Yn Ebrill 2022 bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad ar ddarpariaeth Taliadau uniongyrchol gan gynghorau.
Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a chynghorau, ac yn taflu goleuni ar y ffordd all darpariaeth Taliadau Uniongyrchol chwarae rhan allweddol wrth weithredu yn unol â egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Cynhelir y weminar am 10 o’r gloch ar fore Ebrill 6ed 2022. Mae’n agored i bawb sydd â diddordeb neu rôl sy’n cynnwyd darparu Taliadau Uniongyrchol, gan gynnwys swyddogion arweiniol, ymarferwyr, penaethiaid gwasanaeth, cyfarwyddwyr gofal cymdeithasol ac aelodau etholedig. Bydd hefyd o ddiddordeb i’r rhai sydd yn ffurfio a datblygu polisi yng Nghymru.
Bydd yn weminar yn rhoi cyfle i dderbyn gwybodaeth:
- Gan y tîm archwilio ar ein adolygiad, canfyddiadau ac argymhellion er mwyn gwella;
- Ymatebion dros 1,000 o bobl sydd yn derbyn Taliadau Uniongyrchol i arolwg a gomisiynwyd gennym.
- Diweddariad polisi gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i ein adolygiad a’r gweithgareddau eraill a fwriedir yn y maes.
- Sut mae Taliadau Uniongyrchol yn cael eu darparu yn Lloegr
- Astudiaethau achos o gynghorau sydd wedi ehangu’r defnydd o Daliadau Uniongyrchol
- Gofyn cwestiynau a rhannu profiadau.