Trawsgrifiad fideo [PDF 191KB Agorir mewn ffenest newydd]
Hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o Seminarau Dysgu a Rennir, sy'n rhad ac am ddim. Swyddfa Archwilio Cymru sy'n trefnu'r seminarau mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru. Roedd y Seminar yma yn helpu sector cyhoeddus Cymru i baratoi ar gyfer Bil Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd y Bil yn gosod dyletswydd newydd ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru i wneud datblygu cynaliadwy yn brif egwyddor drefniadol iddynt.
Buddion mynychu
Trefnwyd y seminar i greu diddordeb ymhlith arweinwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru ac i roi cyfle i ymarferwyr ddatblygu eu hymarfer. Fe adawodd y cynrychiolwyr gyda:
- dealltwriaeth well o oblygiadau Bil Cenedlaethau'r Dyfodol a gynigwyd ar gyfer eu sefydliadau; a
- dealltwriaeth o sut allai adrodd integredig helpu cyrff cyhoeddus i ymateb i'r ddyletswydd newydd, gan gynnwys rôl y proffesiwn cyllid.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Llywodraeth Cymru y bydd Sgwrs Genedlaethol yn cael ei chynnal ar yr heriau y mae cymunedau'n eu hwynebu ledled Cymru. Roedd y seminar yn helpu llywio'r Sgwrs Genedlaethol honno.
Amlinelliad o’r seminar
Roedd y seminar yn cynnwys cyflwyniadau gan:
-
Y Comisiynydd Dyfodol Cynaladwy [PDF 2MB Agorir mewn ffenest newydd]
Peter Davies; -
Y Cyngor Rhyngwladol ar Adrodd Integredig ac Ystad y Goron [PDF 2MB Agorir mewn ffenest newydd]
Aefydliad sydd wedi ennill gwobrau am adrodd integredig -
Cyngor a Dinas Abertawe [PDF 785KB Agorir mewn ffenest newydd]
Ar eu dull nhw o adrodd ar gyfer datblygu cynaliadwy.
Gellir gweld esiamplau o’u adroddiadau nhw ar y wefan Abertawe [Agorirmewn ffenest newydd]
Gweler Hefyd: Nodyn Briffio Adrodd ar Ddatblygiad Cynaliadwy Abertawe [PDF 111KB Agorir mewn ffenest newydd]
Roedd y seminar hefyd yn cynnws gweithdai ar sut i wella’ch adrodd gan:
- Y Cyngor Rhyngwladol ar Adrodd Integredig ac Ystad y Goron [PDF 817KB Agorir mewn ffenest newydd]
- Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth [PDF 221KB Agorir mewn ffenest newydd]
-
Swyddfa Archwilio Cymru a’r Comisiynydd Dyfodol Cynaladwy [PDF 359KB Agorir mewn ffenest newydd]
Peter Davies.
Ble a Phryd
Dydd Mercher 5 Chwefror 2014
Sesiwn gyntaf: 0800 - 1000
Ail sesiwn: 1000 - 1300
Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ
Dydd Iau 13 Chwefror 2014
0930 – 1300
Glasdir, Plas-yn-Dre, Llanrwst, LL26 0DF