Dyfodol parciau a’u heffaith gadarnhaol ar les Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae llawer o’n parciau’n wynebu dyfodol ansicr, ac mae’r gwaith o’u rheoli a’u cynnal a’u cadw dan fygythiad. Bydd y seminar hon yn edrych ar yr heriau presennol ac yn dangos yr arloesi sydd eisoes yn cael effaith. Bydd pawb a fydd yn bresennol yn gadael gyda syniadau am sut mae defnyddio’r ardaloedd sydd â’r potensial mwyaf ar gyfer arloesi a sut mae sicrhau bod parciau’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Ymddiriedaeth staff – elfen allweddol wrth ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yn llwyddiannus Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o bwysigrwydd ymddiriedaeth mewn perthnasau personol. Mae hyn yr un mor addas ar gyfer perthnasau proffesiynol. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn profi newid mawr. Ni ellir amau gwerth y cysylltiad rhwng ymddiriedaeth a’i effaith ar staff gwasanaethau cyhoeddus. Neu’r hen ddywediad, ‘mae diffyg ymddiriedaeth yn costio arian!’
Atall Twyll Caffael Ynghyd Twyll caffael yw'r twyll uchaf ond un a ganfyddir yn sector cyhoeddus y DU, yn ail i dwyll treth yn unig. Mae amcangyfrifon diweddar yn nodi bod twyll caffael yn costio oddeutu £2.3 biliwn y flwyddyn i’r sector cyhoeddus. Ni ellir parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y fformat presennol – mae hynny'n ffaith. O ganlyniad, bydd llawer o wasanaethau yn cael eu darparu mewn nifer o wahanol fodelau cydweithredol. Mae posibilrwydd y ceir cynnydd mewn gweithgarwch twyllodrus o ran caffael a chomisiynu'r gwasanaethau hyn.