Digwyddiadau Cymru â Diwylliant Bywiog Lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu, Mai 2023

06 June 2023
  • Yn ystod ail hanner mis Mai bu i ni gynnal  ein digwyddiadau diweddaraf; ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ yng Nghaerdydd a Llandudno.

    Roedd y digwyddiad hwn wedi bod ar y rhestr hir o bynciau yr oeddem am fynd i'r afael â nhw ers blynyddoedd. Y drafferth yw lle rydych chi'n dechrau? Mae'n bwnc eang; iaith gyfan a’r diwylliant sydd ynghlwm â hi sydd hefyd angen ychydig o help ac anogaeth, wedi'i gwmpasu mewn hanner diwrnod. 

    Mae cryn dipyn o'n digwyddiadau yn dechrau wrth drafod a thrafod, taflu pethau o gwmpas, bownsio  syniadau ac yn y blaen ac yna, yn sydyn mae siâp a themâu y digwyddiad yn dod i’r golwg. ‘Doedd hynny heb ddigwydd gyda’r digwyddiad hwn – welom ni ddim amlinelliad yn ffurfio yn y niwl na llwybr defaid addawol y gallem ni ei ddilyn. 

    Yna digwyddodd ambell i beth. Roedd Yma o Hyd gan Dafydd Iwan yn 'foment'. Moment ddiwylliannol genedlaethol Gymreig lle'r oedd cân Gymraeg yn cyfeilio dathlu bod Cymru yng Nghwpan y Byd, a daeth yn anthem swyddogol Cwpan y Byd. Disgrifiodd Elis James y teimlad yn dda yn ei flog yn y Guardian:  

    "For it to be sung so intensely by non-Welsh speakers and Welsh speakers alike would have been inconceivable a few years ago, and somehow felt both normal and massively significant."

    Roedd yn teimlo, o'r diwedd, nad oedd y byd Cymraeg wedi'i gyfyngu i ystafell fach fymryn yn od ar y cyrion. Stafell lle'r oeddem ni i gyd yn cael amser braf iawn, ond lle’r oedd pawb arall yn ein hosgoi ni. Mae y Gymraeg yn rhan naturiol o'r Gymru fodern, o’r diwedd yn rhan o'r hyn sy’n bod. 

    Rhywbeth arall i ni ei weld oedd bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi mabwysiadu strategaeth gynaliadwyedd gan ddefnyddio egwyddorion Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ac yn gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.  

    Y peth pwysicaf i'w gofio yma yw nad oes rhaid i’r Gymdeithas wneud hyn; does dim dyletswydd gyfreithiol arni i fod yn ddwyieithog, nac i feddwl am genedlaethau'r dyfodol wrth wneud penderfyniadau. Roedd yn teimlo mai dyma'r peth iawn i'w wneud ac fe wnaeth hynny. Mae Noel Mooney, Prif Weithredwr presennol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi siarad droeon am yr egwyddor o wneud y peth iawn, ac wedi rhoi’r egwyddor honno ar waith.  

    Trwy wau ymdeimlad o Gymreictod a balchder wrth gynrychioli'r wlad ymhlith y chwaraewyr ar y cae, gwelodd cefnogwyr yn yr eisteddle eu balchder eu hunain yn eu hunaniaethau Cymreig yn cael ei adlewyrchu. Ynghyd â'r llwyddiant a welwyd ers 2016 sydd wedi arwain at fwy o gefnogaeth i’r tîm cenedlaethol, mae’r Gymdeithas wedi cael llwyfan i dyfu ac i ddod yn raddol i fod yn fwy dylanwadol. 

    Mae llwyddiant yn magu llwyddiant wrth gwrs, a bydd hi’n ddiddorol gweld beth fydd yn digwydd pan fydd dirywiad anochel yn ffawd tîm Cymru. Rydym ni wedi cael cyfnod da iawn, iawn. Y peth pwysig yw bod y Gymdeithas wedi dewis gweithio gyda Chymru gyfan, gyda mudiadau a sefydliadau, i feithrin perthnasoedd a gweithio gyda'i gilydd. Drwy wneud hynny, crëwyd cyd-destun lle gallwch chi weld Cymru gyffyrddus, fodern.  

    Siaradodd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn y ddau ddigwyddiad ac ni wnaeth siomi. Rhannodd daith y Gymdeithas wrth gynrychioli Cymru gyfan a bwydo'r chwilfrydedd a ddaeth yn sgîl dysgu mwy am y wlad y maen nhw’n ei chynrychioli. Mae'n daith sy’n ysbrydoli, ac yn un roedd Ian yn gallu rhannu mwy trwy gynnal gweithdy lle rhannodd fwy o gyd-destun ac ateb cwestiynau gan gynrychiolwyr. 

    Gweithdai 

    Wrth sôn am weithdai, gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, roeddem ni wedi trefnu pum gweithdy dros y ddau ddigwyddiad, gan edrych ar wahanol agweddau ar Gymru. Yng Nghaerdydd, rhannodd Clwb Rygbi'r Dreigiau sut maent yn defnyddio chwaraeon fel ffordd o adeiladu cymunedau ac yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid i fod mor gynhwysol â phosibl. Un agwedd bwerus ar gyflwyniad y clwb oedd ei 4 gwerth, sef y pethau na allwch chi eu cymryd yn ôl ‘chwaith:  

    • Gair ar ôl iddo gael ei ddweud 

    • Amser ar ôl iddo fynd 

    • Cyfle ar ôl iddo gael ei golli 

    • Ymddiriedaeth ar ôl iddi gael ei cholli 

    Rhannodd Urdd Gobaith Cymru werthoedd craidd y mudiad sy'n rhoi cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru wneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymunedau. Hyd yn oed fel rhywun sy'n gyfarwydd â rhai agweddau ar waith y mudiad, fe ddysgais i lawer. Un agwedd a oedd yn arbennig o ddiddorol oedd bod llinyn arian yn rhedeg trwy eu gwaith heddiw sydd wedi bod yno ers ei sefydlu yn 1922. 

    Cydweithiodd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg â Chyngor Sir Ynys Môn i rannu ei Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg, a sut mae cydweithio yn allweddol. Un agwedd ddiddorol yw sut mae'n gweithio yn y gymuned i fagu hyder yn y defnydd o'r Gymraeg ac i hwyluso trosglwyddo'r Gymraeg o genhedlaeth i genhedlaeth drwy ap Ogi Ogi. Siaradodd Llywodraeth Cymru hefyd am sut roedd yn gweithio i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn fewnol, gyda'r nod o ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050. Mae’r strategaeth ‘Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd’ wedi arwain at gynnig hyfforddiant iaith ehangach a mwy hyblyg nag yn y gorffennol. Ar y cyd â chefnogaeth gan y rhai mewn rolau arweiniol, mae wedi arwain at fwy o hyder wrth iddi fwrw ymlaen â'r newid graddol hirdymor i ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. 

    Cyflwynodd Amgueddfa Cymru ei thaith hyd yma wrth ddad-drefedigaethu eu casgliadau. Gan ddefnyddio'r gwaith sydd wedi arwain at arddangosfa Ailfframio Picton, cawsom drafodaeth ddiddorol, ddofn am yr hyn y mae hanes yn ei olygu i ni heddiw a sut mae ffigurau hanesyddol yn llawer o bethau ar yr un pryd. Dim ond dechrau'r gwaith ar ddad-drefedigaethu yw hyn, ac o ystyried mor ddwfn mae etifeddiaeth yr Ymerodraeth Brydeinig wedi treiddio yn y Deyrnas Unedig fodern (os oes gennych chi ddiddordeb mewn darllen mwy am hyn, rwy'n argymell Empireland gan Sathnam Sanghera), mae gen i ddiddordeb mewn gweld lle mae'r gwaith yn mynd nesaf a sut y bydd yn ail-fframio ein ffordd o feddwl am y presennol.  

    Ein prif westeion ...  

    Rydym ni yn y Gyfnewidfa Arfer Da yn hynod ddiolchgar bod Efa Gruffydd Jones a Derek Walker wedi gallu rhoi amser i ni o'u dyddiaduron prysur i gyfrannu at drafodaeth banel yn y ddau ddigwyddiad. A hynny cyn i ni sôn am Siân Lewis o Urdd Gobaith Cymru yng Nghaerdydd a Siân Morris Jones yn Llandudno a roddodd eu hamser i ni wrth iddynt fod yng nghanol paratoi i rannu Neges Heddwch ag Ewyllys Da flynyddol yr Urdd ac ar drothwy Eisteddfod yr Urdd. ‘Rwy’n tybio mai dyma eu cyfnod mwyaf, prysuraf o’r flwyddyn! Rydym ni'n wirioneddol ddiolchgar, a ni allwn bwysleisio hynny ddigon. 

    Fe wnaethon ni osod cwestiwn agoriadol mawr iawn i'r panel: 'Sut ydych chi'n gweld Cymru heddiw?' Manteisiodd y panel ar y cyfle i rannu’r hyn yr oedden nhw’n meddwl oedd y pethau cadarnhaol, ond hefyd soniwyd am yr heriau a'r angen i sefydliadau weithio'n galed i fod yn gynhwysol a dilyn y Pum Ffordd o Weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Roedd hi'n neges arbennig o deimladwy ar y bore wedi'r aflonyddwch diweddar yn Nhrelái, Caerdydd. Thema fawr arall oedd pwysigrwydd sefydliadau’n cydweithio ac yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu a gwella gwasanaethau. 

    Prif Wrandäwr  

    Cadeiriwyd ein Panel gan Einir Siôn o Gyngor Celfyddydau Cymru, a oedd yn ardderchog wrth hwyluso a chrynhoi sgwrs gynhwysol. Roeddem ni wedi gofyn i Einir fod yn Brif Wrandäwr ar gyfer y digwyddiadau hefyd.  

    Mae Prif Wrandäwr yn rôl sy’n cael ei rhoi i rywun sy'n cael ei wahodd i weld cymaint â phosibl o'r digwyddiad ac yna’n cael ei wahodd i grynhoi’r digwyddiad a rhannu ei argraffiadau. Rydym ni wedi eu defnyddio yn ein digwyddiadau o bryd i'w gilydd ac maen nhw bob amser yn ychwanegu rhywbeth at ddigwyddiad – mae ganddyn nhw bersbectif gwahanol ac yn sylwi ar bethau y gallai eraill fod wedi'u methu. 

    Wrth i Einir ddod â sesiwn y Panel i ben a’i chrynhoi, rhoddodd ei hanerchiad fel y Prif Wrandäwr  hefyd, a chrynhoi mewn ychydig funudau'r holl negeseuon a’r themâu yr oedd wedi'u nodi yn ystod y bore. Un o'r pethau y dywedodd Einir ei fod wedi aros gyda hi oedd, hyd yn oed os mai ‘Cymru â Diwylliant Bywiog Lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu’ yw'r nod llesiant sy'n cael y lleiaf o sylw o bosibl, o fewn y gwaith sy'n cael ei wneud tuag at ei gyflawni, mae’n ffynhonnell gyfoethog o ysbrydoliaeth a allai helpu i gyflawni'r nodau llesiant eraill. 

    Cau 

    Felly, wrth ddod i ddiwedd y nodyn yma, gobeithio fy mod i wedi rhoi blas i chi o'r digwyddiadau a gynhaliwyd. Gallem yn hawdd fod wedi trefnu gŵyl wythnos o hyd ar y pwnc hwn, ond dim ond hanner diwrnod oedd gennym ac mae cymaint o agweddau eraill ar y nod llesiant y gallem ni fod wedi'u cynnwys. 

    Dim ond dechrau sgwrs yw hi, ac efallai ei bod hi’n sgwrs y gallwn ni ei chynnal ymhellach, ond efallai mai tro rhywun arall yw hi i’w harwain. Dim ond dechrau yw hyn. 

    Ynglŷn â’r awdur

    Mae Siôn Owen yn Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth gyda Tîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Mae Siôn wedi bod yn gweithio i Archwilio Cymru am 3 blynedd. Cyn hyn, bu Siôn yn gweithio i awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru .