Data mawr a dadansoddi data yw dyfodol archwilio Darllen mwy about Data mawr a dadansoddi data yw dyfodol archwilio Ond beth yw Dadansoddi Data? Mae'n ymwneud â defnyddio technoleg fodern i wella’r modd y dadansoddir data. Mae'n ymwneud â bod yn well am gasglu, glanhau, cyfuno, dadansoddi, dehongli a delweddu data. Mae Swyddfa Archwilio Cymru mewn sefyllfa unigryw a breintiedig lle mae gennym fynediad at gyfoeth o ddata a ddelir gan gyrff cyhoeddus. Ond rydym angen gwella’r ffordd yr ydym yn casglu ac yn defnyddio’r data hwn, trwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, i wella ansawdd ac effeithlonrwydd ein gwaith.
Cynhadledd Cynghrair Henoed Cymru Darllen mwy about Cynhadledd Cynghrair Henoed Cymru Mae ein cynllun blynyddol presennol yn pennu cyfeiriad cyffrous i Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae pob £ a gollir i dwyll yn y sector cyhoeddus yn £ a wastraffir ac a gollir i wasanaethau cyhoeddus hanfodol Darllen mwy about Mae pob £ a gollir i dwyll yn y sector cyhoeddus yn £ a wastraffir ac a gollir i wasanaethau cyhoeddus hanfodol Y broblem yw bod pobl sy’n twyllo yn y sector cyhoeddus yn ei ystyried yn ddwyn oddi wrth bobl eraill nid dwyn oddi wrthyn nhw eu hunain. Mae’n anodd crynhoi’r ateb mewn un frawddeg, ond mae’n cynnwys ymwybyddiaeth o dwyll, atal twyll, datgelu twyll, mynd ar drywydd achosion o dwyll yn ddyfal a rhoi cyhoeddusrwydd i’r achosion hynny a dysgu ganddynt.
A all awdurdodau cynllunio lleol sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru? Darllen mwy about A all awdurdodau cynllunio lleol sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru? Dyfodol uchelgeisiol?
Fy mlwyddyn gyntaf fel prentis yn Archwilio Cymru Darllen mwy about Fy mlwyddyn gyntaf fel prentis yn Archwilio Cymru Yn rhan o’n hymgyrch recriwtio, rydym wedi gofyn i rai o’n Prentisiaid flogio am eu profiad o fod yn brentis yn Archwilio Cymru. Yma, mae Jordan yn sôn am ei blwyddyn gyntaf. I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i’n gwefan. Fy enw i yw Jordan ac rwy’n brentis archwilio ariannol yn fy mlwyddyn gyntaf. Ymunais ym mis Medi 2018 ac roeddwn yn teimlo’n gartrefol ar unwaith yn Archwilio Cymru. Mae pawb mor gyfeillgar, fe ymgartrefais i ymhen dim.
Fy nhaith hyd yn hyn… Darllen mwy about Fy nhaith hyd yn hyn… Yn rhan o’n hymgyrch recriwtio, rydym wedi gofyn i rai o’n prentisiaid flogio am eu profiad o fod yn brentis yn Swyddfa Archwilio Cymru. Yma, mae Emma Thomas yn sôn am ei blwyddyn gyntaf. I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i’n gwefan.
Fy mhrofiad fel un o brentisiaid Swyddfa Archwilio Cymru Darllen mwy about Fy mhrofiad fel un o brentisiaid Swyddfa Archwilio Cymru Fel rhan o’n hymgyrch recriwtio, rydym wedi gofyn i rai o'n Prentisiaid ysgrifennu blog am sut beth yw bod yn brentis yn Swyddfa Archwilio Cymru. Yma mae Lewis Ball yn sôn am ei brofiad hyd yn hyn… I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i'n gwefan.
Datgloi potensial Swyddfa Archwilio Cymru Darllen mwy about Datgloi potensial Swyddfa Archwilio Cymru Wyth mis ar ôl dechrau yn ei swydd fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae Adrian Crompton yn nodi uchelgais newydd ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru – i ddatgloi ei photensial llawn fel catalydd ar gyfer gwelliannau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Pan ddechreuais ar fy swydd fel Archwilydd Cyffredinol, treuliais y misoedd cyntaf yn teithio hyd a lled Cymru yn cwrdd â Phrif Weithredwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus, ynghyd â llawer o bobl eraill sydd â buddiant yng ngwaith Swyddfa Archwilio Cymru.
Ydy ailgylchu yn wastraff amser llwyr? Darllen mwy about Ydy ailgylchu yn wastraff amser llwyr? Felly, rydych chi'n gyfarwydd â’r drefn. Rydych chi newydd lowcio banana ac mae angen i chi gael gwared â'r croen. Ond mae penderfynu i ba fin y dylai fynd iddo yn gallu creu cryn benbleth y dyddiau hyn. Mae'n ddigon hawdd pan rydych chi adref ond rydym ni wedi bod yn sgwrsio yn ein swyddfa ni am sut i gael gwared â'ch sbwriel pan fyddwch chi yn y gwaith, yn y car neu yn y gampfa? Er mor anodd yw’r penderfyniad hyn i unigolion, mae'n anoddach fyth i weithleoedd a chymunedau. Felly, dychmygwch pa mor anodd yw hi i Gymru gyfan benderfynu beth i’w wneud gyda’i gwastraff.
Ymddiried mewn archwilio a rhoi'r ffrwyn i'w botensial Darllen mwy about Ymddiried mewn archwilio a rhoi'r ffrwyn i'w botensial Gydag archwilio corfforaethol yn tynnu sylw yn y penawdau am y rhesymau anghywir, mae Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn mynegi ei safbwynt ar gyflwr archwilio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ymddengys bod methiannau corfforaethol a sgandalau cyfrifyddu wedi bod yn bwrw'r tudalennau ariannol yn fwy cyson nag erioed yn y blynyddoedd diwethaf. Prin y gallwch agor papur newydd heb fod straeon am Carillion, BHS, Patisserie Valerie ac eraill yn mynnu sylw.