Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (Asesiad EG) yn rhan bwysig o'r dull o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Mae Asesiadau EG yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol i osgoi gwahaniaethu yn y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ac i hyrwyddo cydraddoldeb cyfle a chydlyniant.
Wedi'i wneud yn dda, mae Asesiadau EG yn fwy na modd i ddangos cydymffurfiaeth. Maent yn ategu twf meddylfryd a diwylliant sy'n rhoi materion cydraddoldeb wrth wraidd datblygiad polisi a phenderfyniadau.
Fodd bynnag, mae'r hyn yr ydym wedi'i weld a'i glywed yn dweud wrthym fod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn tueddu i ddefnyddio eu Hasesiadau EG yn amddiffynnol. Yn rhy aml, maent yn ymddangos fel ymarfer blwch tic i ddangos bod y corff wedi meddwl am faterion cydraddoldeb rhag ofn herio. Er bod her gyfreithiol wrth gwrs yn risg bwysig i'w rheoli, mae'r dull hwn yn golygu nad yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio Asesiadau EG i'w llawn botensial, yn enwedig o ran hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant.
Nod y digwyddiad dysgu a rennir hwn yw cynorthwyo cyrff cyhoeddus i wella defnydd a chymhwyso Asesiadau EG y tu hwnt i ymarfer cydymffurfio drwy ddod â phobl ynghyd o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth.
0 "Good Practice Resource"