymru yn gwella eu cynllunio ariannol ar gyfer y tymor canolig Mae’r rhan fwyaf o gynghorau Cymru wedi gwella eu cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor canolig ac, erbyn hyn, mae ganddynt ddull effeithiol o ragamcanu yr arbedion y mae angen iddynt eu cyflawni. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu’r adroddiad hefyd fod gan gynghorau fwy i’w wneud i gynllunio'r modd y maent yn bwriadu pontio’r bwlch cyllid sydd wedi’i nodi ganddynt, sydd yn tanseilio eu cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor canolig.
Ydych chi’n archwilydd â chymhwyster CCAB? Ymunwch â ni! Darllen mwy about Ydych chi’n archwilydd â chymhwyster CCAB? Ymunwch â ni! Mae Practis Archwilio Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru yn dymuno recriwtio tri archwilydd sy'n meddu ar gymhwyster CCAB. Os yn llwyddiannus, prif gyfrifoldebau'r swydd yw:
Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio ysgolion yn cael ei rheoli’n dda ar y cyfan Darllen mwy about Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio ysgolion yn cael ei rheoli’n dda ar y cyfan Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen Addysg ac Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn 2009 a’i nod oedd adeiladu ac ailwampio ysgolion ar hyd a lled Cymru. Dechreuodd Band A yn 2014. Mae adroddiad a ryddhawyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dod i’r casgliad fod Llywodraeth Cymru yn rheoli’r rhaglen yn dda ar y cyfan, ond bydd angen iddi egluro rhai o’i disgwyliadau manwl a gwneud rhai newidiadau i ymateb i’r newidiadau arfaethedig yn y modd y caiff y rhaglen ei gweithredu a’i hariannu i sicrhau bod buddsoddiad y sector cyhoeddus yn creu mwy o werth am arian y
Hoffech chi weithio i gorff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru? Rydyn ni’n chwilio am Archwilwyr Perfformiad Darllen mwy about Hoffech chi weithio i gorff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru? Rydyn ni’n chwilio am Archwilwyr Perfformiad Rydyn ni’n chwilio am dri Archwiliwr Perfformiad (PS1) cymwys a phrofiadol i ymuno â ni ar unwaith o fewn y timau cyflwyno iechyd a llywodraeth leol, ar sail barhaol. Fe fyddech chi’n gyfrifol am bob agwedd o drefnu gwaith, yn ogystal â chyfrannu at ei ddyluniad a’i chwmpas, ymchwilio a chasglu data, paratoi tystiolaeth a chyflwyno canfyddiadau i’r cyrff a archwilir.
Rhagolygon cadarnhaol i gyfrifon llywodraeth ganolog ond mae lle i wella mewn rhai meysydd Darllen mwy about Rhagolygon cadarnhaol i gyfrifon llywodraeth ganolog ond mae lle i wella mewn rhai meysydd Gwnaeth pob un o 23 o gyrff llywodraeth ganolog Cymru gyflwyno eu cyfrifon i'w harchwilio yn brydlon ac yn gyffredinol i safon dda yn 2015-16. Fodd bynnag, mewn adroddiad newydd a ryddheir heddiw, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn annog rhagor o sefydliadau i ddefnyddio rhestrau gwirio datgelu cyfrifon er mwyn gwella ansawdd trefniadau sicrwydd.
Swyddfa Archwilio Cymru yn cipio gwobr o bwys am arloesedd gyda sefydliadau sy'n bartneriaid Darllen mwy about Swyddfa Archwilio Cymru yn cipio gwobr o bwys am arloesedd gyda sefydliadau sy'n bartneriaid Derbynion ni’r wobr mewn seremoni fawreddog ar 20 Ebrill - ynghyd â’n partneriaid eraill yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys y GIG a Llywodraeth Cymru.
Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru Darllen mwy about Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9.3 miliwn i gefnogi’r camau i ddatblygu cylchffordd rasio moduron yng Nglynebwy, ac mae wedi cytuno ar £16 miliwn o gyllid ad-daladwy pellach. Ond, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ceir diffygion sylweddol o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r risgiau perthnasol i arian y trethdalwyr. Hyd yma, mae’r cyllid cychwynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiect Cylchffordd Cymru yn cynnwys:
Daliwch i fyny ar weminar diweddaraf Y Gyfnewidfa Arfer Da Darllen mwy about Daliwch i fyny ar weminar diweddaraf Y Gyfnewidfa Arfer Da Cynhaliodd ein tîm Y Gyfnewidfa Arfer Da gweminar yn ddiweddar ar Integreiddio Technoleg Gwybodaeth drwy Safonau Agored. Pwrpas y gweminar oedd i rannu gwybodaeth i'r gwylwyr ar sut y gellir rhoi Safonau Agored ar waith, yn ogystal â'r gallu i gysylltu'r safonau â'u gwaith eu hunain a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.
Barod i ymuno â thîm cyfathrebu gwobrwyedig? Darllen mwy about Barod i ymuno â thîm cyfathrebu gwobrwyedig? Ydych chi'n angerddol am gyfathrebu? Oes gennych chi'r ddawn o ddenu pobl at gynnwys gwych gan ddefnyddio'r sianel fwyaf priodol? Rydym yn edrych am unigolyn profiadol o fewn cysylltiadau cyhoeddus i weithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu o fewn ein tîm gwobrwyedig. Hoffem rywun sy'n wych am ysgrifennu; cynllunio ymgyrchoedd; ffilmio a golygu; rheoli digwyddiadau a chysylltu â'r cyfryngau.