Sefydliad agored a thryloyw
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach.
Rydym wedi ymrwymo i ddangos ein bod yn agored a dangos tryloywder yn y ffordd rydym yn gweithredu ein busnes a sut rydym yn cyfathrebu â'r cyhoedd.
Trefniadau ansawdd archwilio
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau. Rydym wedi datblygu methodolegau archwilio i gydymffurfio â Safonau Rhyngwladol sy'n cael eu hystyried yn arfer proffesiynol gorau.
Mae ein trefniadau ansawdd archwilio yn cyd-fynd â Safon Ryngwladol y Cyngor Adrodd Ariannol (FRC) ar Reoli Ansawdd 1 (yn dod i rym ar 15 Rhagfyr 2022).
Rydym wedi sefydlu polisïau a gweithdrefnau i gyflawni a monitro ansawdd archwilio yn barhaus. Mae Adroddiad Ansawdd Archwilio 2023 yn nodi:
- Ein hymrwymiad i ansawdd;
- Y model tair llinell sicrwydd; a
- Canlyniad ein trefniadau monitro ansawdd.
Polisi cyflogau a chyflogau uwch reolwyr
Mae ein Polisi Cyflog [agorir mewn ffenestr newydd] yn cwmpasu ein holl weithwyr.
Mae manylion am dâl ein prif reolwyr ar gael yn yr adroddiad taliadau o fewn yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon.