Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

O Hyfforddai Graddedig i Archwilydd Arweiniol

18 Ionawr 2022
  • Ymunais ag Archwilio Cymru newydd ymadael â'r brifysgol ym mis Mehefin 2015 fel Hyfforddai Graddedig Archwilio Ariannol.

    Un o'm prif archwiliadau fel hyfforddai oedd Cronfa Amaethyddol Ewrop yn arwain i mi deithio i bob cwr o Gymru i ymweld â ffermydd – yn sicr nid yr hyn yr oeddwn wedi'i ddisgwyl pan wnes i geisio am y swydd, ond roeddwn wrth fy modd! Cefais brofiad hefyd o archwiliadau Awdurdodau Lleol, yr Heddlu ac Iechyd yn ystod y cynllun i raddedigion. Un o ddarnau gorau'r cynllun oedd y gefnogaeth a gynigiwyd gan fy nghydweithwyr a'r cyfleoedd datblygu a oedd ar gael. Yn ystod fy nghyfnod fel hyfforddai, cefais gyfle i arwain rhan o archwiliad y Cronfeydd Amaethyddol a roddodd brofiad i mi o hyfforddi a datblygu mwy o staff iau yn ogystal â sut i gynnal archwiliad o safbwynt arweinydd tîm.

    Tua diwedd fy nghontract hyfforddi, bûm yn llwyddiannus wrth sicrhau swydd fel arweinydd tîm o fewn Archwilio Cymru. Roedd fy mhrofiad ar y cynllun i hyfforddeion a chefnogaeth fy nghydweithwyr yn golygu bod gennyf y sgiliau angenrheidiol i symud ymlaen i'r swydd newydd hon. Ers hynny, rwyf wedi cael fy nyrchafu i Archwilydd Arweiniol ac yn awr yn arwain archwiliadau dau Awdurdod Lleol a rhai cyrff llywodraeth ganolog llai o faint. Fel rhan o'r swydd hon, rwy'n rhan o dîm rheoli ar gyfer archwiliadau De Cymru sy'n edrych yn ehangach ar ein gwaith. Rwyf wedi mwynhau bod yn rhan o'r tîm hwn sy'n mynd i'r afael ag adnoddau, lles a materion logistaidd yn ogystal â hanfodion archwiliadau unigol. Ers dod yn archwilydd arweiniol, rwyf hefyd wedi cael y cyfle i ymgymryd â gwaith archwilio perfformiad yn edrych ar gynaliadwyedd ariannol a darparu hyfforddiant i'n derbyniad newydd o hyfforddeion a phrentisiaid yn ystod eu hwythnosau sefydlu.

    Rwyf wedi elwa llawer achos cefnogaeth fy rheolwyr drwy gydol fy nghyfnod yn Archwilio Cymru ac rwy'n mwynhau bod yn rhan o'r un daith honno ar gyfer ein graddedigion a'n prentisiaid cyfredol.

    Fy mhrif ddarn o gyngor i Hyfforddeion Graddedig neu'r rhai sy'n dymuno gwneud cynllun dan hyfforddiant fyddai eich bod yn cael am yr hyn yr ydych chi'n ei roi i’r cynllun dan hyfforddiant, felly ewch amdani a rhoi cynnig ar bethau. Peidiwch â bod yn ofnus ynghylch gwneud camgymeriadau neu beidio â gwybod yr atebion, nid ydym yn disgwyl hyn gennych gan eich bod yma i ddysgu, a chadwch mewn cof ein bod i gyd wedi bod yno.

    Mwy am yr awdur

    Image of Rachel Freitag

    Ymunodd Rachel Freitag ag Archwilio Cymru fel Hyfforddai Graddedig yn 2015 ac mae bellach yn Archwilydd Ariannol Arweiniol. Ers ymuno mae hi wedi arwain ar archwiliadau Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Ganolog, a Chronfa Amaethyddol Ewrop. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru graddiodd o Brifysgol Abertawe lle roedd yn astudio mathemateg.