Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae gweithredu cadarnhaol mewn ymateb i argymhellion archwilio blaenorol yn helpu i sicrhau defnydd cadarnhaol o arian cyhoeddus
Fodd bynnag, mae angen gweithredu pellach i wella goruchwyliaeth ar y Gronfa gan fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Yn 2019, fe gyhoeddom ni Adolygiad o’r Gronfa Gofal Integredig (ICF), a sefydlwyd i alluogi partneriaethau rhanbarthol i integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn well. Fe amlygodd yr adolygiad effaith gadarnhaol y Gronfa Gofal Integredig ar wella integreiddio a gweithio mewn partneriaeth ond fe adnabu hefyd wendidau yn y ffordd yr oedd y gronfa’n cael ei rheoli. Fe gyflwynom ni chwe argymhelliad i Lywodraeth Cymru a dderbyniwyd yn llawn ganddi. Fe ddisodlodd Llywodraeth Cymru’r Gronfa Gofal Integredig â’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (RIF) ym mis Ebrill 2022. Fe ddisodlwyd yr elfennau cyfalaf â Chronfa Tai â Gofal newydd.
Mae adroddiad heddiw’n ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ein hargymhellion blaenorol ar waith ac yn disgrifio effaith gadarnhaol y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a roddodd gymorth yn ystod 2024-25 i 181,922 o bobl fyw’n annibynnol trwy reoli eu hanghenion iechyd a gofal.
Mae’n amlwg bod yr adroddiad a gyhoeddwyd gennym yn 2019 wedi ysgogi gwelliannau yn y modd y mae Llywodraeth Cymru’n rheoli arian cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pump o’n chwe argymhelliad blaenorol ar waith yn llawn ac wedi rhoi’r un sy’n weddill ar waith yn rhannol. Mae wedi gwella amseroldeb ei phrosesau penderfynu a’i gwybodaeth fonitro, wedi cryfhau ei goruchwyliaeth ac wedi cynorthwyo Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i rannu gwersi a ddysgwyd.
Mae Llywodraeth Cymru’n gynyddol yn dyrannu arian trwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Rhwng 2021-22 a 2026-27, bydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael mynediad at £1.45 biliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru gyda £731 miliwn yn dod trwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Fel aelodau statudol o Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am oruchwylio gweithgarwch Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a sut y mae cyllid y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn cael ei ddefnyddio. Fodd bynnag, adnabu ein hadroddiad rai gwendidau yn yr oruchwyliaeth honno. Canfuom hefyd y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i wneud yn siŵr bod y cyrff hynny’n cydymffurfio â’i chanllawiau ynghylch goruchwyliaeth.
Mae’n fy nghalonogi i weld bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd canfyddiadau’r adroddiad a gyhoeddwyd gennyf yn 2019 ar y Gronfa Gofal Integredig o ddifrif ac wedi gweithredu ar fy argymhellion. Mae’r adroddiad yn amlwg wedi ysgogi gwelliannau i’r modd y rheolir arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.Mae Llywodraeth Cymru’n gynyddol yn dyrannu arian trwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, felly mae angen iddi barhau i weithio gyda chyrff partneriaeth i sicrhau eu bod yn goruchwylio’n ddoeth sut y mae’r arian hwnnw’n cael ei wario. Gobeithio y bydd y canfyddiadau a’r argymhellion pellach yr wyf wedi’u nodi yn yr adroddiad dilynol hwn yn helpu i siapio’r gwaith pwysig hwnnw yn y dyfodol.