Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
O bryd i'w gilydd gall adroddiadau'r Archwilydd Cyffredinol a chyhoeddiadau eraill yr Archwilydd Cyffredinol neu Swyddfa Archwilio Cymru gynnwys gwybodaeth sy'n destun hawlfraint y Goron, megis lle rydym wedi atgynhyrchu gwybodaeth a gynhyrchwyd yn uniongyrchol gan un o gyrff y Goron. Mewn achosion o'r fath, bydd yr Archwilydd Cyffredinol neu Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnwys datganiad hawlfraint a dylai defnyddwyr gymryd sylw o'r datganiad hwn a gweithredu yn unol ag ef. Gweinyddir hawlfraint y Goron gan Llyfrfa ei Mawrhydi. I weld Nodiadau Canllaw Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) ar faterion hawlfraint amrywiol, ewch i wefan OPSI [Agorir mewn ffenest newydd].
Nid yw'r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am ddeunydd sydd ar gael ar wefannau allanol.
Os ydych yn cynnal neu'n datblygu gwefan, nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu'n uniongyrchol â thudalennau ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru. Fodd bynnag, ni ddylech roi dolen â gwybodaeth ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru mewn unrhyw fodd sy'n awgrymu perthynas â, neu gymeradwyaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru, neu sydd yn camfynegi bod cynnwys Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i gyhoeddi gan unrhyw un heblaw Swyddfa Archwilio Cymru.