Cyngor Conwy Yn Cael Ei Reoli A'i Lywodraethu'n Dda Yn Gyffredinol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dod i'r casgliad bod y Cyngor yn cael ei reoli a'i lywodraethu’n dda yn gyffredinol a bod ganddo record o welliant cyson, ond mae ganddo lawer i'w wneud i gyflawni'r arbedion angenrheidiol yn y dyfodol.

Archwilydd Cyffredinol yn annerch cynghorau tref ar bwysigrwydd llywodraethu da

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn y gynhadledd, oedd â’r teitl ‘Ensuring strong and effective financial governance in Community and Town Councils’, a gynhaliwyd ar 15fed o Fai yn Venue Cymru, siaradodd yr Archwilydd Cyffredinol am yr angen am well llywodraethu a'r rôl y bydd Swyddfa Archwilio Cymru’n ei chwarae wrth helpu cynghorau tref a chlercod i fodloni eu gofynion cyfrifyddu blynyddol.

Prif Araith [PDF 91KB Agorir mewn ffenest newydd]

Gofyn Am Brofiadau Cleifion a Pherthnasau o Amseroedd Aros y GIG

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gofynnir i gleifion a pherthnasau i rannu eu profiadau o aros am lawdriniaethau wedi'u cynllunio. Bydd arolwg Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n cael ei lansio heddiw, yn casglu profiadau cleifion o bob cwr o'r wlad i helpu i werthuso sut y mae'r GIG yng Nghymru yn rheoli amseroedd aros.

Heddiw, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

Archwilydd Cyffredinol yn Archwilio i Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru Mewn Band Eang

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae’r archwiliad yn rhan o’i raglen o adolygiadau gwerth am arian a bydd yn ateb y cwestiwn: "Yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru o gyflwyno seilwaith band eang i aelwydydd a busnesau yn debygol o gyflawni’r buddiannau a fwriadwyd?"

Trefniadau Rheoli Rhaglenni Diweddaraf Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru ‘Wedi Gwella’

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae rhaglenni cyllid strwythurol yr UE 2007-2013 - sy’n helpu i sicrhau swyddi, twf a datblygiad cynaliadwy - wedi gwneud cynnydd da o gymharu â rhaglenni blaenorol. Ond, mae’n rhy gynnar i asesu’r effaith gyffredinol. Canfu adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, er gwaethaf rhai anawsterau yn y camau cychwynnol, fod y rhaglenni 2007-2013 wedi elwa yn sgil gwell trefniadau rheoli. Ac er nad yw effaith gyffredinol y rhaglenni yn gwbl amlwg am beth amser ôl iddynt ddod i ben, gwelir arwyddion cadarnhaol yn sgil gwerthusiadau parhaus.

Gwendidau Difrifol Wrth Roi Arian Grant I Ganolfan Cywain

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Wrth roi arian grant i Ganolfan Cywain, atyniad treftadaeth gwledig i dwristiaid yn y Gogledd, ni wnaeth Llywodraeth Cymru na chyllidwyr eraill y sector cyhoeddus herio’n ddigonol y rhagdybiaethau diffygiol ynglŷn â’r incwm y byddai’r Ganolfan yn ei greu a’r diffyg eglurder ynglŷn â’r hyn yr oedd y Ganolfan i fod i’w gynnig. Roedd y cyllidwyr hefyd wedi methu rhoi’r camau priodol ar waith i leihau’r perygl y byddai’r Ganolfan yn methu. Dyma brif ganfyddiadau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a gyhoeddir heddiw.

Prawf bod model Archwilio Cymru yn llwyddo i ddilyn hynt arian cyhoeddus yn effeithiol ar draws haenau llywodraeth

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae cysondeb trefniadau archwilio'r wlad o fudd i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn adroddiad newydd gan ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) o'r enw Breaking out: public audit’s new role in a post-crash world [PDF 445KB Agorir mewn ffenest newydd].

Mae gwasanaethau cyflyrau cronig wedi gwella, ond mae angen gwneud mwy

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae’r adroddiad a gyhoeddir heddiw yn canolbwyntio ar y cynnydd sydd wedi’i wneud i wella gwasanaethau cyflyrau cronig yng Nghymru ers cyhoeddi adroddiad blaenorol yr Archwilydd Cyffredinol yn 2008.

Mae cyflyrau cronig yn her gynyddol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 800,000 o bobl yn nodi bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig fel diabetes, clefyd y galon, neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae nifer yr achosion o gyflyrau cronig yn cynyddu gydag oedran, sy’n debygol o roi mwy o bwysau ar y system iechyd wrth i fwy o bobl fwy’n hŷn.

Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru Wedi ‘Cyflawni Ei Hamcanion’

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni amcanion ei Strategaeth Leoli, ac, erbyn Ebrill 2012, roedd wedi adleoli mwy na 550 o swyddi o Gaerdydd i dair swyddfa newydd ym Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno. Ond, mae ansicrwydd ynghylch gwerth am arian cyffredinol y Rhaglen Strategaeth Leoli, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Trefniadau cynnydd ac ymyriadau yn y GIG

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae dogfen wedi ei chyhoeddi [Agorir mewn ffenest newydd] sy’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cydweithio er mwyn rhannu gwybodaeth, ac ymateb, pan fo materion o bwys yn codi mewn cyrff y GIG yng Nghymru.