Cyngor Dinas Caerdydd - Gwaith Dilynol ar yr Asesiad Corfforaethol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi gosod trefniadau gwell yn eu lle i gefnogi gwelliant a mynd i'r afael â phroblemau hirsefydlog, ond mae bellach wedi cyrraedd pwynt allweddol o ran eu hymgorffori os yw am gyflawni newid sylweddol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Dyna gasgliad adroddiad dilynol asesiad corfforaethol yr Archwilydd Cyffredinol a gyhoeddwyd heddiw.

Mae angen i fyrddau iechyd gryfhau eu trefniadau ar gyfer rheoli effaith ymarfer preifat ar y GIG

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, er bod ymarfer preifat yn cynrychioli lefel fechan iawn o weithgarwch o’i gymharu â chyfanswm y gweithgarwch GIG a gynhelir yng Nghymru, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dod i’r casgliad nad oes gan fyrddau iechyd y trefniadau rheoli i sicrhau nad yw gwaith ymarfer preifat yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau’r GIG.

Cyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfa gref i gyflawni’r buddiannau a fwriadwyd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Trawsgrifiad Cymraeg  - Saesneg yn unig [Word 14KB Agorir mewn ffenest newydd]

Mae mabwysiadu dull cadarn a threfnus i sefydlu’r corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru yn golygu bod ganddo’n awr sylfaen cadarn i barhau i gyflawni’r buddiannau a fwriadwyd wrth ei greu ac ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau y bydd yn eu hwynebu yn y dyfodol. Dyna a ddywed adroddiad a ryddhawyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

Ymgymerodd Llywodraeth Cymru â phroses sicrhau diwydrwydd dyladwy priodol ar gyfer prynu Maes Awyr Caerdydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

TMae'r Archwilydd Cyffredinol heddiw wedi cyhoeddi ei adroddiad ar gaffaeliad a pherchnogaeth Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd.

Mae'r adroddiad yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn pryderu'n fwyfwy am ddirywiad y Maes Awyr yn y blynyddoedd cyn y caffaeliad, er ymdrechion i roi cymorth ac, yn ddiweddarach, i wella ei pherthynas gweithio â pherchnogion y maes awyr. Roedd Llywodraeth Cymru yn ystyried y byddai perchnogaeth gyhoeddus yn rhoi’r sefydlogrwydd a'r ymroddiad a oedd eu hangen ar y Maes Awyr er mwyn ei ddatblygu yn y tymor hir.

Cyngor pen-y-bont ar ogwr yn gwneud cynnydd da tuag at sicrhau gwelliant ar gyfer y dyfodol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu cynlluniau priodol ar gyfer y dyfodol, a chyhyd â'i fod yn sicrhau bod ei swyddogaethau TGCh yn gydnaws â’i adnoddau dynol o fewn ei raglen weddnewid, mae mewn sefyllfa dda i sicrhau gwelliant. Dyna yw casgliad adroddiad asesu corfforaethol a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol heddiw.

Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

Cyfrifon Llywodraeth Leol 2014-15

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Heddiw mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi rhyddhau ei bumed adroddiad ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol. Mae’r adroddiad yn edrych ar effeithiolrwydd cyrff a archwilir (o awdurdodau unedol i barciau cenedlaethol) wrth baratoi eu cyfrifon ar gyfer eu harchwilio ar ddiwedd y flwyddyn.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas, heddiw: Er gwaethaf yr addasiadau materol, roedd modd i mi gyflwyno barn ddiamod ar gyfer datganiadau cyfrifyddu pob corff.