Shared Learning Seminar
Rhoi Rhinwedd i’r Rhithwir

Ydych chi’n cyhoeddi unrhyw rai o’r hysbysiadau canlynol: ymgynghoriadau cynllunio; hysbysiadau gwaith priffyrdd; ymgynghoriadau'r GIG; hysbysiadau cyhoeddus yr Awdurdodau Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub neu ddatganiadau cyfrifon?

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Mae Awdurdod Gwella (yr Alban) wedi amcangyfrif bod Awdurdodau Lleol yr Alban yn gwario £6-8 miliwn bob blwyddyn i gyhoeddi hysbysiadau statudol mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol. Mae hysbysiadau statudol yn cynnwys ymgynghoriadau cynllunio, hysbysiadau gwaith priffyrdd, ymgynghoriadau'r GIG, hysbysiadau cyhoeddus yr Awdurdodau Heddlu a Gwasanaethau Tân ac Achub a datganiadau cyfrifon.

Mae’r Gwasanaethau Cyhoeddus Albanaidd (Gwasanaeth Gwella) wedi gweithio gydag Asiantaethau Digidol Sector Preifat i ddatblygu dull sydd â’r potensial i leihau costau hysbysebu statudol (ac anstatudol) yn y wasg a chynyddu cyswllt a chyrchiad i’r wybodaeth gyhoeddus werthfawr yma.

Mae yna gyfleoedd ar gyfer:

  • Lleihau costau cyhoeddi hysbysiadau statudol cyfredol o 20-30%
  • Arbedion mwy drwy symud hysbysiadau statudol i gyd ar-lein
  • Arbedion effeithlonrwydd ‘swyddfa gefn’ drwy well gweinyddiaeth o hysbysiadau statudol
  • Cynyddu cyrchiad cyhoeddus hysbysiadau drwy sianeli digidol
  • Cysylltu â chynigion ar-lein eraill i ddarparu darlun ehangach o weithredoedd lleol, yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol (gwefannau hyper-leol).

Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru, CLlLC, Arfer Da Cymru ac Awdurdod Gwella (yr Alban) cynnal seminar rhyngweithiol, yn rhad ac am ddim, i ddod ag arferion mwyaf cyfredol ar hyd a lled yr Alban ynghyd. Rhannwyd profiadau gyda Gwasanaethau Cyhoeddus Albanaidd a dysgwyd llawer o’u profiadau nhw. Erbyn diwedd y seminar, roedd cynrychiolwyr yn gallu dewis ac addasu dulliau ar gyfer anghenion hysbysiadau cyhoeddus (PINS) eu sefydliadau nhw, gan eu galluogi nhw i gyflawni mwy gyda llai o adnoddau.

At bwy mae’r seminar wedi ei anelu?

  • Awdurdodau Lleol: Gwasanaethau Cyfreithiol; Cynllunio; Trwyddedu; Hysbysiadau Cyffredinol; Swyddogion Cynhwysiant Digidol;
  • Adrannau Priffyrdd Sector Cyhoeddus;
  • Swyddogion Llywodraeth Cymru;
  • GIG Cymru: Grwpiau Ymgynghori Cleifion a’r Cyhoedd a Chynghorau Iechyd Cymunedol;
  • Parciau Cenedlaethol;
  • Awdurdodau Heddlu; a
  • Gwasanaethau Tân ac Achub

Amlinelliad o’r seminar

Roedd y seminar yn cynnwys cyflwyniadau gan:

Roedd y seminar hefyd yn cynnws gweithdai ar sut i wella’ch adrodd gan:

Pryd a ble

Dydd Iau 13eg o Fawrth 2014, 10:00 – 16:00,
Stadiwm SWALEC, Sophia Walk, Caerdydd, CF11 9SZ

You have no upcoming events
You have no upcoming events

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan

You have no upcoming events