Rhoi Rhinwedd i’r Rhithwir

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae Awdurdod Gwella (yr Alban) wedi amcangyfrif bod Awdurdodau Lleol yr Alban yn gwario £6-8 miliwn bob blwyddyn i gyhoeddi hysbysiadau statudol mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol. Mae hysbysiadau statudol yn cynnwys ymgynghoriadau cynllunio, hysbysiadau gwaith priffyrdd, ymgynghoriadau'r GIG, hysbysiadau cyhoeddus yr Awdurdodau Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub a datganiadau cyfrifon.

Mabwysiadu Dulliau Ataliol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Trawsgrifiad fideo [PDF 176KB Agorir mewn ffenest newydd]

Cafodd y seminar ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru a Rhaglen Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed y Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus.

Fe wnaeth Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, rhoi’r araith gywiernod yn y ddau seminar.

Roedd y seminar wedi ei anelu at arweinwyr strategol gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys:

Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mehefin 2012 ac roedd yn cynnwys amrediad o siaradwyr diddorol yr oeddent yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus ac yn cynnig eu syniadau ar sut allwn ni ymdopi a ffynnu yn ystod cyfnod o galedi.
Mae Cymru'n wlad fechan. Ond mae'n rhaid iddi gael syniadau mawr o ran gwasanaethau cyhoeddus.

Dyletswydd datblygu cynaliadwy newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, ynghylch cyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer 2011-2016, 'Mae cynaliadwyedd wrth wraidd agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru; hefyd mae wrth wraidd y rhaglen ddeddfwriaethol hon'.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn deddfu ar ddatblygu cynaliadwy ar gyfer:

Gwella Presenoldeb yn y Sector Cyhoeddus - Seminar 2

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Roedd gan wahanol sefydliadau sy’n gysylltiedig â thema’r seminar, gan gynnwys Hafal, Mind Cymru a Galw Iechyd Cymru, stondinau yn y digwyddiad yn darparu gwybodaeth a rhannu arfer da.

Roedd cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Awdurdodau’r Heddlu, Gwasanaethau Tân ac Achub, Byrddau Iechyd a Llywodraeth Cymru yn bresennol.

Y siaradwr gwadd oedd Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru, a chafwyd cyflwyniadau gan ymarferwyr ym maes Iechyd Galwedigaethol, y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gofal Iechyd.

Seminar sut i wneud y mwyaf o'ch buddsoddiad wrth ymgysylltu â'r cyhoedd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Daeth cynrychiolwyr o Lywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Cynghorau Gwirfoddol Sirol a Sefydliadau'r Trydydd Sector, GIG, Comisiwn Pobl Hyn Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ynghyd ar gyfer y digwyddiad.

Amcanion y seminar oedd:

Arwain Sefydliadau ar Adeg Anodd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Sylfaenydd a phrif swyddog gwyddonol 'Cognitive Edge' yw'r Athro Snowden. Mae ei waith yn rhyngwladol o ran natur, ac mae'n cwmpasu llywodraeth a diwydiant sy'n edrych ar faterion cymhleth yn ymwneud â strategaeth, gwneud penderfyniadau sefydliadol a gwneud penderfyniadau. Mae wedi paratoi dull, sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, i sefydliadau dynnu ar anthropoleg, niwrowyddoniaeth a theori systemau addasol cymhleth. Mae'n brif siaradwr poblogaidd ac angerddol ar amrywiaeth o bynciau, ac mae'n adnabyddus am ei sinigiaeth bragmatig a'i arddull eiconoglastig.