Tîm o staff yn barod am Her Tri Chopa Cymru Darllen mwy about Tîm o staff yn barod am Her Tri Chopa Cymru Mae’r daith, fydd yn cynnwys mynyddoedd Yr Wyddfa yn y Gogledd, Cadair Idris yng Nghanolbarth Cymru, a Phen y Fan yn y De, i gyd er mwyn codi arian at yr elusen Changing Faces, a ddewiswyd gan aelodau o staff yn y gynhadledd flynyddol y llynedd. Mae’r tîm eisoes wedi codi £2,061 a hoffem ddymuno llongyfarchiadau a phob lwc i’r tîm wrth iddyn nhw ddringo 30km mewn un diwrnod!
Y Fenter Twyll Yn Nodi £4 Miliwn O Achosion O Dwyll A Gordaliadau Yng Nghymru Darllen mwy about Y Fenter Twyll Yn Nodi £4 Miliwn O Achosion O Dwyll A Gordaliadau Yng Nghymru Gyda gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu her fwyaf ers cenhedlaeth ac yn wynebu gostyngiadau sylweddol o ran cyllidebau mewn termau real yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae bellach yn hanfodol bod cyrff cyhoeddus yn gweithio i gael gwared ar wastraff ac aneffeithlonrwydd o fewn eu gwasanaethau presennol. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgynghori â grwpiau cydraddoldeb cynrychioliadol Darllen mwy about Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgynghori â grwpiau cydraddoldeb cynrychioliadol Yr wythnos hon mae aelodau o Swyddfa Archwilio Cymru yn cwrdd â llu o grwpiau allanol i drafod ffyrdd o wella sut y gall ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith o ddydd i ddydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Paul Dimblebee, sydd wedi trefnu’r digwyddiad hwn:
Cynghorau Cymru yn herio'u hunain yn well ond angen mwy o gysondeb er mwyn gwella atebolrwydd Darllen mwy about Cynghorau Cymru yn herio'u hunain yn well ond angen mwy o gysondeb er mwyn gwella atebolrwydd Mae trefniadau craffu llywodraeth leol yng Nghymru yn gwella ond mae angen i gynghorau weithredu'n fwy cyson os ydynt am ychwanegu gwerth ar ran y trethdalwr, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod angen i gynghorau wneud mwy i ddangos effaith gwaith craffu ac egluro'r rôl a chwaraeir gan bwyllgorau craffu o ran hyrwyddo gwelliannau a herio penderfyniadau.
Cyngor Conwy Yn Cael Ei Reoli A'i Lywodraethu'n Dda Yn Gyffredinol Darllen mwy about Cyngor Conwy Yn Cael Ei Reoli A'i Lywodraethu'n Dda Yn Gyffredinol Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dod i'r casgliad bod y Cyngor yn cael ei reoli a'i lywodraethu’n dda yn gyffredinol a bod ganddo record o welliant cyson, ond mae ganddo lawer i'w wneud i gyflawni'r arbedion angenrheidiol yn y dyfodol.
Archwilydd Cyffredinol yn annerch cynghorau tref ar bwysigrwydd llywodraethu da Darllen mwy about Archwilydd Cyffredinol yn annerch cynghorau tref ar bwysigrwydd llywodraethu da Yn y gynhadledd, oedd â’r teitl ‘Ensuring strong and effective financial governance in Community and Town Councils’, a gynhaliwyd ar 15fed o Fai yn Venue Cymru, siaradodd yr Archwilydd Cyffredinol am yr angen am well llywodraethu a'r rôl y bydd Swyddfa Archwilio Cymru’n ei chwarae wrth helpu cynghorau tref a chlercod i fodloni eu gofynion cyfrifyddu blynyddol. Prif Araith [PDF 91KB Agorir mewn ffenest newydd]
Gofyn Am Brofiadau Cleifion a Pherthnasau o Amseroedd Aros y GIG Darllen mwy about Gofyn Am Brofiadau Cleifion a Pherthnasau o Amseroedd Aros y GIG Gofynnir i gleifion a pherthnasau i rannu eu profiadau o aros am lawdriniaethau wedi'u cynllunio. Bydd arolwg Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n cael ei lansio heddiw, yn casglu profiadau cleifion o bob cwr o'r wlad i helpu i werthuso sut y mae'r GIG yng Nghymru yn rheoli amseroedd aros. Heddiw, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:
Archwilydd Cyffredinol yn Archwilio i Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru Mewn Band Eang Darllen mwy about Archwilydd Cyffredinol yn Archwilio i Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru Mewn Band Eang Mae’r archwiliad yn rhan o’i raglen o adolygiadau gwerth am arian a bydd yn ateb y cwestiwn: "Yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru o gyflwyno seilwaith band eang i aelwydydd a busnesau yn debygol o gyflawni’r buddiannau a fwriadwyd?"
Trefniadau Rheoli Rhaglenni Diweddaraf Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru ‘Wedi Gwella’ Darllen mwy about Trefniadau Rheoli Rhaglenni Diweddaraf Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru ‘Wedi Gwella’ Mae rhaglenni cyllid strwythurol yr UE 2007-2013 - sy’n helpu i sicrhau swyddi, twf a datblygiad cynaliadwy - wedi gwneud cynnydd da o gymharu â rhaglenni blaenorol. Ond, mae’n rhy gynnar i asesu’r effaith gyffredinol. Canfu adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, er gwaethaf rhai anawsterau yn y camau cychwynnol, fod y rhaglenni 2007-2013 wedi elwa yn sgil gwell trefniadau rheoli. Ac er nad yw effaith gyffredinol y rhaglenni yn gwbl amlwg am beth amser ôl iddynt ddod i ben, gwelir arwyddion cadarnhaol yn sgil gwerthusiadau parhaus.
Gwendidau Difrifol Wrth Roi Arian Grant I Ganolfan Cywain Darllen mwy about Gwendidau Difrifol Wrth Roi Arian Grant I Ganolfan Cywain Wrth roi arian grant i Ganolfan Cywain, atyniad treftadaeth gwledig i dwristiaid yn y Gogledd, ni wnaeth Llywodraeth Cymru na chyllidwyr eraill y sector cyhoeddus herio’n ddigonol y rhagdybiaethau diffygiol ynglŷn â’r incwm y byddai’r Ganolfan yn ei greu a’r diffyg eglurder ynglŷn â’r hyn yr oedd y Ganolfan i fod i’w gynnig. Roedd y cyllidwyr hefyd wedi methu rhoi’r camau priodol ar waith i leihau’r perygl y byddai’r Ganolfan yn methu. Dyma brif ganfyddiadau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a gyhoeddir heddiw.