Cynhadledd Dyfodol Diamod 2022

Cynhadledd Dyfodol Diamod 2022
clock with the words Finance for the Future

Chwilio am ddealltwriaeth o atebion arloesol ar gyfer dyfodol darparu gwasanaethau cyhoeddus?

Mae'r digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig

Ydych chi eisiau ehangu eich rhwydweithiau a dysgu gan eraill?

Mae ein cynhadledd Cyllid ar gyfer y Dyfodol 2022 yn ôl ac yma i roi'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lywio gyrfa lwyddiannus.

Byddwch yn mynychu prif areithiau a sesiynau llawn ar ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i chi - arweinwyr cyllid yfory. Dysgwch am rai o'r materion allweddol y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu, a pha mor hanfodol yw gweithwyr cyllid proffesiynol o ran cefnogi atebion arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau.

A oes gennych gwestiynau neu bryderon am waith yn y sector cyhoeddus yn yr hinsawdd sydd ohoni? Gofynnwch eich cwestiynau i'n siaradwyr a'u hateb yn y fan a'r lle.

Daw'r gynhadledd i chi gan y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid; partneriaeth sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau arwain cyllid ledled Cymru.

Dalier sylw, bydd y gweminar yn cael ei recordio a'i storio ar YouTube i’w wylio yn y dyfodol.

Sut wyf i'n cofrestru fy niddordeb?

Llenwch eich manylion ar y ffurflen archebu i'r dde o'r dudalen hon. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer digwyddiad yr ydym wedi'i drefnu, rydym yn casglu gwybodaeth benodol amdanoch fel cynrychiolydd, hwylusydd neu gyfrannwr. Gall digwyddiadau gynnwys cynadleddau, ymgysylltu, neu gyfarfodydd a digwyddiadau eraill. I gael gwybod mwy, darllenwch ein Hysbysiad Prosesu Teg Digwyddiadau [agorir mewn ffenest newydd].

Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu dosbarthu 1-2 ddiwrnod cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch.

Arddangoswyr a Gweithdai

Gweld gwybodaeth arddangoswr ar gyfer y digwyddiad hwn [agor mewn ffenestr newydd].

Gweld gwybodaeth gweithdy ar gyfer y digwyddiad hwn [agor mewn ffenestr newydd].

Speakers

Ann-Marie Harkin Ann-Marie Harkin
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio Cymru

Astudiodd Ann-Marie Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ymuno â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, ac wedyn Archwilio Cymru, lle mae hi wedi mwynhau gyrfa amrywiol fel cyfrifydd CIPFA yn ymgymryd â gwaith archwilio ariannol a pherfformio.

Ym 1999, daeth yn Ysgrifennydd Preifat i Archwilydd Cyffredinol Cymru cyntaf, gan sefydlu ei swyddfa yng Nghaerdydd a gweithio ar brotocolau datganoli newydd.

Ann-Marie yw cadeirydd y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid – cydweithrediad Cymru gyfan o gyrff cyhoeddus sy'n hyrwyddo gwerth a phwysigrwydd gyrfa mewn cyllid cyhoeddus.

Yn 2016 enillodd Wobr fawreddog Merched mewn Arweinyddiaeth Cymru.

Ym mis Mawrth 2021 penodwyd Ann-Marie yn Gyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio yn Archwilio Cymru, lle mae hi'n arweinydd proffesiynol ar gyfer yr holl waith archwilio ac ar gyfer datblygu perthnasoedd strategol a phroffesiynol gyda rhanddeiliaid a'r proffesiwn ehangach.

Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr gyda Chyngor ar Bopeth, yn aelod o'u Pwyllgor Archwilio a Risg ac yn Gadeirydd eu Pwyllgor Cynghori i Gymru.

Adrian Crompton Adrian Crompton
Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cafodd Adrian Crompton ei argymell i’w benodi’n Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd. Cafodd ei benodi’n ffurfiol i’r swydd gan Ei Mawrhydi’r Frenhines ym mis Gorffennaf 2018. Fel pennaeth Archwilio Cymru, mae’n goruchwylio’r gwaith o gynnal archwiliadau blynyddol o dros £20 biliwn o arian trethdalwyr ac adroddiadau ar faterion gwerth am arian ledled y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r rhan fwyaf o yrfa Adrian wedi’i threulio’n cefnogi democratiaeth seneddol ar lefel Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Cyn iddo gael ei benodi i’w swydd bresennol, gwnaeth gyflawni nifer o uwch swyddi amrywiol yn y Senedd a, chyn hynny, yn Nhŷ’r Cyffredin. Treuliodd sawl blwyddyn yn darparu arbenigedd a chefnogaeth ymarferol i uwch wleidyddion a gweision sifil wrth wraidd prosiectau yn meithrin newid democrataidd yn Sudan, Irac, yr Aifft a Gwlad yr Iorddonen.

Mae Adrian yn briod ac mae ganddo ddau o blant.

Auriol Miller Auriol Miller
Cyfarwyddwr, Sefydliad Materion Cymreig (IWA)

Auriol yw Cyfarwyddwr prif felin drafod annibynnol ac elusen Cymru y Sefydliad Materion Cymreig (IWA). Fel sefydliad sy’n seiliedig ar aelodaeth, mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd i ddatblygu syniadau i gefnogi democratiaeth gref, hyderus ac economi lwyddiannus, lân, werdd a theg i Gymru. 

Wedi graddio o Goleg Somerville, Rhydychen, mae gan Auriol radd Meistr mewn Astudiaethau Datblygu o SOAS ym Mhrifysgol Llundain. Cyn ymuno â’r Sefydliad Materion Cymreig ar ddiwedd 2016 roedd Auriol yn arwain Cymorth Cymru, y corff ymbarél ar gyfer darparwyr gwasanaethau digartrefedd, cymorth a gofal cymdeithasol sy’n gysylltiedig â thai yng Nghymru.

Cyn ymuno â Cymorth yn 2013, roedd Auriol yn gweithio ym maes ymateb dyngarol rhyngwladol a datblygu cynaliadwy am 20 mlynedd gan gynnwys arwain sefydliadau anllywodraethol blaenllaw yn Burundi, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Sudan a Rwsia lle’r oedd ei swyddogaethau’n cynnwys dylanwadu ar lywodraethau cenedlaethol ym maes polisi ac ymarfer, gan ganolbwyntio’n glir ar ddiogelu hawliau pobl agored i niwed a phobl wedi’u heithrio.

Yn y Sefydliad Materion Cymreig, mae Auriol wedi gwasanaethu ar grwpiau cynghori i nifer o gyrff cyhoeddus ar lefel y DU a Chymru, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Banel Arbenigol ar y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Sian Davies Sian Davies
Uwch Archwilydd, Archwilio Cymru

Mae gan Sian gefndir mewn llywodraeth leol yng Nghymru, gan weithio ym maes datblygu cynaliadwy a pholisi amgylcheddol. Mae Sian wedi bod yn Archwilio Cymru ers 2013 yn gweithio ar archwiliadau sy’n ymwneud â rheoli gwastraff, newid hinsawdd a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd hi’n rhan o dîm y prosiect a gyflwynodd adroddiad ‘Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030’.

Chris Pugh Chris Pugh
Arweinydd Archwilio, Archwilio Cymru

Yn 2003, dechreuodd Chris weithio i’r Comisiwn Archwilio bryd hynny, fel hyfforddai archwilio ariannol. Ers dod yn gyfrifydd siartredig trwy CIPFA yn 2006, mae wedi cael gyrfa amrywiol gydag Archwilio Cymru. Mae Chris wedi gweithio ym maes archwilio ariannol, grantiau, twyll a llywodraethu, perfformiad llywodraeth leol ac ar hyn o bryd mae yn nhîm astudiaethau cenedlaethol Archwilio Cymru fel Arweinydd Archwilio.

Yn y tîm hwn, mae Chris yn rhan o dîm rhaglen ar gyfer gwaith archwilio sy’n ymwneud â newid hinsawdd.

Jenny Lloyd Jenny Lloyd
Cydlynydd Rhaglen – Rhaglen Cymorth Pontio ac Adferiad, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Mae Jenny yn cydlynu rhaglen arloesol CLlLC o gymorth datgarboneiddio i awdurdodau lleol Cymru, gan rannu’r arfer gorau o bob rhan o Gymru a thu hwnt, a chysylltu swyddogion ac Aelodau etholedig er mwyn helpu i gyflymu’r broses o weithredu ar yr hinsawdd.

Mae ganddi brofiad blaenorol o weithio yn y sectorau adnewyddadwy, addysg uwch a chyhoeddus mewn swyddi a oedd yn canolbwyntio ar gyfathrebu adfywio, ymgysylltu â’r gymuned a newid hinsawdd.

Rhys Horan Rhys Horan
Cyfarwyddwr Prosiect, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Ymunodd Rhys â Phartneriaethau Lleol yn 2016 ac ef yw Cyfarwyddwr Prosiect ac Arweinydd Strategol Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r sector cyhoeddus ar draws y gogledd gydag amrywiaeth eang o brosiectau seilwaith, effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy sy’n cynnwys nifer o dechnolegau.

Mae Rhys wedi treulio dros 15 mlynedd yn gweithio i wahanol awdurdodau lleol ar draws y DU. Yn ystod ei yrfa, mae Rhys wedi bod yn gyfrifol am reoleiddio a gwella safonau iechyd a diogelwch  mewn gweithleoedd, cyflwr tai yn y sector rhentu preifat a darparu prosiectau lleihau carbon ac effeithlonrwydd ynni. Mae ef wedi rheoli amrywiaeth o wasanaethau a swyddogaethau awdurdodau lleol, gan ddarparu arweiniad strategol mewn meysydd polisi allweddol.

Mae ganddo radd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus ac mae’n Ymarferydd Iechyd Amgylcheddol Siartredig.

Victoria Camp Victoria Camp
Cyfarwyddwr Prosiect, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Ymunodd Victoria â Phartneriaethau Lleol yn 2022 fel Cyfarwyddwr Prosiect ac Arweinydd Strategol ar gyfer Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, gan gefnogi’r sector cyhoeddus ar draws y de-orllewin gydag amrywiaeth eang o brosiectau seilwaith, effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy sy’n cynnwys nifer o dechnolegau.

Mae Victoria wedi treulio’r pedair blynedd ddiwethaf yn gweithio ym maes trawsnewid yn Awdurdodau Lleol Cymru, a chyn hyn, bu’n gweithio i Gyngor Sir Essex yn y maes masnachol. Mae Victoria yn dod o gefndir sector preifat, gan weithio am dros ddegawd i sefydliad ariannol Americanaidd yn adran y Gyfraith Gorfforaethol yn canolbwyntio ar raglenni sy’n gysylltiedig â newid a thrawsnewid, y llinyn cyffredin trwy gydol ei gyrfa.

Mae gan Victoria radd yn y Gyfraith, ILM 7 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth sy’n canolbwyntio ar arwain drwy newid, ac yn fuan, bydd hi’n cwblhau ei gwregys du mewn Six Sigma sy’n gymhwyster a ardystir gan Sefydliad Ansawdd Prydain.

Jane Forshaw Jane Forshaw
Cyfarwyddwr Prosiect, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae gan Jane dros 25 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector cyhoeddus a phreifat fel darparwr polisi ac arfer cynaliadwyedd. Mae hi wedi gweithio ar lefel uwch/gyfarwyddwr mewn sawl awdurdod lleol metropolitan ac fel prif weithredwr i gwmnïau amgylcheddol nid er elw.

Mae gan Jane brofiad eang o arwain rhaglenni newid sefydliadol sydd â chynaliadwyedd ac arloesedd yn egwyddorion ysgogol iddynt. Mae meysydd arbenigol Jane yn cynnwys darparu seilwaith ynni, menter carbon isel a rheoli gwastraff.

Mark Jeffs Mark Jeffs
Rheolwr Archwilio, Archwilio Cymru

Mae Mark Jeffs yn Rheolwr yn Nhîm Astudiaethau Cenedlaethol Archwilio Cymru. Mae wedi arwain amrywiaeth eang o astudiaethau cenedlaethol, gan gynnwys pedwar adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, adolygiadau o bwysau ariannol a pherfformiad yn y GIG, a pharatoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb. Yn ddiweddar, mae wedi arwain ar astudiaethau sy’n ymwneud â phandemig COVID-19, gan gynnwys cyflenwi a chaffael cyfarpar diogelu personol a chyfleoedd i adfer ac ailosod y system gofal arfaethedig yn y GIG. Ar hyn o bryd mae Mark yn gyfrifol am astudiaethau sy’n ystyried gwneud y gorau o gronfeydd yr UE sy’n weddill, yr ymateb i ffoaduriaid Wcráin a thai fforddiadwy.

Mae gan Mark ddiddordeb mawr mewn modelau o wasanaeth cyhoeddus, yn enwedig meddwl am systemau a theori chymhlethdod.

Andrew Jeffreys
Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru

Astudiodd Andrew Jeffreys ym Mhrifysgol Newcastle, Ysgol Economeg Llundain a Phrifysgol Caerdydd, lle cwblhaodd ei PhD yn 1999.

Ar ôl gweithio yn y sector gwirfoddol, fel ymchwilydd i ddau AS De Cymru ac fel darlithydd rhan amser mewn athroniaeth, ymunodd Andrew â'r gwasanaeth sifil fel Swyddog ar y Llwybr Carlam yn 2000.

Treuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio yn Whitehall, gan ddechrau ar gyfer Tollau ac Ecséis EM lle roedd yn rheoli Swyddfa Breifat yr Ysgrifennydd Parhaol, ac yna i Drysorlys EM lle roedd yn gweithio ar bolisi a strategaeth trethi, gan arwain y tîm oedd yn gyfrifol am drethi treuliant.

Dychwelodd i Gymru yn 2006 i weithio yn Llywodraeth Cymru.  Ar hyn o bryd ef yw Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, gyda'r cyfrifoldeb am ddyrannu cyllideb £20 biliwn Llywodraeth Cymru, polisi o ran trethi datganoledig a rhaglen PPP Cymru. Mae Andrew hefyd yn aelod o Fwrdd Llywodraeth Cymru ac yn Bencampwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y sefydliad.

Mae'n briod â dau blentyn ac yn gefnogwr Dinas Caerdydd tra amyneddgar.

Jarlath Costello
Pennaeth dadansoddi economaidd, Llywodraeth Cymru

Ymunodd Jarlath â Llywodraeth Cymru yn 2006 wedi treulio'r 12 mlynedd blaenorol yn gweithio fel economegydd i Gwmni Moduron Ford, gan ddechrau ym mhencadlys Ewropeaidd y Cwmni yn Essex ac wedyn gwnaeth dreulio 5 mlynedd ym mhencadlys byd-eang y Cwmni yn Detroit. Mae Jarlath hefyd wedi gweithio ym Manc Brenhinol yr Alban (RBS) a Chymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu. Graddiodd Jarlath gyda BA ac MA mewn economeg o Brifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway a hefyd MBA o Brifysgol Stirling, yr Alban.

Mark Egan
Goruchwyliwr Brysbennu Twyll, Heddlu Gwent

Treuliodd Mark 30 mlynedd ym maes plismona, o weithio yn y brifddinas i weithio mewn sawl llu rhanbarthol lle y gwnaeth newid rhwng dyletswyddau iwnifform ac ymchwiliol, gan orffen ei wasanaeth yn Arolygydd.

Am lawer o’r amser roedd yn ymwneud ag ymchwilio i droseddu, a oedd yn arbennig o heriol, ond yn rhoi boddhad mawr iddo ac arweiniodd iddo weithio ym meysydd troseddau cyffredinol, cyffuriau, amddiffyn plant a chudd-wybodaeth.

Mae diogelu’r rhai sy’n agored i niwed wedi bod yn un o brif seiliau cyfrifoldeb yr heddlu ac mae hyn yn parhau gyda’r un lefel o bwysigrwydd hyd heddiw - mae ceisio lleihau niwed a cholled i bobl, yn ogystal â’u cadw’n ddiogel wedi bod yn nod allweddol drwy gydol ei wasanaeth.

Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf mae wedi bod yn gweithio yn Heddlu Gwent ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yn y Tîm Troseddau Ariannol lle mae’n goruchwylio tîm twyll. Mae hon yn swydd amrywiol sy’n gofyn am addasu’n gyson i ddulliau a thueddiadau trosedd newydd ac mae’n her enfawr, gan weithio gyda nifer o luoedd a phartneriaid wrth geisio mynd ar drywydd y rhai sy’n cyflawni troseddau ariannol.

Tra’r oedd yn y swydd hon, mae Mark wedi cael ei achredu gan yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol fel Swyddog Cudd-wybodaeth Ariannol sy’n galluogi’r defnydd gorau o gudd-wybodaeth o fewn ymholiadau twyll.

Peter Matthews
Ditectif Ringyll, Goruchwyliwr Tîm Troseddau Ariannol, Heddlu Gwent

Ar y cychwyn, roedd Peter yn gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol a chymhwysodd fel Addasydd Colled Siartredig ym 1995 gan arbenigo mewn ymchwilio ac archwilio colledion ariannol masnachol fel twyll, colli elw a rhwymedigaethau cyfreithiol. Cafodd ei ethol yn Gymrawd Sefydliad Siartredig yr Addaswyr Colled yn 2001.

Ymunodd Peter â Thollau Tramor a Chartref EM fel swyddog ymchwilio ariannol arbenigol yn 2001 a chafodd ei secondio i Dîm amlasiantaeth Troseddau Economaidd Rhanbarthol Cymru, yn 2004. Yn 2006 trosglwyddodd ei swydd i’r Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA) a ddaeth yn ddiweddarach yn Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA).

Mae Peter wedi’i achredu gan y Ganolfan Enillion Troseddau (NCA) fel Ymchwilydd Ariannol a gan Heddlu Dinas Llundain fel Ymchwilydd Twyll Arbenigol.

Yn ystod ei yrfa, mae Peter wedi ymdrin ag amrywiaeth eang o dwyll cymhleth, gwyngalchu arian ac achosion llwgrwobrwyo/llygredd ledled y DU a thramor. Mae’n aelod o’r Cadre Tystion Arbenigol Gwyngalchu Arian Cenedlaethol ac mae wedi cefnogi nifer o wahanol asiantaethau ac wedi ymddangos yn Llysoedd yr Ynadon a’r Goron ledled Cymru a Lloegr yn rhoi tystiolaeth arbenigol ym maes troseddau economaidd. Mae hefyd wedi briffio swyddogion y llywodraeth ac asiantaethau eraill ar fygythiadau troseddau economaidd i’r DU.

Yn 2018, trosglwyddodd Peter i Heddlu Gwent ac ar hyn o bryd mae’n Dditectif Ringyll yn goruchwylio’r Tîm Troseddau Ariannol.

Tim Moss Tim Moss
Cyfarwyddwr Cyffredinol – Prif Swyddog Gweithredu, Llywodraeth Cymru

Cafodd Tim ei benodi’n Brif Swyddog Gweithredu ym mis Medi 2022, cyn hynny roedd yn Brif Weithredwr yn y Swyddfa Eiddo Deallusol, lle’r oedd yn gyfrifol am gynghori Gweinidogion ar bob mater polisi eiddo deallusol ac am weithredu’r Swyddfa. Daeth Tim i’r Swyddfa Eiddo Deallusol o Dŷ’r Cwmnïau lle’r oedd yn Gofrestrydd Cwmnïau Cymru a Lloegr ac yn Brif Weithredwr. Gwnaeth weithio yn Nhŷ’r Cwmnïau o 2002 lle’r oedd ganddo lawer o uwch swyddi yn y sefydliad. Roedd ei bortffolio gwaith helaeth yn cynnwys arwain ar yr agenda ddigidol, cyflawni gweithredol, strategaeth fusnes a pholisi corfforaethol. Roedd Tim hefyd yn llywydd y Fforwm Cofrestrau Corfforaethol (cymdeithas o dros 60 o gofrestrfeydd ledled y byd) rhwng 2013 a 2017. Mae gyrfa Tim hefyd yn cynnwys 12 mlynedd mewn swyddi gweithredol uwch yn y diwydiant gweithgynhyrchu; mae ganddo radd Gwyddorau Naturiol o Brifysgol Caergrawnt, MBA o Brifysgol Abertawe ac mae’n byw ar fferm yn ne Cymru ac mae’n briod â dau o blant. Derbyniodd CBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016 am ei wasanaethau i’r economi a phobl Abertawe.

Rhys Thomas Rhys Thomas
Cyfarwyddwr Rhanbarthol – Cyllid, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ar ôl dechrau fy ngyrfa fel Dadansoddwr Busnes yn y sector preifat, ymunais â'r Gwasanaeth Sifil ar raglen dan hyfforddiant graddedigion yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau. Fe wnes i gwblhau fy arholiadau a hyfforddiant cyfrifeg proffesiynol tra yn y DVLA, gan ennill profiad ar draws y swyddogaeth Cyllid cyn gadael am rôl y Cyfarwyddwr Rhanbarthol yn ONS. Mae fy uchelgais gyrfa wedi'i wreiddio mewn gwasanaeth cyhoeddus ac rwy'n credu'n gryf bod rôl Cyllid o fewn unrhyw sefydliad yn amlweddog - i ddiogelu, galluogi a chynghori.

Anne-Louise Clark Anne-Louise Clark
Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfathrebu a Newid, Archwilio Cymru

Anne-Louise yn ymuno ag Archwilio Cymru yn dilyn gyrfa mewn Llywodraeth Leol yn Swydd Efrog a Glannau Humber, Caint, Llundain ac yn fwyaf diweddar, Blaenau Gwent. Drwy gydol ei gyrfa mae Anne-Louise wedi canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau llywodraeth leol, datblygu pobl, a sicrhau bod yr asedau ariannol a dynol yn cyd-fynd â sicrhau gwell canlyniadau i ddinasyddion.

Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys darparu arweinyddiaeth ar draws portffolio eang o wasanaethau gan gynnwys Adnoddau Dynol/Datblygiad Sefydliadol, Cyfathrebu, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Caffael a Thrawsnewid. Mae swyddogaeth elfennau digidol yn sut y bydd gwasanaethau a sefydliadau yn edrych yn y dyfodol yn ddiddordeb arbennig i Anne-Louise, yn ogystal â sicrhau bod gwasanaethau a chynhyrchion yn cael eu cynllunio gydag anghenion y cwsmer wrth eu calon.

Mae Anne-Louise yn dod â chyfoeth o brofiad i Archwilio Cymru a safbwynt o'r tu allan i'r sefydliad. Mae wedi dal swyddi arwain uwch, a chyn ymuno â'r sefydliad roedd yn Brif Swyddog Masnachol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Roedd COVID-19 wedi golygu bod Anne-Louise a'i thîm ar flaen y gad yn ymateb y Cyngor. Mewn partneriaeth â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, arweiniodd ar ddatblygu a chreu amrywiaeth o wasanaethau newydd gan gynnwys y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu.

Mae Anne-Louise yn byw yn Swydd Gaerloyw gyda'i gŵr a'i chi achub Romania, Buddy. Mae hi'n mwynhau cerdded a cheisio tyfu llysiau. Geordie balch i’r carn, mae hi'n angerddol am botensial Cymru a'r cyfrifoldeb sydd gan Archwilio Cymru wrth gefnogi dyheadau'r wlad. Mae bod yn briod â Cymro yn golygu bod Baner Cymru yn hedfan yn uchel ar ddiwrnodau gemau rhyngwladol y bêl hirgrwn. Mae hi hefyd yn falch o fod yn ymddiriedolwr yr elusen iechyd meddwl Platfform – gan weithio i wella gwasanaethau a mynediad at gymorth iechyd meddwl priodol.

Oliver Simms Oliver Simms
Rheolwr, Archwilio a Sicrwydd y Sector Cyhoeddus, ICAEW

Ymunodd Oliver ag ICAEW ym mis Mawrth 2021 fel eu Rheolwr ar gyfer Archwilio a Sicrwydd y Sector Cyhoeddus ar ôl gweithio yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) am dros chwe blynedd.

Yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, cyflawnodd amrywiaeth o swyddi gan gynnwys arwain archwiliad ariannol yr Adran Masnach Ryngwladol, rheoli archwiliad ariannol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac fel arbenigwr technegol yn y tîm Ymarfer ac Ansawdd, gan ddarparu llawer o hyfforddiant mewnol y swyddfa. Cymhwysodd fel Cyfrifydd Siartredig yn 2017.

Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn hyrwyddo gwerth archwilio ac adrodd ariannol yn y sector cyhoeddus ac mae wedi gwneud hynny’n ganolbwynt i’w waith yn ICAEW hyd yn hyn.

Chris Bolton Chris Bolton
Rheolwr Ymchwil a Datblygu, Archwilio Cymru

Chris Bolton yw Rheolwr Ymchwil a Datblygu Archwilio Cymru a chyn hynny ef wnaeth sefydlu a rheoli y Gyfnewidfa Arfer Da am flynyddoedd lawer. Yn 2018 cwblhaodd Gymrodoriaeth Churchill a oedd yn cynnwys teithio i’r UDA a Sbaen i astudio llywodraethant cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol mawr. Ef hefyd yw Cadeirydd Merthyr Valleys Homes, Cymdeithas Gydfuddiannol gyntaf Cymru i Denantiaid a Staff.

Jeff Smith
Prif swyddog gweithredol, Bigmoose

Mae Jeff yn fynyddwr, yn rhedwr ultra, mae’n mwynhau chwaraeon eithafol ac mae’n ddyn busnes. Cafodd Jeff ei fagu ar aelwyd dlawd yng ngogledd Llundain. Mae angerdd am chwaraeon wedi bod ganddo erioed, ac o pan oedd yn 10 oed, dechreuodd chwarae hoci iâ. Aeth ymlaen i gael gyrfa ugain mlynedd lwyddiannus fel athletwr proffesiynol yn chwarae yn y gôl i Brydain Fawr gan ennill yr ornest saethu o’r smotyn gyda’r Cardiff Devils yn 1990.

Ar ôl ymddeol o hoci iâ, roedd Jeff yn gweld eisiau’r rhuthr adrenalin o gystadlu ac felly penderfynodd ddysgu nenblymio cwymp rhydd ac yna cafodd ei ddenu at fynydda. Dechreuodd taith Jeff i ben y byd yn 2010 pan ddringodd Kilimanjaro, ac yna o fewn 7 mlynedd gweithiodd yn ddiflino i hyfforddi i fod yn barod ar gyfer Everest.

Rhwng ei deithiau mynydda, mae Jeff hefyd wedi cwblhau sawl marathon ultra byd-enwog, gan gynnwys y ras ar droed anoddaf ar y ddaear, y Marathon Des Sables.

Wrth ymgymryd â’r mentrau hyn, mae Jeff wedi defnyddio ei anturiaethau i helpu i hwyluso codi dros £700,000 ar gyfer gwahanol elusennau, a gwnaeth daith ysgolion ledled y DU, gan ysbrydoli dros 3000 o blant i weithio’n galed, dilyn eu breuddwydion a pheidio byth â rhoi’r gorau iddi.

12 January 2023
09:00
16:00

Mae'r digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig