Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau cam cyntaf Asesiad Strwythuredig yr Archwilydd Cyffredinol yn 2021 ar y trefniadau cynllunio gweithredol yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Ar y cyfan canfuom fod yr Ymddiriedolaeth wedi parhau i addasu a mireinio’i dull cynllunio i ymateb i ofynion newydd, heriau pandemig COVID-19 a chynnal trosolwg ar ei huchelgeisiau hirdymor. Fodd bynnag, o ganlyniad i bwysau gweithredol cafodd rhai agweddau ar fonitro cynnydd ac adrodd ar gynnydd gyda chynlluniau eu hatal dros dro neu eu haddasu yn ystod y flwyddyn ac mae cyfle i egluro’r trefniadau hyn wrth edrych tua’r dyfodol.