Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn creu sail ar gyfer y ffordd mae’r Archwilydd Cyffredinol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru [agorir mewn ffenest newydd] yn cydweithio ar feysydd o gyd-ddiddordeb. Yn benodol y meysydd hynny o gyfrifoldebau tebyg yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Allbynnau Cynhadledd Dyfodol Diamod ar-lein nawr

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Daeth y digwyddiad ag unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ar draws Cymru ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster mewn cyllid ynghyd.

Roedd digwyddiad eleni yn dilyn llwyddiant ysgubol cynhadledd y llynedd drwy drafod y newidiadau a’r heriau sy’n debygol o fwrw gweithwyr cyllid yn ystod eu gyrfa a chafodd ei redeg gan weithwyr blaengar yn y maes.

A yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cyflawni dros Gymru?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, gwariodd cyrff cyhoeddus £234 miliwn trwy'r GCC yn ystod 2016–17, ond roedd hyn yn llawer llai na'r rhagamcanion blaenorol.

Er bod y gwariant trwy ei drefniadau caffael wedi cynyddu o un flwyddyn i'r llall ers iddo ddechrau yn 2013, nid yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r GCC cymaint ag y disgwylid. O'r £234 miliwn a wariwyd trwy'r GCC yn ystod 2016–17, £222 miliwn a wariwyd gan y 73 sefydliad sy’n aelodau. Roedd cynllun busnes 2015 y GCC wedi targedu ffigur o £2.2 biliwn.

Swyddfa Archwilio Cymru yn ennill tair gwobr ar draws y busnes

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi ennill tair gwobr ar wahân o fewn wythnos, a hynny gan ddau gorff proffesiynol mawr eu bri – Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) a'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR).
Enillodd y Cyfarwyddwr Archwilio Ariannol, Ann-Marie Harkin, Wobr Cymru CIPFA ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol y Flwyddyn. 
Enillodd tîm cyllid Swyddfa Archwilio Cymru y wobr Tîm Cyllid y Flwyddyn am eu gwaith yn cyhoeddi cyfrifon y sefydliad o fewn 10 wythnos wedi diwedd y flwyddyn, ac yn gynt na'r cyrff archwilio eraill

A yw trefniadau caffael yn rhoi gwerth am arian i gyrff cyhoeddus Cymru?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn 2015–16, gwariodd cyrff cyhoeddus yng Nghymru oddeutu £6 biliwn trwy drefniadau caffael ar amrediad o nwyddau, gwasanaethau a gwaith, ond mae angen iddynt wella eu perfformiad i sicrhau gwerth am arian. Mewn tirwedd sy'n newid, mae cyrff cyhoeddus yn wynebu heriau wrth gydbwyso blaenoriaethau caffael a allai fod yn gystadleuol, ymateb i bolisi, deddfwriaeth a thechnoleg newydd, ac wrth recriwtio a chadw personél allweddol.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dymuno penodi yr Archwilydd Cyffredinol nesaf

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Gellir dod o hyd i’r hysbyseb ar wefan y Cynulliad [agorir mewn ffenest newydd], y dyddiad cau yw hanner dydd ar 8 Tachwedd 2017.
Mae swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn benodiad gan y Goron, ar sail tymor sefydlog 8 mlynedd yn unol ag enwebiad gan y Cynulliad.
Mae’r Archwilydd Cyffredinol presennol, sydd am ymddeol y flwyddyn nesaf, wedi bod yn ei swydd ers 2010.

Sut y mae cynghorau yng Nghymru yn ymdrin â newid gwasanaeth

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae cynghorau yng Nghymru yn gorfod gwneud penderfyniadau pwysig am ffurf a lefel y gwasanaethau a gaiff eu darparu ganddynt yn y dyfodol. Ac, yn gyffredinol, mae ganddynt weledigaeth, blaenoriaethau a threfniadau clir yn eu lle er mwyn gwneud hyn. Ond, mae ein hadroddiad wedi canfod y gallai cynghorau wella trefniadau i fonitro'r effaith ar gymunedau lleol yn sgil gwneud newidiadau sylweddol i wasanaethau. 

Eisiau gweithio ar gyfer corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Dylunydd Graffeg

Ydych chi’n Ddylunydd Graffeg dawnus? Ymunwch â ni!

Rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg profiadol i ymuno â’r Tîm Cyfathrebu am gyfnod penodol o 12 mis.

Byddwch yn atebol i’r Pennaeth Cyfathrebu, a byddwch yn creu dyluniadau gweledol arloesol a thrawiadol – ar-lein ac all-lein – i gynorthwyo Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru i rannu eu negeseuon allweddol a’u canfyddiadau data’n effeithiol â chynulleidfa eang.

Rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu gwasanaethau pwysig ond mae angen iddi wella

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £124.5 miliwn yn ei Rhaglen Cefnogi Pobl (y Rhaglen) yn 2016-17, i gynorthwyo pobl sy'n agored i niwed mewn amrywiaeth o amgylchiadau i fyw mor annibynnol â phosibl. Er gwaethaf rhai gwelliannau, nid yw'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon hirsefydlog o ran y gwaith o'i chynllunio a'i chyflawni wedi bod yn effeithiol bob amser, bu'r cynnydd yn araf mewn rhai meysydd allweddol a cheir anghysondebau o ran rheoli'r Rhaglen ar lefel leol a rhanbarthol. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.