Llamu Ymlaen - Defnyddio profiadau uniongyrchol er mwyn adeiladu dyfodol cydnerth

Ymunwch â ni am 2 y prynhawn ar 9 Rhagfyr ar gyfer archwiliad o'r defnyddo o brofiadau uniogyrchol er mwyn adeiladu dyfodol cydnerth
Mae’r digwyddiad yma yn cyd-fynd â’n hadolygiad Camu Ymlaen gan archwilio sut mae posib defnyddio profiadau uniongyrchol i adeiladu cydnerthedd i’r dyfodol.
Wrth i Covid-19 barhau i gael effaith, yn wyneb newid hinsawdd a’r cyfleoedd sy’n codi o drawsffurfio digidol, sut mae esblygu sefydliadau gwydn sydd yn defnyddio eu hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol gan addasu mewn ymateb i’r heriau sydd heb ddod i’r amlwg eto?
Ymunwch a ni am 2:00y.h, dydd Iau 9 Rhagfyr ar gyfer sesiwn arbennig; archwiliad o natur gwydnwch yn y byd sydd ohoni, gyda gwestai arbennig â’u profiad uniongyrchol i chwilio am belydrau goleuni ymysg y cymylau duon.