Ar y Ffordd - Cenedlaethau'r Dyfodol yng Ngresffordd ac Aberystwyth

22 Awst 2023
  • Adlewyrchu ar deithiau i ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol â phartneriaid.

    Yn y blog yma dwi am wneud fy ngorau i osgoi defnyddio trosiadau a chymariaethau o fyd chwaraeon. Gawn ni weld sut eith hi.

    Yn ddiweddar, es i 2 ddigwyddiad oedd yn cael eu cynnal gan swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill. Roedd y cyntaf yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ym Mharc y Glowyr, Gresffordd, Wrecsam. Nod y diwrnod oedd edrych ar sut mae diwylliant yn treiddio i fywyd a sut y gall diwylliant Cymru, hynny yw y diwylliant o fewn y Gymru fodern, lywio a helpu gwasanaethau cyhoeddus.

    Diwylliant

    Roeddwn i eisiau dweud rhywbeth am y ffordd mae diwylliant yn greiddiol ganolog i ni i gyd. Roeddwn i’n meddwl y byddai geiriadur Rhydychen yn awdurdod digon da i ddiogyn er mwyn rhoi diffiniad o'r gair i wirio bod diwylliant yn golygu'r hyn yr ydw i eisiau iddo olygu. I gael mynediad at ddiffiniadau geiriau mae'n rhaid i chi gofrestru gyda’r geiriadur! Addysg elitaidd wedi mynd yn rhy bell ydi hyn!

    Beth bynnag, yn siomedig gyda Rhydychen, es i edrych am eiriadur Caergrawnt. Doedd Geiriadur Caergrawnt ddim eisiau fy manylion ac mae’n diffinio Diwylliant fel:

    ffordd o fyw, yn enwedig arferion a chredoau cyffredinol, grŵp penodol o bobl ar adeg benodol

    agweddau, ymddygiad, barn , ac ati grŵp penodol o bobl o fewn cymdeithas.

    I wyro mymryn am eiliad arall, diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru ydi:

    Datblygiad neu wrteithiad meddyliol person(au) yn deillio oddi wrth addysg neu hyfforddiant, coethder chwaeth; triniaeth tir, amaethiad.

    ‘Dw i yn mwynhau mor ystrydebol ydi’r diffiniad mewn rhai ffyrdd, wrth glymu diwylliant i fyd amaeth, a’r ffordd mae’n canolbwyntio ar ddatblygu a meithrin chwaeth. Er hynny, mae’n well gen i ddiffiniad Caergrawnt dweud y gwir gan ei fod yn fwy cynhwysol ac yn agosach i’r hyn ydw i eisiau ei ddweud.

    Rydyn ni’n gallu byw fel pe bai diwylliant yn lle ar wahân, yn llawn o actorion, artistiaid a cherddorion. Rhywle lle mae awduron a phobl creu ffilmiau yn creu bydoedd ffantastig tu ôl i ffenestr wydr. Rhyw le mae'r gweddill ohonom ni yn edrych i mewn iddo, trwy sgriniau, neu’n ymweld bob hyn a hyn wrth i gario ‘mlaen efo’n bywydau gan gymryd hoe bob hyn a hyn i gael eistedd yn y tywyllwch yn edrych ar y sioe o dan y goleuadau.

    Ond nid yw diwylliant, yn ôl y diffiniad sy’n apelio i mi, yn hynny o gwbl, yr amgylchedd gymdeithasol rydyn ni’n ei anadlu ydy o. Mae o’n rhan o bob dim sy’n ein gwneud ni yn ni. Mae’n hygyrch i bawb trwy'r amser cyn belled â bod gennych rywfaint o le yn eich ymennydd ar ei gyfer. Dydy hynny ddim bob amser yn bosibl, ond mae hyd yn oed y teli llawn cysur, neu'r rîl ddiddiwedd o gyfryngau cymdeithasol mae rhywun yn edrych arno oherwydd nad ydi’r egni yno ar gyfer unrhyw beth sy'n gofyn am danio injan yr ymennydd, yn ddiwylliant. Ymddengys nad yw’n rhy anarferol i orweddian tan amser gwely pan fydd eich diwrnod yn llithro’n araf at ei deryn ac mae'r byd ychydig yn ormod ar hyn o bryd.

    Ond fy mhwynt i yw bod popeth yn ddiwylliant. Mae'n treiddio i bob dim ac yn llunio sut yr ydym ni’n gweld y byd. Fel enghraifft; mae cysgod hir rheolaeth gyhoeddus newydd (new public management) yn elfen ddiwylliannol o ran sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg, ac mae gwahanol ddulliau Agile yn haen arall sy'n ychwanegu at ddiwylliant y gwasanaethau cyhoeddus. Dydy o ddim yn ymwneud â  lluniau hardd yn unig; mae'n bopeth.

    Mae o ym mhopeth, nid dim ond ar gael i’r bobl greadigol dynodedig. Mae yno i bob un ohonom ni, dim ond i ni gael lle ac ychydig o amser i godi ein pennau tua’r gorwel. Mae o yn unrhyw un sy'n cael cipolwg ar ffordd arall o weld a chyflwyno'r byd.

    O ystyried yr heriau sy'n ein hwynebu ni, mae angen cymaint o bobl â phosibl arnom i ryddhau eu dychymyg wrth ymateb. Mae angen i gymaint â phosibl gael caniatâd i fynd a rhoi cynnig ar bethau na fyddant efallai yn gweithio. Mae angen iddyn nhw weld y caniatâd ac mae angen eu hannog gan nad ydy dweud wrthyn nhw yn ddigon.

    Gresffordd

    Roedd y digwyddiad ei hun yn ddiddorol iawn. Es i weithdy 'Diwylliant a Chymru Gydnerth' lle siaradodd Dr Lana St Leger am ei phrosiect ymchwil presennol a fydd yn edrych ar y cysylltiadau rhwng diwylliant, Cymraeg a Newid Hinsawdd. Dwi'n edrych ymlaen at yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi pan fydd yn barod. Hefyd yn cyflwyno yn yr un gweithdy oedd Heledd Wyn, storïwr gweledol a fu'n Gymrawd Cymru'r Dyfodol ar gyfer 2022-23. Roedd ei chymrodoriaeth yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ddefnyddiau modern ar gyfer cywarch (hemp). Mae cywarch yn ddeunydd traddodiadol oedd yn arfer cael ei drin mewn sawl lle yng Nghymru, ond un sydd wedi colli poblogrwydd ym myd ffermio modern.

    Prosiect arall a oedd yn rhan o'i chymrodoriaeth oedd Diwrnod Non. Diwrnod pan fyddai pawb yn cael eu hannog i ddiffodd popeth a bod yn y foment, bod efo'i gilydd ac efo natur heb unrhyw beth i dynnu eu sylw. Mae'n syniad neis iawn. Dydyn ni ddim yn gwneud hyn yn amlach oherwydd ein bod ni'n rhy brysur yn reidio’r sgrôl ddiddiwedd.

    Edrychodd gweithdy arall ar 'Diwylliant a Chymru Lewyrchus' gyda Sian Gale o Bectu, Will Tregaskes ac Ophelia Dos Santos yn cyflwyno. Roedd y sesiwn yn ein hatgoffa o sut mae ein diwylliant yn ased economaidd sy'n meithrin sgiliau a gyrfaoedd yma ac yn rhyngwladol. Y siaradwr oedd wir yn sefyll allan i fi yn y sesiwn oedd Ophelia Dos Santos. Mae Ophelia yn artist tecstilau ac addysgwr sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith yn ein hannog i edrych ar gyfiawnder a chydraddoldeb hinsawdd. Yn gysylltiedig â hyn hefyd mae natur ffasiwn fodern. Rhan fawr o'i gwaith yn y gymuned yw cynnal sesiynau gwnïo a brodio. Yn ogystal â rhannu sgiliau defnyddiol, mae'r sesiwn hefyd yn annog y bobl i agor eu calonnau a chael sgyrsiau ystyrlon.

    Rhan effeithiol o'r gweithdy oedd iddo gael ei gynnal yn un o'r ystafelloedd newid. Fel mae'n digwydd, mae'r ystafell wedi'i hadeiladu'n arbennig i ddod â phobl i ganolbwynt a dod â nhw at ei gilydd. Roedd braidd yn rhyfedd ar y dechrau ond fe wnaeth ychwanegu rhywbeth at y sgwrs ein bod ni i gyd i bob pwrpas yn eistedd mewn cylch mawr. Roedd arogleuon nodweddiadol stafell newid sef deep heat, sanau, tamp a glaswellt ar goll ond mae'n debyg fod hynny'n beth da.

    Sgyrsiau Dwfn

    Yn yr un modd â rhannu taith hir mewn car, mae gweithio ar rywbeth ailadroddus, ond lle mae angen i chi ganolbwyntio ar un man yn torri cyswllt llygad. Mae torri cyswllt llygaid ond parhau â'r sgwrs yn aml yn arwain at agor eich calon a mynd i lefydd mwy anodd neu fregus.

    Byddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i gynnal y math yma o sesiwn gyda phobl mewn gwasanaethau cyhoeddus. Pwy a ŵyr beth fyddem yn ei ddysgu? Pwy a ŵyr sut y byddai hynny wedyn yn ein helpu i wella'r ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud? Os oes unrhyw un yn gwybod am grŵp o bobl sy'n barod i roi'r amser...

    Ffaberystwyth!

    Roedd y digwyddiad arall es i iddo yn Aberystwyth. Dwi’n meddwl mai'r maes chwarae ger Castell Aberystwyth yw fy hoff faes chwarae. Roedd yn anferth ac anhygoel pan oeddwn yn yr ysgol gynradd ac yn mynd i Aber i ymweld â theulu. Bob tro mae’n cael ei newid maent wedi llwyddo i gadw'r un hud ac erbyn hyn mae fy mhlant wrth eu boddau. Dwi'n mwynhau'r meinciau pan dwi ddim ar ddyletswydd gwthio siglen. Mae hefyd drws nesaf i'r castell. Does dim byd i chi beidio â’i hoffi yma.

    Dwi'n rhy hen i fwynhau cae chwarae erbyn hyn. Dwi’n rhy fawr i gymysgu â'r plant bach a dydy’r llithren ddim yn para'n ddigon hir. Dyna sy’ orau hefyd dweud y gwir. Dwi hefyd yn dal i feddwl fy mod yn dal i fownsio yn yr un ffordd ag yr o’n i, ond dydw i ddim wir eisiau canfod yr ateb.

    Ond nid oeddwn yn Aber i chwarae, roeddwn  i yno i weithio. Roedd y digwyddiad yn cael ei arwain gan Bwyd Dros Ben Aber ac roedd yn edrych ar ffyrdd o greu system fwyd gynaliadwy ar gyfer Ceredigion.

    Ymhlith y siaradwyr roedd Sophia, oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Dyfi Dairy gyda stori ysbrydoledig am gariad aruthrol tuag at eifr ac awydd i ennill bywoliaeth yn gofalu amdanynt.

    Siaradwr arall oedd Ben Porter o Tir Canol, sefydliad sy’n olynu’r prosiect O'r Mynydd i'r Môr. Yn dilyn diwedd y bartneriaeth O'r Mynydd i'r Môr yn wyneb gwrthwynebiad lleol, dechreuodd Tir Canol ar raglen 2 flynedd o gyd-greu i feithrin ymddiriedaeth ymhlith y cymunedau yn eu maes gweithredu ac i gyd-greu cynllun ar gyfer y ffordd ymlaen.

    Gwnaeth y ffordd y mae Tir Canol wedi cymryd perchnogaeth o'u gorffennol tipyn o argraff arnaf fi. Er na allent wadu eu hanes, mae cydnabyddiaeth agored o'r fath yn helpu i adeiladu ymddiriedaeth o'r cychwyn cyntaf i gyfeiriad newydd. Ar ôl darllen yr adroddiad terfynol o'r cyfnod cyd-ddylunio, mae’n amlwg fod rhywfaint o arferion da yna. Mae hefyd yn gryno, yn onest ac yn hawdd ei ddarllen. Sy'n braf ac yn cyd-fynd efo ethos cyflwyniad Ben yn y digwyddiad.

    Cyd-Bethau

    Pan oedden ni'n cymysgu dros baned cyn dechrau'r digwyddiad, es i’n rhan o sgwrs a ymlwybrodd i drafod ymgynghori ar benderfyniadau a chynlluniau. Ar ôl ychydig fe wnaethon ni drafod y gwahaniaeth rhwng Ymgynghori, Cyd-gynhyrchu a Chyd-greu. Fe ges i syniad am reol hawdd a sydyn siâp twmffat, ond nid oes gennyf unrhyw syniad os yw'n wreiddiol ai peidio. Gellir ei ddefnyddio fel dull llinell syth neu gylchol, nid yn annhebyg i feddwl dylunio diemwnt dwbl.

    Cyd-greu - pan fo gennych gwestiwn ond dim atebion - pan rydych yn edrych ar le 'gwag' a heb benderfynu sut i'w ddefnyddio eto. Efallai eich bod yn y broses o wneud lle yn wag yma hefyd. Os oeddech chi eisiau ceisio ail-feddwl rhyw fath o ddarpariaeth gwasanaeth yn gyfan gwbl er enghraifft. Byddai'n dda gosod rhai ffiniau yma. Mae'n anodd iawn llenwi tudalen wag o bapur. Er enghraifft, beth pe baech chi yn cael cae ar gyrion y pentref?

    Cyd-gynhyrchu - pan fo'r penderfyniad ynghylch beth i'w wneud wedi ei wneud, ond nid sut i'w gyflawni - pan fo'r amlinelliad cyffredinol wedi ei farcio. Gan ddefnyddio'r senario cae ar gyrion y pentref, rydych chi wedi penderfynu ar y cyd yn y cyfnod cyd-greu yr hoffech chi ddefnyddio'r cae fel clwb chwaraeon. Y cam cyd-gynhyrchu yw penderfynu pa chwaraeon yr hoffech chi weld ar y cae.

    Ymgynghoriad - pan fyddwch chi wedi penderfynu beth yw'r opsiynau sy’n cael eu ffafrio, ac eisiau gwirio bod pawb yn fodlon ar hynny. Dyma pryd mae gennych gynllun a does ond eisiau gwybod pa liw fydd y cit a manylion eraill.

    Yn aml, mae'n teimlo fel bod ymgysylltu yn dechrau yn ystod y cyfnod ymgynghori, hyd yn oed os oes ymgais wedi bod i guddio'r ffaith. Does dim o'i le ar hynny os yw'n iawn ar gyfer y cyd-destun, ond byddai'n braf teimlo bod ymgysylltu â'r cyhoedd yn fwy na thicio'r bocs bob hyn a hyn.

    Byddwn yn hapus iawn i ddysgu am ymgysylltu â’r cyhoedd sydd wedi'i llunio'n wirioneddol gan y bobl. Rydw i eisiau bod yn anghywir.

    Bu bron i fi lwyddo i beidio â sôn am chwaraeon hefyd. Rwy'n dal i ddweud wrthyf fy hun nad oes gen i obsesiwn.