Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Gwasanaethau cynllunio yn cael rhy ychydig o adnoddau ac yn tanberfformio

09 Tachwedd 2020
  • Nid yw awdurdodau cynllunio yng Nghymru’n meddu ar y cydnerthedd y mae ei angen i gyflawni gwelliannau hirdymor, meddai’r Archwilydd Cyffredinol

    Mae gwasanaethau cynllunio yng Nghymru’n ei chael yn anodd rheoli system gymhleth yn wyneb capasiti annigonol ac adnoddau sy’n mynd yn llai. Dyna sy’n cael ei ddweud mewn adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (6 Mehefin 2019) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

    Dengys yr adroddiad fod yr holl wasanaethau cynllunio wedi profi toriadau o 50% yn eu cyllideb yn y deng mlynedd ddiwethaf, ar ôl ystyried chwyddiant. Gyda llai o arian i ariannu gwasanaethau, mae capasiti swyddogion cynllunio’n gorfod ymestyn yn rhy bell ac mae sgiliau’n lleihau mewn meysydd allweddol. Ar ben hynny, mae nifer yr hyfforddeion sy’n ymuno â gwasanaethau cynllunio wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, gan godi pryderon ynghylch cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau.

    Mae’r adroddiad hefyd yn dwyn ynghyd farn y cyhoedd o arolwg Cymru gyfan, lle canfuwyd datgysylltiad cynyddol rhwng yr hyn y mae ar bobl ei eisiau gan eu hawdurdod cynllunio a’r hyn y mae eu hawdurdod cynllunio’n gallu ei ddarparu. Dywedodd 67% o’r dinasyddion a arolygwyd nad yw awdurdodau cynllunio lleol yn ymgysylltu’n effeithiol â hwy ynghylch eu cynigion cynllunio, ac mae nifer yn teimlo bod cynllunwyr yn canolbwyntio’n fwy ar geisiadau unigol yn hytrach na rhoi cymorth i greu cymdeithas well a mwy cynaliadwy.

    Mae’r penderfyniadau a wneir gan awdurdod cynllunio lleol yn effeithio arnom ni i gyd – gallant roi cymorth i ddatblygu cartrefi newydd, hybu cadwraeth, creu cyfleoedd gwaith a gwella seilwaith lleol. Ond tra bo cynllunwyr yn canolbwyntio ar geisiadau unigol, pryder dinasyddion Cymru yw nad oes digon yn cael ei wneud i greu cymunedau ffyniannus a chynaliadwy.

    ,
    Mae cynllunio da’n hanfodol ar gyfer cymunedau ffyniannus a chynaliadwy, ond mae angen gweledigaeth glir er mwyn i Gymru ffynnu. Rwy’n pryderu nad yw’r rhan fwyaf o awdurdodau cynllunio lleol wedi diffinio’n glir sut y mae gwasanaethau cynllunio’n cyfrannu at lesiant pobl a chymunedau. Mae fy argymhellion wedi’u bwriadu i helpu i wella capasiti a chydnerthedd, gweithio tuag at ymgysylltu gwell â’r cyhoedd, a phennu gweledigaeth glir, uchelgeisiol sy’n dangos sut y gall cynllunio helpu i wella llesiant. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Mae 25 o awdurdodau cynllunio yng Nghymru, sef y 22 o awdurdodau lleol a’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol.
    • Mae gan awdurdodau cynllunio lleol dair rôl allweddol: Polisi Cynllunio, Rheoli Datblygu a Rheoli Adeiladu.
    • Mae’r adroddiad yn ystyried y cynnydd a wnaed gan awdurdodau cynllunio lleol o ran cyflawni eu cyfrifoldebau newydd ac i ba raddau y maent yn gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried pa mor effeithlon ac effeithiol yw’r ‘system cynllunio lleol’, gan ganolbwyntio ar eu perfformiad, eu hincwm a gwariant i benderfynu pa mor gydnerth yw gwasanaethau. Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried prosesau penderfynu a gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid.
    •  Mae’r system gynllunio wedi cael ei diwygio’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, a’r penllanw yn hynny o beth oedd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a rhifyn diwygiedig Polisi Cynllunio Cymru
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol sector cyhoeddus datganoledig Cymru. Mae’n gyfrifol am gynnal archwiliadau blynyddol o’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan y Cynulliad Cenedlaethol na’r Llywodraeth. 
    • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, ynghylch arfer ei swyddogaethau
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru

    View more