Hygrededd yn y sector cyhoeddus

15 Rhagfyr 2023
  • Mae'r adnodd hwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb gweld recordiad o'r digwyddiad Hygrededd yn y Sector Gyhoedds a gynhaliwyd ar 5/12/23, yn ogystal ag adnoddau ychwanegol.

    Title
    Recordiad o'r weminar
    Embed URL
    https://www.youtube.com/embed/bLp-ttUnAAs?si=sL40kym3FOg5MabC
    Title
    Sefydlu diwylliant o hygrededd
    Embed URL
    https://www.youtube.com/embed/VJFSb1DcATg?si=OQpXsBss5d6VDW1D

    ‘Mae ymddiriedaeth yn cael ei adeiladu a'i gynnal trwy fod yn gymwys, yn ddibynadwy a gonest, yn ogystal ag adeiladu perthynas gadarn ac agored rhwng y sector gyhoeddus a'r cyhoedd y mae'n ei wasanaethu. Golyga hynny fod rhaid i wasanaethau cyhoeddus fod yn atebol am reolaeth, darpariaeth a chanlyniadau gwasanaethau cyhoeddus, am gyfeiriad a rheolaeth y gwaith a gyflawnir ganddo, yr adnoddau a reolir ganddo, ac am ei ymddygiad a'i egwyddorion.'

    ('Trust is built and maintained through competence, reliability, and honesty, as well as the building of genuine and sound relationships between the public sector and the public it serves. That means the public sector must be accountable for the management and delivery of public services and outcomes, for the direction and control of the work it does, the resources it manages, and for its behaviour and ethics.’ )

    Bu i'r digwyddiad hwn yn edrych ar sut y gall gwasanaethau cyhoeddus hyrwyddo diwylliant o hygrededd.

    Dywedir yn eithaf aml fod ymddiriedaeth yn araf iawn i’w adeiladu, ond gellir ei golli mewn amrantiad.

    ‘Rydym yn ddibynnol iawn ar fod yn medru ymddiried mewn pobl a sefydliadau. I ni yn Archwilio Cymru, mae ymddiriedaeth yn greiddiol i’n gallu i gyflawni ein hamcanion o Roi Sicrwydd, Egluro ac Ysbrydoli. Wedi’r cyfan, heb fedru ymddiried ynom, pam ddylai unrhyw un wrando ar yr sydd gennym i’w ddweud?

    Yn 2022 bu i Swyddfa Archwilydd Cyffredinol Seland Newydd gyhoeddi adroddiad sydd yn egluro pwysigrwydd hygrededd mewn sefydliadau cyhoeddus. Yn yr adroddiad nodwyd y dylai ymrwymiad parhaus i adeiladu hygrededd fod yn greiddiol i sefydliadau, er mwyn adeiladu diwylliant o hygrededd sydd yn arwain at sefyllfa ble mai gwneud y peth iawn yw’r peth hawsaf i’w gyflawni.

    Mae adeiladu hygrededd yn arwain yn ei dro at adeiladu ymddiriedaeth, sydd yn ei drio yn ein galluogi i gyflawni ein rolau.

    ‘Rydym ni i gyd wedi dod ar draws dyfyniad enwog Peter Drucker; fod ‘diwylliant yn bwyta strategaeth i frecwast’, sy’n pwysleisio pwysigrwydd gweithredu mewn modd sy’n adeiladu hygrededd er mwyn adeiladu diwylliant a chyflawni newid parhaol. Mae ‘dangos yn lle dweud’ yr un mor bwysig wrth reoli ag y mae wrth wneud ffilm neu ysgrifennu nofel.

    Ar Ragfyr y 5ed bydd Archwilio Cymru yn cynnal trafodaeth banel fywiog ar hygrededd. Gyda chyfrannwyr o Swyddfa Archwilydd Cyffredinol Seland Newydd, ICAEW, CIPFA ac Archwilio Cymru hefyd, bu i'r panel drafod hygrededd ac ymddiriedaeth ac ymateb i gwestiynau a sylwadau gan fynychwyr hefyd.