Newid, Pontio, Diwedd

23 June 2023
  • Sut mae pêl-droed, newid sefydliadol a galar yn perthyn.

    'Dw i ddim yn meddwl fod gen i broblem, sydd gen ai ‘rioed. Ond dwi yn mynd i siarad am bêl-droed, a fy hoff dîm. Eto. Dwi eisiau siarad am newid, a mae o’n edrych fel ffordd o wneud hynny.

    Gan eich bod yn darllen hwn yn Gymraeg, dwi’n amau eich bod yn ymwybodol o hanes diweddar tîm pêl-droed cenedlaethol y dynion. Os nad ydych chi yn cymryd sylw o gwbwl, tydi hi ddim yn mynd yn dda iawn ar hyn o bryd: Mae Cymru yn dîm sydd yng nghanol cyfnod o newid ac mae’r rheolwr, Rob Page o dan bwysau gan fod canlyniadau a pherfformiadau’r tîm wedi bod yn wael.

    Bu i Gareth Bale, Joe Allen, Chris Gunter a Johnny Williams ymddeol wedi Cwpan y Byd. Gareth Bale oedd yr enw mwyaf wrth gwrs ac roedd Gunter a Williams yn ffefrynnau gyda’r cefnogwyr, ond ‘roedd Joe Allen yn chwaraewr hynod o bwysig yng nghalon y tîm. Gyda Aaron Ramsey, ‘roedd Bale ac Allen yn driawd oedd yn gwneud i dîm Cymru ganu. Gellid dadlau (yn enwedig gan mai o ydi fy hoff chwaraewr) mai Allen oedd y chwaraewr pwysicaf o’r triawd oherwydd y ffordd ‘roedd yn cyfrannu i’r rhannau amddiffynnol, trosglwyddo ac ymosodol o’r gem. Nid oedd yn sgorio llawer o goliau (dwy gôl mewn 74 ymddangosiad) ond mi oedd yn gwarchod yr amddiffyn ac yn adennill meddiant, ac yn bwysig ‘roedd y sgiliau a’r dychymyg ganddo i basio’n effeithiol er mwyn adeiladu’r ymosodiad nesaf. ‘Roedd yn gwneud gwaith pwysig sydd yn aml ddim yn cael ei weld oedd yn gosod sylfeini er mwyn i eraill ddisgleirio. Ein chwaraewr ni oedd o ac ‘roedd mor bwysig a Gareth Bale, ond ei fod wedi mynd i chwarae yn Stoke a nid Madrid.

    I bobl rygbi, meddyliwch am Taulupe Faletau; diymhongar ond cyson wych. Unwaith mae rhywun yn gweld ei waith mae’n amhosib ei anwybyddu.

    Sut mae hyn yn berthnasol i’r gwaith felly?

    Felly, mae ymddeoliad chwaraewr mor bwysig yn mynd i gael effaith. Ond sut fydd Cymru yn rheoli’r newid? Mae aelod pwysig o’r tîm wedi gadael, gan adael twll sydd angen ei lenwi yn y llwyth gwaith ac angen rhywun arall i gymryd ei le. Fydd arddull gweithio y tîm yn newid? Ydi natur y dasg yn newid? Fydd y ffordd maent yn ceisio cyflawni eu hamcanion yn newid? Sut fydd gweddill y tîm yn ymateb i’r newid?

    Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi bod mewn sefyllfaoedd lle’r ydym yn gofyn cwestiynau tebyg. Yn yr ansicrwydd anesmwyth sy’n dod gyda newid mae nifer o bethau yn cael eu taflu i fyny i’r awyr. Weithiau mae aelod newydd o’r tîm yn ffitio i mewn yn berffaith ac yn cyflawni yr un rôl neu rôl debyg ac mae’r sefyllfa ar ôl y newid ddigon tebyg i’r gorffennol cyn y newid. Dro arall, mae natur a chymeriad y tîm newydd yn wahanol ac felly angen addasu ac esblygu i ffordd newydd o weithio.

    Hên ystrydeb yw mai’r unig beth cyson mewn bywyd yw newid. Yn aml ceir ei ddefnyddio cyn dadorchuddio y gromlin newid sydd wedi ei seilio ar waith modelu galar Kubler-Ross. Mae’n ddarlun digon defnyddiol wrth ein paratoi ar gyfer gwaelod y gromlin ac yn ein dysgu i ragweld na fyddwn ni a’r rhai sydd o’n cwmpas yn cael llawer o hwyl wrth i ni weithio trwy’r newid.

    ‘Rydw i hefyd yn meddwl fod cromlin fach gyda 3 cam sy’n adfer mewn i ddyfodol disglair fel cordiau cân hapus yn llawer rhy syml. Tydi 3 cam ar gromlin newid unlle’n agos i fod ddigon da i gyfleu’n drosiadol sut mae tîm yn ymateb i newid dros amser wrth i effeithiau newid wneud eu gwaith ar y tîm.

    Atebion yn y tirwedd

    Yn ôl Wales.com, pe bawn yn llyfnhau’r rhychau tirwedd i gyd ac yn smwddio Cymru yn hollol fflat, yna byddai ei arwynebedd yn fwy nag arwynebedd Lloegr (dwi’n cymryd nad yw Lloegr wedi derbyn yr un driniaeth er mwyn i hynny weithio). Felly â minnau yng Nghymru ac yn medru edrych allan trwy’r ffenest gwelais ffordd well o ddangos cromliniau newid dros amser.

    Llun o Eryri wedi ei dynnu ar fore tesog. Mae cribau'r mynyddoedd yn rhedeg yn llorweddol ar draws y llun ac yn edrych bron fel graff amledd sain.

     

    Enw'r llun uchod yw 'One Morning in Snowdonia' a daw o Wikimedia Commons. Bydd angen i chi drin y llun fel siart ac anwybyddu’r echelin fertigol gan mai llwybr y llinellau sy’n ein diddori ac nid unrhyw werthoedd. Darllenwch y llun o’r chwith i’r dde ac mi welwch werth tîm o gromliniau newid, gyda rhai yn bositif, rhai yn negyddol a rhai yn eithaf gwastad.

    Yr hyn sydd bwysicaf am y llun yw nad yw taith unrhyw aelod o’r tîm yn dangos cynnydd positif cyson yn dilyn cyfnod isel.  Maent i gyd ar eu taith eu hunain trwy’r newid fel a welwn trwy ddilyn llwybrau’r cribau yn y llun.

    Does yn yr un llinell yn dilyn llwybr cyson, mae gan bob un ei gyfnodau gwell a’u cyfnodau gwaeth, a tydi newid ddim yn broses sydd yn dilyn un llwybr syml i un cyfeiriad. ‘Rydw i wedi gwneud nodiadau ar y llun er mwyn ceisio gwneud y cromliniau yn fwy amlwg isod:

    Fersiwn arall o'r llun o eryri sydd uchod. Y tro yma mae cribau'r mynyddoedd wedi eu hamlygu mewn lliw a'u cyflwyno mwy fel siart gyda amser fel yr echelin lorweddol a nodiadau mewn llaw yn dehongli'r llinellau fel taith unigol aelodau o dim wrth fynd trwy newid.

    Galar

    Gan fod y gromlin newid wedi ei seilio ar y borses o alaru, mae'n gwneud synnwyr fod galar yn gael ei gyflwyno ochor yn ochr â newid. Fel rhan o’r broses newid mae’n cael ei gydnabod hefyd fod angen o bosib cael cyfnod o alaru am yr hen status quo, yn enwedig os yw’r newid yn un sydyn.

    Mae galar yn broses bwerus ac yn un ‘rydw i wedi bod yn ei archwilio dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ymddeoliadau Gareth Bale a Joe Allen wedi rhoi cyfle i archwilio gwahanol fathau o alar. Mae ymddeoliad fy hoff chwaraewr pêl-droed yn anochel, a rhyw bryd (fel arfer ar ôl iddynt droi yn 30) mae’r teimlad yn tyfu nad yw eu cyrff yn ymdopi mor dda gyda chwarae’n broffesiynol bellach ag y bu yn y gorffennol. Mae’r cloc yn dechrau ticio a daw’r teimlad fod dechrau’r diwedd yn dod.

    Pan ddaw y diwedd hwnnw, mae’n sioc ond nid yn annisgwyl. Mi o’n i wedi gobeithio fod un hyrddiad arall ar gyrraedd twrnament mawr ar ôl gan y ddau chwaraewr, a byddwn wedi gobeithio yr un peth ar gyfer yr ymgyrch wedi hynny. Ond na. Fyddwn ni ddim yn eu gweld yn gwisgo crys Cymru ar y cae fyth eto.

    Ond roeddem yn gwybod fod y cyfnod yma ar ei ffordd. Mae Cymru mewn cyfnod o drosglwyddo ac adnewyddu, yn dilyn claddu bwgan cyrraedd Cwpan y Byd o’r diwedd, roedd rhyw fath o drosglwyddo rhwng cenedlaethau pêl-droed yn anochel. Ond mae o’n dal i frifo, colli’r gobaith o weld eiliad o athrylith hudolus Gareth Bale, yn gwybod nad yw Joe Allen yna i wneud canol cae yn gadarn a mentora ei gyd-chwaraewyr ifanc yng nghalon y tîm.

    Maent yn ein gorffennol bellach. Felly mae’n amser i ni alaru. Mi wnes i adnabod camau galar wrth iddynt gyrraedd, yn enwedig y gobeithio nad oedd y newyddion yn wir. Y gwadu. Ond does ‘na ddim gwadu unwaith ddaeth y fideos uchafbwyntiau allan ar y cyfryngau cymdeithasol; diolch Gareth, diolch Joe.

    Y gwir amdani ydi nad ydi ymddeoliad fy hoff chwaraewyr pêl-droed yn effeithio ar fy mywyd mewn gwirionedd. Mae Cymru’n gwneud yn dda neu wneud yn wael yn ysgafnhau fy ngham neu chwipio’r glaw i mewn fymryn yn galetach, ond dim ond chwaraeon ydi o. Adloniant ydi o a ‘dw i wrth fy modd ag o, ond dim ond yr eisin ar y gacen ydi o, tydi o ddim yn bwysig yn y pen draw.

    Mi fedrai fod fodd bynnag yn agored fy ngalar wrth i yrfaoedd gerdded mewn i’n hanes. Mi fedra i ddweud fy mod wedi ypsetio braidd wrth glywed y newydd. Mi fedrai ddal ag eistedd gydag o a’i brosesu mewn i obaith cefnogwr tîm Cymru: ‘Rydym wedi cael cyfnod gwych yn ddiweddar, a ‘dwi’n cofio cyfnod Gould ac wedyn cyfnod Toshack. Mi fydd ‘na rywun yn ymddangos, a chyn belled fod y tîm yn gwneud eu gorau byddwn yn eu cefnogi waeth beth yw’r canlyniad.

    Mi fedra i wneud hynny ar gyfer chwaraewyr pêl-droed gan nad ydi o yn bwysig, ond mae’n rhaid i mi fod yn ofalus sut ‘dw i’n dal ac eistedd gyda’r galar rydw i yn ei gario.

    Ynglŷn â’r awdur

    Mae Siôn Owen yn Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth gyda Tîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Mae Siôn wedi bod yn gweithio i Archwilio Cymru am 3 blynedd. Cyn hyn, bu Siôn yn gweithio i awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru.