Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Yr hyn y gwnaethom fwrw golwg arno

    Yn 2019, fe gyhoeddom ni Adolygiad o’r Gronfa Gofal Integredig. Fe sefydlodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Gofal Integredig yn 2014 i alluogi partneriaethau rhanbarthol i integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn well. 

    Roedd yr adolygiad yn disgrifio effaith gadarnhaol y Gronfa Gofal Integredig ar wella integreiddio a gweithio mewn partneriaeth. Fodd bynnag, fe wnaeth hefyd adnabod gwendidau yn y ffordd yr oedd y gronfa f lynyddol yn cael ei rheoli. Fe wnaeth chwe argymhelliad i Lywodraeth Cymru a dderbyniwyd yn llawn ganddi. 

    Ym mis Ebrill 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddisodli’r Gronfa Gofal Integredig ynghyd â’i Chronfa Trawsnewid â’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fe ddisodlwyd yr elfennau cyfalaf â Chronfa Tai â Gofal newydd.

    Mae’r adroddiad hwn yn archwilio i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ein hargymhellion ar waith trwy’r gwaith i gyflwyno’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol, ac i raddau llai helaeth, trwy’r Gronfa Tai â Gofal.

    Pam fod hyn yn bwysig

    Mae’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn rhan allweddol o ddull Llywodraeth Cymru o wireddu ei gweledigaeth hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol integredig, a nodwyd yn ei strategaeth yn 2018, Cymru Iachach. Trwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a’r Gronfa Tai â Gofal, ynghyd â’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso mae’n amcanu at wreiddio dull ataliol o ymdrin ag iechyd a llesiant y boblogaeth, a rhoi cymorth iechyd a gofal di-dor. 

    Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yw prif gyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi ymyrryd yn gynnar, integreiddio, a gweithio mewn partneriaeth trwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Cronfa bum mlynedd ydyw sy’n rhedeg o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2027, gyda chyllideb flynyddol o oddeutu £146 miliwn.

    Yr hyn yr ydym wedi’i ganfod 

    Mae Cronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru’n cefnogi gweithio rhanbarthol ac yn datblygu modelau gofal di-dor. A hithau bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, mae’r gronfa wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau llawer o bobl. Yn 2024-25, fe gynorthwyodd dros 180,000 o bobl i atal eu hanghenion iechyd a gofal rhag dwysáu. 

    Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pump o’n chwe argymhelliad blaenorol ar waith yn llawn ac wedi cwblhau’r un sy’n weddill yn rhannol. Mae wedi gwella amseroldeb ei phrosesau penderfynu a gwybodaeth fonitro, wedi cryfhau ei goruchwyliaeth ac wedi cynorthwyo Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i rannu gwersi a ddysgwyd. Fodd bynnag, canfuom rai mân fylchau yng ngoruchwyliaeth Llywodraeth Cymru ar y modd y mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gwario’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol. Canfuom hefyd fod rhai rhwydweithiau dysgu ar y cyd yn fwy effeithiol na’i gilydd. 

    Er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru i symleiddio trefniadau ariannu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, mae’r trefniadau hynny’n dal yn gymhleth ac fe ellid eu hintegreiddio’n well. Ceir hefyd bryderon ynghylch cyllid tymor hwy i ddisodli rhaglen y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn 2027, yn enwedig gan bod cyllid y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn cael ei ddefnyddio i ariannu rhai gwasanaethau sydd bellach wedi’u gwreiddio yn y system iechyd a gofal cymdeithasol.

    Fe adnabuom wendidau yng ngoruchwyliaeth sefydliadau statudol ar weithgareddau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a sut y mae cyllid y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn cael ei ddefnyddio. Byrddau iechyd ac awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am sicrhau bod goruchwyliaeth briodol yn digwydd. Gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy hefyd i’w sicrhau ei hun bod y cyrff hynny’n cydymffurfio â’i chanllawiau ynghylch goruchwyliaeth. 

    Yr hyn yr ydym yn ei argymell

    Rydym yn ailgyflwyno dau o’n hargymhellion blaenorol, a ddiweddarwyd i adlewyrchu’r cyd-destun cyflawni cyfredol. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar symleiddio a chysoni ffrydiau ariannu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ymhellach a sicrhau craffu priodol ar benderfyniadau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn y sefydliadau statudol rhanbarthol. 

    Rydym hefyd yn gwneud dau argymhelliad newydd i wella ansawdd goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru ar wariant Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Archwilio Cymru’n amlygu arfer da o ran rheoli Cronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru

    Gweld mwy
CAPTCHA