Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Fe wnaethom ystyried a yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa dda i arwain newid sylweddol mewn cyfraddau teithio llesol.
Mae ‘teithio llesol’ yn disgrifio cerdded a beicio, ar y cyd o bosibl â thrafnidiaeth gyhoeddus, ar gyfer teithiau pob dydd megis i weithle neu ysgol neu oddi yno, neu er mwyn defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau iechyd, hamdden neu wasanaethau a chyfleusterau eraill. Fe wahaniaethir rhyngddo a cherdded a beicio at ddibenion hamdden yn unig.
Rydym wedi canolbwyntio ar drefniadau ar lefel genedlaethol a arweinir a/neu a reolir gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.
Er gwaethaf gwariant uwch trwy ei Chronfa Teithio Llesol a chynllun cyflawni newydd, mae Llywodraeth Cymru’n dal i fod ymhell o gyflawni’r newid sylweddol mewn teithio llesol y bwriadwyd ei ysgogi trwy Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.