Mae gwasanaethau cyflyrau cronig wedi gwella, ond mae angen gwneud mwy Darllen mwy about Mae gwasanaethau cyflyrau cronig wedi gwella, ond mae angen gwneud mwy Mae’r adroddiad a gyhoeddir heddiw yn canolbwyntio ar y cynnydd sydd wedi’i wneud i wella gwasanaethau cyflyrau cronig yng Nghymru ers cyhoeddi adroddiad blaenorol yr Archwilydd Cyffredinol yn 2008. Mae cyflyrau cronig yn her gynyddol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 800,000 o bobl yn nodi bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig fel diabetes, clefyd y galon, neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae nifer yr achosion o gyflyrau cronig yn cynyddu gydag oedran, sy’n debygol o roi mwy o bwysau ar y system iechyd wrth i fwy o bobl fwy’n hŷn.
Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru Wedi ‘Cyflawni Ei Hamcanion’ Darllen mwy about Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru Wedi ‘Cyflawni Ei Hamcanion’ Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni amcanion ei Strategaeth Leoli, ac, erbyn Ebrill 2012, roedd wedi adleoli mwy na 550 o swyddi o Gaerdydd i dair swyddfa newydd ym Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno. Ond, mae ansicrwydd ynghylch gwerth am arian cyffredinol y Rhaglen Strategaeth Leoli, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Trefniadau cynnydd ac ymyriadau yn y GIG Darllen mwy about Trefniadau cynnydd ac ymyriadau yn y GIG Mae dogfen wedi ei chyhoeddi [Agorir mewn ffenest newydd] sy’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cydweithio er mwyn rhannu gwybodaeth, ac ymateb, pan fo materion o bwys yn codi mewn cyrff y GIG yng Nghymru.
Beth yw eich barn am wasanaethau’r cyngor yng Ngheredigion? Darllen mwy about Beth yw eich barn am wasanaethau’r cyngor yng Ngheredigion? Mae gan Swyddfa Archwilio Cymru arolwg newydd sy’n gofyn i drigolion Ceredigion roi eu barn ar gyflawniad y Cyngor. Mae modd cwblhau’r arolwg ar-lein yn gyflym a hwylus a’r bwriad yw casglu barn dinasyddion lleol ar flaenoriaethau’r cyngor mewn meysydd penodol ac ar y pethau sydd wedi newid; ydyn nhw’n credu bod rhai meysydd gwasanaeth wedi gwella, gwaethygu neu aros yr un fath – a beth sydd angen ei wella.
Dau Archwilydd Dan Hyfforddiant Swyddfa Archwilio Cymru Yn Cipio Gwobrau O Fri Darllen mwy about Dau Archwilydd Dan Hyfforddiant Swyddfa Archwilio Cymru Yn Cipio Gwobrau O Fri Mae Dylan Rees a Neall Hollis ill dau wedi ennill gwobr Urdd Teilyngdod mewn Pwnc Rhyngwladol i gydnabod eu safonau cyflawniad uchel. Enillodd Dylan Rees, Archwilydd dan Hyfforddiant yn ei drydedd flwyddyn, wobr Knox am gael y marciau uchaf ledled y byd yn y papur Adroddiadau Ariannol yn arholiadau ACA ym mis Rhagfyr. Dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:
Seminar yn dangos y ffordd ymlaen Darllen mwy about Seminar yn dangos y ffordd ymlaen Heddiw croesawodd Swyddfa Archwilio Cymru uwch-arweinwyr ac ymarferwyr i’r seminar cyntaf mewn cyfres o seminarau dysgu ar y cyd a fydd yn ystyried Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i’r sawl a oedd yn bresennol gael gwybod mwy am y Bil a datblygu eu harfer eu hunain.
Llywodraethu da a chymryd risgiau a reolir yn dda Darllen mwy about Llywodraethu da a chymryd risgiau a reolir yn dda Darllenwch araith yr Archwilydd Cyffredinol [PDF 175KB Agorir mewn ffenest newydd] yng nghynhadledd diweddar Conffederasiwn GIG Cymru.
Taliadau Optio Allan O Gynllun Pensiwn Yng Nghyngor Sir Penfro Yn ‘Anghyfreithlon’ Darllen mwy about Taliadau Optio Allan O Gynllun Pensiwn Yng Nghyngor Sir Penfro Yn ‘Anghyfreithlon’ Roedd y penderfyniad i ganiatáu i rai uwch swyddogion yng Nghyngor Sir Penfro i dderbyn taliadau i gyfateb â chyfraniadau pensiwn y cyflogwr os ydynt yn optio allan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - i osgoi rhwymedigaethau posibl o ran treth - yn ‘anghyfreithlon’. Ac roedd y taliadau a wnaed yn dilyn hynny - er mwyn iddynt allu gwneud eu trefniadau eu hunain i gynilo ar gyfer ymddeol - hefyd yn groes i’r gyfraith, yn ôl yr Archwilydd Penodedig, Anthony Barrett.
Taliadau pensiwn ac enllib Cyngor Sir Caerfyrddin yn ‘anghyfreithlon’ Darllen mwy about Taliadau pensiwn ac enllib Cyngor Sir Caerfyrddin yn ‘anghyfreithlon’ Gweithredodd Cyngor Sir Caerfyrddin ‘yn groes i’r gyfraith’ drwy wneud penderfyniad sy’n caniatáu i uwch-swyddogion optio allan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – er mwyn osgoi rhwymedigaethau posibl o ran treth – a derbyn taliad, yn gyfwerth â’u cyfraniadau pensiwn, er mwyn eu galluogi i wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer ymddeol. Yn ogystal, gweithredodd y Cyngor yn anghyfreithlon pan benderfynodd roi indemniad i’r Prif Weithredwr er mwyn dwyn gwrth-hawliad ynghylch enllib yn erbyn unigolyn.
Cynghorau: ‘Angen Cael Gafael Tymor Hwy Ar Yr Heriau Ariannol Sy'n Eu Hwynebu!’ Darllen mwy about Cynghorau: ‘Angen Cael Gafael Tymor Hwy Ar Yr Heriau Ariannol Sy'n Eu Hwynebu!’ Mae Cynghorau yng Nghymru wedi llwyddo i ateb yr heriau ariannol hyd yma - er gwaethaf y pwysau sylweddol - ond mae'r craciau yn dechrau ymddangos. Yn ei adroddiad, a gyhoeddir heddiw, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru y bydd awdurdodau lleol yn dod yn fwyfwy dibynnol ar roi trefniadau cadarn a phriodol ar waith er mwyn sicrhau arbedion effeithlonrwydd, ond nad oes gan lawer ohonynt y fath drefniadau ar hyn o bryd.