Gwendidau Llywodraethu wedi bygwth hygrededd prosiect tyrbin gwynt Sir Gaerfyrddin Darllen mwy about Gwendidau Llywodraethu wedi bygwth hygrededd prosiect tyrbin gwynt Sir Gaerfyrddin Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £810,000 i helpu i adeiladu tyrbin gwynt CELT2 yn Sir Gaerfyrddin. Er bod y tyrbin yn gweithio’n llwyddiannus, mae nifer o wendidau llywodraethu wedi’u nodi, gan gynnwys rhai yn ymwneud â’r broses o reoli gwrthdaro buddiannau. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dull Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o ddyfarnu contractau ymgynghori "yn llawer is na'r safonau disgwyliedig" Darllen mwy about Dull Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o ddyfarnu contractau ymgynghori "yn llawer is na'r safonau disgwyliedig" Mae'r modd yr aeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ati i gaffael a rheoli contractau ymgynghori AD yn llawer is na'r safon y mae gan y cyhoedd hawl i'w disgwyl gan gorff cyhoeddus. Dyna yw neges adroddiad, a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol er budd y cyhoedd heddiw.
Ymunwch â ni fel Cynorthwyydd y Gyfraith a Moeseg! Darllen mwy about Ymunwch â ni fel Cynorthwyydd y Gyfraith a Moeseg! Rydyn ni’n chwilio am Gynorthwyydd y Gyfraith a Moeseg rhan amser i ddarparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol i Archwilydd Cyffredinol Cymru a staff Swyddfa Archwilio Cymru. Fe fyddwch yn cefnogi Pennaeth y Gyfraith a Moeseg wrth geisio cyngor cyfreithiol ar amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys enghreifftiau fel deddfwriaeth newydd yn ymwneud a chyrff cyhoeddus Cymru.
Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddf cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) i sicrhau cynllunio gwell o ran gwasanaethau a chyllid Darllen mwy about Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddf cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) i sicrhau cynllunio gwell o ran gwasanaethau a chyllid Ers i Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) ddod i rym yn 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r gwariant arfaethedig ar iechyd, ond wedi parhau i ddibynnu ar gyllid ychwanegol i fynd i'r afael â phwysau a blaenoriaethau o fewn blwyddyn.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn symud i’r cyfeiriad cywir Darllen mwy about Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn symud i’r cyfeiriad cywir Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Phrif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i barhau i roi “arweiniad egnïol, dewr ac amlwg” i adeiladu ar y cynnydd y mae eisoes wedi’i wneud o ran gwella gwasanaethau.
Ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol – helpu gwneud i arian cyhoeddus gyfrif Darllen mwy about Ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol – helpu gwneud i arian cyhoeddus gyfrif Rydym wedi llwyddo i gyflawni y rhaglen gyfan o waith a draethwyd yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2016-17. Ymhlith ein cylch gwaith eang gwnaethom roi barn ar gyfrifon oddeutu 800 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru a chyhoeddi 15 o adroddiadau cenedlaethol.
Oes gennych ddawn o ddenu pobl at ddeunydd rhagorol? Darllen mwy about Oes gennych ddawn o ddenu pobl at ddeunydd rhagorol? Rydym yn edrych am Swyddog Cyfathrebu i helpu creu cynnwys sy’n denu diddordeb, megis blogiau, datganiadau i’r wasg, Testun i’r we, meicrowefannau a chylchlythyron gan deilwra’r iaith yn effeithiol yn ôl y gynulleidfa targed a sianel. Mae’r swydd fel arfer yn denu pwll cyfoethog ag amrywiol er mwyn cynghori a chynorthwyo gydag ymholiadau gan y cyhoedd, newyddiadurwyr a rhanddeiliaid eraill.
Mae cynghorau yng Nghymru yn gwella eu cynllunio ariannol ar gyfer y tymor canolig Darllen mwy about Mae cynghorau yng Nghymru yn gwella eu cynllunio ariannol ar gyfer y tymor canolig Mae’r rhan fwyaf o gynghorau Cymru wedi gwella eu cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor canolig ac, erbyn hyn, mae ganddynt ddull effeithiol o ragamcanu yr arbedion y mae angen iddynt eu cyflawni. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Canfu’r adroddiad hefyd fod gan gynghorau fwy i’w wneud i gynllunio'r modd y maent yn bwriadu pontio’r bwlch cyllid sydd wedi’i nodi ganddynt, sydd yn tanseilio eu cynlluniau ariannol ar gyfer y tymor canolig.
Ydych chi’n archwilydd â chymhwyster CCAB? Ymunwch â ni! Darllen mwy about Ydych chi’n archwilydd â chymhwyster CCAB? Ymunwch â ni! Mae Practis Archwilio Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru yn dymuno recriwtio tri archwilydd sy'n meddu ar gymhwyster CCAB. Os yn llwyddiannus, prif gyfrifoldebau'r swydd yw:
Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio ysgolion yn cael ei rheoli’n dda ar y cyfan Darllen mwy about Mae rhaglen Llywodraeth Cymru i foderneiddio ysgolion yn cael ei rheoli’n dda ar y cyfan Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen Addysg ac Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain yn 2009 a’i nod oedd adeiladu ac ailwampio ysgolion ar hyd a lled Cymru. Dechreuodd Band A yn 2014. Mae adroddiad a ryddhawyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dod i’r casgliad fod Llywodraeth Cymru yn rheoli’r rhaglen yn dda ar y cyfan, ond bydd angen iddi egluro rhai o’i disgwyliadau manwl a gwneud rhai newidiadau i ymateb i’r newidiadau arfaethedig yn y modd y caiff y rhaglen ei gweithredu a’i hariannu i sicrhau bod buddsoddiad y sector cyhoeddus yn creu mwy o werth am arian y