Hoffech chi weithio i gorff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru? Rydyn ni’n chwilio am Archwilwyr Perfformiad

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydyn ni’n chwilio am dri Archwiliwr Perfformiad (PS1) cymwys a phrofiadol i ymuno â ni ar unwaith o fewn y timau cyflwyno iechyd a llywodraeth leol, ar sail barhaol.

Fe fyddech chi’n gyfrifol am bob agwedd o drefnu gwaith, yn ogystal â chyfrannu at ei ddyluniad a’i chwmpas, ymchwilio a chasglu data, paratoi tystiolaeth a chyflwyno canfyddiadau i’r cyrff a archwilir.

Rhagolygon cadarnhaol i gyfrifon llywodraeth ganolog ond mae lle i wella mewn rhai meysydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gwnaeth pob un o 23 o gyrff llywodraeth ganolog Cymru gyflwyno eu cyfrifon i'w harchwilio yn brydlon ac yn gyffredinol i safon dda yn 2015-16. Fodd bynnag, mewn adroddiad newydd a ryddheir heddiw, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn annog rhagor o sefydliadau i ddefnyddio rhestrau gwirio datgelu cyfrifon er mwyn gwella ansawdd trefniadau sicrwydd.

Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9.3 miliwn i gefnogi’r camau i ddatblygu cylchffordd rasio moduron yng Nglynebwy, ac mae wedi cytuno ar £16 miliwn o gyllid ad-daladwy pellach. Ond, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ceir diffygion sylweddol o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r risgiau perthnasol i arian y trethdalwyr.

Hyd yma, mae’r cyllid cychwynnol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiect Cylchffordd Cymru yn cynnwys:

Daliwch i fyny ar weminar diweddaraf Y Gyfnewidfa Arfer Da

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Cynhaliodd ein tîm Y Gyfnewidfa Arfer Da gweminar yn ddiweddar ar Integreiddio Technoleg Gwybodaeth drwy Safonau Agored.

Pwrpas y gweminar oedd i rannu gwybodaeth i'r gwylwyr ar sut y gellir rhoi Safonau Agored ar waith, yn ogystal â'r gallu i gysylltu'r safonau â'u gwaith eu hunain a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol.

Barod i ymuno â thîm cyfathrebu gwobrwyedig?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ydych chi'n angerddol am gyfathrebu? Oes gennych chi'r ddawn o ddenu pobl at gynnwys gwych gan ddefnyddio'r sianel fwyaf priodol?

Rydym yn edrych am unigolyn profiadol o fewn cysylltiadau cyhoeddus i weithio fel Uwch Swyddog Cyfathrebu o fewn ein tîm gwobrwyedig. Hoffem rywun sy'n wych am ysgrifennu; cynllunio ymgyrchoedd; ffilmio a golygu; rheoli digwyddiadau a chysylltu â'r cyfryngau.

Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn gosod eu Cynllun ar gyfer 2017-18

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41
Mae’r Cynllun Blynyddol ar gyfer 2017-18 yn adeiladu ar yr adborth y cawsom gan amrywiaeth eang o randdeiliaid i’r ddogfen ymgynghori ddiweddar Strategaeth ddrafft i Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru 2017-2020. 
Ochr yn ochr â nifer o ddiwygiadau allweddol i’n rhaglenni gwaith, rydym wedi darparu disgrifiad o’r ffactorau yr ydym ni a’n rhanddeiliaid yn credu y bydd yn cael y dylanwad mwyaf dros y ffordd yr ydym yn cyflawni ein gwaith dros y tair blynedd nesaf, ac wedi ailddiffinio themâu strategol sy’n sail i sut y byddwn y

Mae cyrff lywodraeth leol yn parhau i wynebu heriau wrth baratoi a gwella cyfrifon blynyddol prydlon

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gwnaeth cyrff llywodraeth leol Cymru wella ansawdd eu cyfrifon blynyddol cyn archwilio ar gyfer 2015-16, ond maent yn dal i wynebu heriau yn y tymor canolig i wella a pharatoi eu cyfrifon i fodloni terfynau amser statudol cynharach. Mae hyn yn ôl adroddiad a ryddhawyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Colegau addysg bellach yn ymdopi â thoriadau Llywodraeth Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Er gwaethaf toriadau mewn grantiau, mae trefniadau dyrannu cyllid a goruchwylio Llywodraeth Cymru ar gyfer colegau addysg bellach yn gadarn ar y cyfan, er y byddent yn elwa o ddull mwy integredig a hirdymor. Mae hyn i’w weld mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Cydnabyddiaeth allanol i ymrwymiad Swyddfa Archwilio Cymru i amrywiaeth a chydraddoldeb

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn y flwyddyn gyntaf o fod ar y Mynegai, daethom yn safke 251 allan o 439 o gyflogwyr ledled y DU, gyda sgôr o 66.5, gan hybu Stonewall i gydnabod safle cyntaf rhagorol y sefydliad.