Canllaw newydd yr Archwilydd Cyffredinol yn rhoi i ni'r gwir am gyllid cyhoeddus Cymru Darllen mwy about Canllaw newydd yr Archwilydd Cyffredinol yn rhoi i ni'r gwir am gyllid cyhoeddus Cymru Heddiw, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ganllaw defnyddiol ar gyllid cyhoeddus yng Nghymru. Fe'i cynlluniwyd i helpu'r sector cyhoeddus, gwleidyddion, academyddion, y cyfryngau a sefydliadau perthnasol eraill. Mae'n nodi rhai materion allweddol y dylai'r rhai sy'n ymwneud â chraffu ar gyllid cyhoeddus eu cadw mewn cof.
Mae gwasanaethau y tu allan i oriau o dan straen Darllen mwy about Mae gwasanaethau y tu allan i oriau o dan straen Mae gwasanaethau y tu allan i oriau yn darparu gofal sylfaenol brys pan fydd meddygfeydd ar gau. Maent yn rhan o gyfundrefn gofal brys ehangach sy’n cynnwys Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, Galw Iechyd a’r gwasanaeth 111 sydd ar ddod. Dengys yr adroddiad fod gwasanaethau y tu allan i oriau o dan gryn straen, er gwaethaf yr adborth cadarnhaol a geir gan gleifion. Mae lefelau isel o forâl ymhlith y staff ac anawsterau wrth lenwi sifftiau yn bygwth cadernid gwasanaethau yn sawl rhan o Gymru, ac mae angen ymateb mwy cynaliadwy i’r heriau hyn.
Blwyddyn gynhyrchiol i archwilio cyhoeddus yng Nghymru Darllen mwy about Blwyddyn gynhyrchiol i archwilio cyhoeddus yng Nghymru Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2018 wedi'u cyhoeddi erbyn hyn, a dyma fydd y rhai olaf i'r Archwilydd Cyffredinol presennol cyn iddo ymddeol. Dengys, diolch i broffesiynoldeb, ymroddiad a gwaith caled staff Swyddfa Archwilio Cymru, i ni gyflawni ein rhaglen eang o waith i safon uchel yn llwyddiannus.
Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood Darllen mwy about Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood Mae’n cyflwyno’r ffeithiau’n gysylltiedig â’r Cytundeb Cydweithredu a lofnododd y ddau gorff ym mis Chwefror 2014 i hyrwyddo cynyrchiadau teledu a ffilm yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn disgrifio’r digwyddiadau a arweiniodd at ddiddymu’r cytundeb hwnnw, ynghyd â manylion y Cytundeb Gwasanaethau Rheoli olynol a ddechreuodd fis Tachwedd 2017.
Mae buddsoddiad cynghorau mewn llety i oedolion ag anableddau dysgu yn ateb y galw presennol Darllen mwy about Mae buddsoddiad cynghorau mewn llety i oedolion ag anableddau dysgu yn ateb y galw presennol Mae angen i awdurdodau lleol fynd i'r afael â heriau sylweddol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu anghenion llety hirdymor pobl ag anableddau dysgu a'u gofalwyr. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Helpwch i lywio ein harchwiliadau a'r pynciau a ddewiswn Darllen mwy about Helpwch i lywio ein harchwiliadau a'r pynciau a ddewiswn Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn galw ar aelodau o'r cyhoedd a phobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus i fynegi eu barn ar y pynciau a'r themâu y dylai’r Archwilydd Cyffredinol eu hystyried. Bydd yr adborth a gesglir yn helpu i lywio'r rhaglen waith ar gyfer corff gwarchod y sector cyhoeddus yn y dyfodol.
Mae’n rhaid i gamau gweithredu gyfateb â brwdfrydedd os yw uchelgais llesiant cenedlaethau’r dyfodol i gael ei wireddu yng nghymru Darllen mwy about Mae’n rhaid i gamau gweithredu gyfateb â brwdfrydedd os yw uchelgais llesiant cenedlaethau’r dyfodol i gael ei wireddu yng nghymru Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cymryd camau i newid y ffordd y maent yn gweithio mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 [agorir mewn ffenest newydd] ac mae llawer yn siarad amdani â brwdfrydedd a gobaith. Fodd bynnag, mae angen iddynt ystyried sut y byddant yn cymhwyso’r Ddeddf yn fwy systematig os ydynt yn mynd i ysgogi ffordd wahanol o weithio yn y tymor hwy.
Ymunwch â’n tîm cyfathrebu sydd wedi ennill sawl gwobr! Darllen mwy about Ymunwch â’n tîm cyfathrebu sydd wedi ennill sawl gwobr! Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu llawn amser (tymor sefydlog am o leiaf 12 mis) i helpu hyrwyddo gwaith Swyddfa Archwilio Cymru – ai chithau yw’r person hwn? Os oes gennych brofiad o ddenu pobl gyda deunydd rhagorol, cydlynu digwyddiadau a chynhyrchu deunydd fideo creadigol, yna fe all y swydd hon fod yr un i chi! Canfuwch fwy a gwnewch gais cyn 8 Mai.
Mae angen mwy o gymorth ar bobl sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu i'w helpu i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus Darllen mwy about Mae angen mwy o gymorth ar bobl sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu i'w helpu i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus Gall cyrff cyhoeddus wneud mwy i helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu i gael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Dyma gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw.
Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yng Nghymru Darllen mwy about Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yng Nghymru Mae’n cyhoeddiad diweddaraf yn dwyn ynghyd amrediad o ddata i ddarparu cipolwg o wasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru. Rydym wedi casglu gwybodaeth ar: