Ein gwaith

Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am archwilio’r rhan fwyaf o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid a bleidleisir amdano gan Cynulliad Cenedlaethol bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu rhan helaeth o’r cyllid yma i’r GIG a llywodraeth leol.

Gwaith archwilio

Mae ein gwaith archwilio yn cynnwys:

  • Archwilio ariannol – archwilio cyfrifon mewn amryw o gyrff cyhoeddus i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei gyfrifo’n gywir. 

  • Archwilio perfformiad  astudiaethau gwerth am arian a gwaith perfformiad lleol. 

Arfer da

Trwy ein gwaith rydym yn dod ar draws arferion da ac yn rhannu hyn trwy ein Cyfnewidfa Arfer Da a chyfryngau eraill, gan gynnwys digwyddiadau dysgu ar y cyd ac adnoddau. 

Gallwch gael mwy o wybodaeth amdanom a sut ydym yn gweithio â sefydliadau eraill ar adroddiadau ar y cyd.