• Prentis Gwyddor Data

Prentis Gwyddor Data

Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Prentis Gwyddor Data.

A oes gennych ddiddordeb mewn data a dadansoddeg? A wy rhifau a'r straeon y maent yn eu hadrodd yn eich cyffroi? A ydych yn hoffi posau a datrys problemau? A ydych erioed wedi eisiau dysgu sut i godio?

Rydym yn chwilio am berson hynod frwdfrydig i fod yn rhan o'n tîm egnïol a gwydn. Nid oes angen profiad arnoch, dim ond dawn, ymrwymiad a brwdfrydedd. Yn gyfnewid byddwch yn derbyn rhaglen waith amrywiol a diwrnodau wedi’u rhyddhau i astudio gradd mewn gwyddor data ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Nid dim ond cyfle i rywun ddechrau ym myd gwaith yw. Efallai eich bod yn chwilio am newid gyrfa. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran oedran. Mae'r brentisiaeth yn rhaglen tair blynedd wedi'i hariannu'n llawn sy'n eich ategu i ennill gradd mewn gwyddor data tra'n datblygu profiad gwerthfawr yn y swydd.

O ddydd i ddydd, byddwch yn cymryd rhan ym mhob agwedd ar y ffordd rydym yn defnyddio data yn Archwilio Cymru. Byddwch yn gweithio'n agos gydag archwilwyr i ddeall eu hanghenion data, byddwch yn creu offer data newydd i'w cyhoeddi ar ein gwefan, byddwch yn rheoli setiau data canolog a byddwch yn helpu i hyfforddi archwilwyr mewn technegau data newydd.

Byddwch yn elwa o sgiliau gwerthfawr wrth weithio, a byddwch yn tyfu eich gallu wrth i chi helpu'r tîm i ymgorffori agwedd arloesol ac brwdfrydig at wyddoniaeth data, tra'n astudio ar gyfer BSc mewn Gwyddor Data fel rhan o'r brentisiaeth Lefel 6 hon.

Nid oes angen profiad arnoch, dim ond dawn, ymrwymiad a brwdfrydedd. Chi sy’n dod â'ch brwdfrydedd, a byddwn ni'n eich addysgu o ran yr offer, y technegau a'r sgiliau gwyddor data i chi ddod yn wyddonydd data cymwysedig. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y swydd yn y disgrifiad swydd.

Byddwch yn astudio ar gyfer gradd 3 blynedd a ddarperir gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r radd yn cael ei chyflwyno drwy ddiwrnodau wedi’u rhyddhau ac mae'n ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys delweddu data a deallusrwydd artiffisial. Darganfyddwch fwy yma ar wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd [agor mewn ffenest newydd].

A dyma flog gan un o'n prentisiaid blaenorol sydd wedi ffynnu yn ei swydd:

Cewch eich annog a'ch ategu drwy gydol eich prentisiaeth i reoli eich datblygiad personol eich hun drwy adolygiadau cynnydd, a bydd eich rhaglen radd yn cael ei hategu gan weithdai datblygu sgiliau, rhaglenni technegol a sgiliau meddal.

Yn ogystal ag ategiad gan eich cyfoedion, bydd rheolwr llinell gennych a fydd â chyfrifoldeb hanfodol wrth eich datblygu a'ch ategu drwy gydol eich astudiaethau; a chyfaill i'ch helpu setlo yn eich swydd newydd yn ogystal â darparu cymorth anffurfiol parhaus.

I wneud cais am y brentisiaeth hon, dylech fod gennych, neu obeithio y bydd gennych y canlynol:

  • Tair Safon A ar radd C neu’n uwch, rhaid i un ohonynt fod mewn pwnc STEM (neu gyfwerth) ar radd B neu’n uwch.
  • Lefel 2 Saesneg a Mathemateg (e.e., TGAU A* i C)
  • Gallwch hefyd wneud cais os oes gennych radd eisoes, cyn belled â bod y radd mewn pwnc nad yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â gwyddor data.

Gall ymgeiswyr wneud cais ar gryfder eu graddau lefel A disgwyliedig. Bydd unrhyw gynigion a wneir yn parhau i fod yn amodol ar ennill y cymwysterau academaidd angenrheidiol.

Gan y byddwch yn cael eich ategu i gwblhau eich Prentisiaeth Gradd Gwyddor Data, mae gofynion cymhwysedd penodol y mae angen eu bodloni. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn yr adran ar Gymhwysedd Cyffredinol.

  • Gwybodaeth Gyffredinol  

    sy'n Gymwys i bob Prentis

Cymhwysedd ar gyfer y Brentisiaeth

I fod yn gymwys am brentisiaeth rhaid bodloni’r canlynol:

  • Mae gennych hawl i fyw a gweithio yn y DU;
  • Rydych yn byw yng Nghymru, neu mae eich cyflogwr wedi'i leoli'n barhaol yng Nghymru;
  • Rydych wedi gadael yr ysgol yn gyfreithiol;
  • Rydych yn bwriadu aros mewn cyflogaeth am y 12 mis nesaf;
  • Rydych heb gael eich ariannu eisoes ar gyfer cyrsiau hyfforddi eraill gan Lywodraeth Cymru;
  • Rydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol;
  • Rydych yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos.

Bydd Rhaglenni Prentisiaeth yn derbyn cymorth ariannol drwy Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymwysterau prentisiaeth lle mae gan unigolyn gymhwyster o'r un math, cynnwys a lefel yn flaenorol (nac ar lefel uwch). Ni ddylech ymgeisio am gymhwyster o'r un math, cynnwys a lefel â chymhwyster sydd gennych eisoes.

Fodd bynnag, pe bai'r brentisiaeth yn caniatáu i'r unigolyn ennill sgiliau newydd sylweddol, ac roedd yn amlwg bod cynnwys y cymhwyster yn sylweddol wahanol i unrhyw gymhwyster blaenorol, yna gallai prentisiaeth o'r fath fod yn gymwys i gael arian.

Fel rhan o'r broses recriwtio bydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda darparwr hyfforddiant y brentisiaeth. Mae'r darparwyr hyfforddiant yn rhan annatod o'r broses recriwtio gan eu bod yn gyfrifol am gadarnhau cymhwysedd ymgeiswyr i ymgymryd â'r brentisiaeth yn unol â Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Wrth gytuno i barhau â'r broses ymgeisio, rydych yn cytuno i rannu eich manylion gyda'r darparwr hyfforddiant.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ar gyfer rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â recriwtio.hyfforddai@archwilio.cymru gan nodi'n glir y cymwysterau sydd gennych eisoes.

Noder nad yw'r canllawiau a roddir uchod yn ystyried pob amgylchiad ac mae Archwilio Cymru yn cadw'r hawl i wrthod cais os yw o'r farn nad yw unrhyw feini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni.

Prentisiaeth Gwyddor Data

O ran pa gymwysterau sydd y tu allan i feini prawf i fod yn gymwys, byddem yn cynghori bod unrhyw gymhwyster "Gwyddorau Data" neu "Gyfrifiadureg" ar lefel gradd neu uwch yn anghymwys. Bydd angen ystyried hefyd unrhyw gymwysterau sy'n cynnwys modiwlau dadansoddi data/gwyddor data neu gyfrifiadureg i lefel 4 er mwyn gwirio cymhwysedd i ariannu. Bydd yr holl gymwysterau'n cael eu gwirio fesul achos yn ystod y cam sifftio.

Sut iwneud cais

Rydym ond yn derbyn ceisiadau drwy ein porth ar-lein, nid ydym yn derbyn CVs, ond os ydych am i ni ystyried addasiad rhesymol rhowch wybod i ni mewn da bryd.

Wrth gwblhau eich cais

Ymgyfarwyddwch eich hun gyda'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, fel eich bod yn deall y swydd a pha gymwysterau, sgiliau a phriodoleddau hanfodol sydd yno ar gyfer y swydd prentis.

Rydym yn chwilio am sut mae eich astudiaethau a/neu brofiad blaenorol mewn gwaith neu ddiddordebau allanol yn eich gwneud yn addas i ddechrau gyrfa fel prentis.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys tystiolaeth o:

  • Eich cymwysterau presennol sy’n bodloni'r safon addysgol ofynnol.
  • Yn eich Datganiad Personol rydym am gael gwybod amdanoch chi, pam bod gennych ddiddordeb yn y prentisiaeth a beth sy’n eich diddori a beth rydych wedi’i gyflawni hyd yma, boed hynny mewn gwaith, yn yr ysgol neu goleg neu drwy chwaraeon neu wirfoddoli, profiadau neu ymddygiadau sydd gennych a fyddai, yn eich barn chi, yn eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd.

Sylwer – defnyddir y ffurflen gais i asesu pob ymgeisydd.  Gall methu â chwblhau'r cais yn fanwl olygu na fydd eich cais yn symud ymlaen i'r cam asesu. Rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo eich hun gyda'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, fel eich bod yn deall y swydd a pha gymwysterau, sgiliau a phriodoleddau hanfodol rydym yn chwilio amdanynt.

Canolfan Asesu

Bydd pob proses asesu prentisiaid yn cael ei chwblhau gan ganolfan asesu. Bydd canolfan asesu fel arfer yn cynnwys cyfweliad a chwblhau rhyw fath o brawf, gan amlaf ysgrifenedig neu drwy chwarae rôl. Bydd rhagor o wybodaeth am y cam hwn yn cael ei darparu yn nes at yr amser.

Darperir adborth i bob ymgeisydd sy'n mynychu canolfan asesu.

Gwybodaeth gyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Rhaglen Brentisiaethau, neu os bydd unrhywbeth yn aneglur, mae croeso i chi ebostio recriwtio.hyfforddai@archwilio.cymru.

Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy  

Graduate Blogs