Y Gyfnewidfa Arfer Da – Ein crynodeb o’r flwyddyn

21 Rhagfyr 2023
  • Mae'n ddiwedd 2023 ac rydym yn llenwi’n boliau â mins peis ac yn edrych yn ôl ar y flwyddyn a fu. Roeddem yn meddwl y byddai'n beth braf rhannu crynodeb o'n gweithgareddau dros y 12 mis diwethaf.

    Highlights

    • Ym mis Ionawr cynhaliom ddigwyddiad ar-lein Gwneud asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn fwy nag ymarfer blwch ticio. Yn dilyn cyhoeddi adroddiad o'r un enw, cafwyd cyflwyniad gan Dr Alison Parken o Brifysgol Caerdydd. Teitl y cyflwyniad oedd 'The place of equality Impact Assessments in advancing equality' ac roedd yn ymdrin â 2 bwnc pwysig iawn.

      Y cyntaf oedd y bwriad y tu ôl i asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a'r ffordd y cânt eu datblygu. Yr ail oedd sut i sefydlu asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb wrth ddatblygu polisi trwy Fodel Prif Ffrydio Cydraddoldeb, gan ddefnyddio astudiaeth achos 'Pontio Cyfartal a Theg tuag at Sero Net'.

       
    • Ym mis Mawrth fe ddechreuom gyfres newydd o ddigwyddiadau bach ar-lein, o'r enw Sgwrs a Paned. Maen nhw’n cael eu cynnal amser cinio, ac yn para cyhyd â'r sgwrs.

      Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf gyda Scott Tandy o dai Newydd. Siaradodd Scott am ddatblygiad ap Get Fit Wales a sut mae wedi cryfhau perthnasoedd a galluogi cydweithio'n agos.

      Ar ôl Scott, siaradodd Gemma Lelliott o CTA Cymru am drafnidiaeth gymunedol a'i gwerth i gymunedau trwy ddiwallu anghenion heb eu diwallu a darparu trafnidiaeth ddibynadwy ar gyfer yr ystod ehangaf o anghenion. 

      Robyn Lovelock o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru oedd ar ôl Gemma a ddisgrifiodd y fethodoleg y mae hi wedi'i datblygu i ystyried bioamrywiaeth ac effaith amgylcheddol wrth gomisiynu adeiladau a seilwaith a gweithio tuag at sero net a manteision bioamrywiaeth.

      Ar ddiwedd y flwyddyn, siaradodd Jill Davies o Circular Economy Innovation Communities (CEIC) am waith CEIC wrth ddod â chymunedau arfer ynghyd i fynd i'r afael â materion y byd go iawn gan ddefnyddio egwyddorion economi gynaliadwy a chylchol.

       
    • Ym mis Mai cynhaliwyd digwyddiad wyneb yn wyneb ar Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Bu Ian Gwyn Hughes yn trafod gwaith Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth ddod â Chymreictod a'r Gymraeg i graidd eu hunaniaeth.

      Cynhaliodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Efa Gruffydd, Comisiynydd y Gymraeg ynghyd â Sian Davies, Prif Weithredwr Yr Urdd (yng Nghaerdydd) a Sian Morris Jones, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned Yr Urdd (yn Llandudno) drafodaeth banel dan gadeiryddiaeth Einir Siôn, hwylusydd y Gymraeg ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru. Rhannodd y panel eu barn ar sut y gallai Cymru gyflawni'r nod llesiant, gan fynd i'r afael â rhai cwestiynau mawr.

      Hefyd yn y digwyddiad, cawsom weithdai diddorol gan Rygbi’r Dreigiau yn trafod adeiladu cymuned trwy chwaraeon, ac Amgueddfa Cymru yn archwilio eu prosiect sy'n edrych ar ddad-drefedigaethu eu casgliadau a sut rydym yn uniaethu â'n hanesion.
    • Ym mis Mehefin fe wnaethom gynnal y digwyddiad ar-lein Gyda'n gilydd fe allwn ni – creu'r amodau i rymuso ein cymunedau i ffynnu. Roedd y digwyddiad yn cynnwys ein cydweithwyr yn Archwilio Cymru, Philippa Dixon ac Euros Lake, yn siarad am ein hadroddiad diweddar ‘Cyfle a gollwyd’ – Mentrau Cymdeithasol'.

      Awsom hefyd Susan Owen Jones o Gyngor Sir Ynys Môn yn sôn am Lywio Lleoedd. Enghraifft arall o'r Alban gyda Derek Rankine o Scotland Regeneration Forum. Hefyd yn cyflwyno roedd Andrea Wayman, Prif Weithredwr mentrau grwp ELITE yn siarad am ei phrofiadau fel ymarferydd yn y sector.

      Yn olaf, cawsom Dr Sarah Evans o Cwmpas gyda sgwrs wych o'r enw 'Cyfle a Gollwyd; Felly beth nesaf?'
    • Ym mis Medi cynhaliom ddigwyddiad arall wyneb yn wyneb; O'r Strategaeth i fodolaeth: Sut mae'r Digidol yn Gwneud Gwahaniaeth i Fywyd Bob Dydd. Roedd y digwyddiad ar gyfer y rhai sydd angen gallu gweithio'n ddigidol, ond nad ydynt yn si?r ble i ddechrau mewn maes dryslyd lle mae'n ymddangos bod popeth yr un mor bwysig.

      Gwnaethom gynnig rhywfaint o arweiniad a gwybodaeth ymarferol i'w helpu ar eu ffordd, a ddarparwyd gan Cwmpas, Cymunedau Digidol Cymru, ProMo Cymru a'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. I glymu'r byd digidol at ei gilydd a gosod yr olygfa cafwyd cyfraniad hynod ddiddorol gan yr Athro Tom Crick o Brifysgol Abertawe.
    • Ym mis Hydref cynhaliwyd digwyddiad mewn partneriaeth â Labordy Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam. Cynhaliwyd Gweithio mewn partneriaeth i wella llesiant yn y gogledd ac roedd yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb drwy'r dydd.

      Roedd gennym dros 20 o siaradwyr gwahanol yn cyflwyno ar y diwrnod, gellir dod o hyd i lawer o'r cyflwyniadau ar ein tudalen adnoddau, yn ogystal â rhai clipiau gan siaradwyr a chynrychiolwyr yn siarad am yr hyn a gawsant o'r gynhadledd, neu beth oedd eu sgwrs a'r hyn yr oeddent wedi'i ddarganfod.

      Cawsom siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau o Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymru Gynnes a llawer mwy.

       
    • Ein digwyddiad olaf o'r flwyddyn oedd digwyddiad ar-lein ar Uniondeb yn y Sector Cyhoeddus. Gyda chyfraniadau gan Khalid Hamid, Cyfarwyddwr Rhyngwladol CIPFA, Laura Hough, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth a Moeseg ICAEW, Sarah McGray, Prif Gynghorydd Polisi Swyddfa Archwilydd Cyffredinol Seland Newydd ac Anne-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Archwilio, Archwilio Cymru.

      Dan gadeiryddiaeth Beth Smith o Archwilio Cymru, trafododd y panel uniondeb mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gwmpasu pa mor bwysig yw gweithredu gyda gonestrwydd a sut mae'r uniondeb hwnnw'n elfen ddiwylliannol mewn sefydliad. Buont hefyd yn trafod sut mae gweithredu gydag uniondeb yn creu ymddiriedaeth, a pha mor bwysig a bregus yw'r ymddiriedaeth honno. Roedd yn drafodaeth fywiog, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Sarah am fod ar yr alwad gan ei bod wedi hanner nos yn Seland Newydd!

    Gallwch fynd at y recordiadau a sleidiau o'r digwyddiadau trwy ddilyn y ddolen hon i'n tudalen Adnoddau Arfer Da.

    Ar ein blog a'n podlediad

    Beth sy'n digwydd

    Ar hyn o bryd rydym yn cynllunio ein rhaglen waith ar gyfer 2024/25.

    Byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau a'ch awgrymiadau ar bynciau posibl y gallwn ganolbwyntio arnynt. E-bostiwch good.practice@audit.wales ac fe wnawn drefnu sgwrs gyda chi.

    Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!