Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Fe wnaeth ein hadolygiad ystyried a yw’r wybodaeth am berfformiad a ddarperir ar gyfer uwch arweinwyr yn eu helpu i ddeall safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a deilliannau gweithgareddau Cynghorau er mwyn iddynt allu rheoli eu perfformiad yn effeithiol.

    Mewn nifer o ardaloedd, nid oes gan ddefnyddwyr gwasanaethau ddewis o reidrwydd pwy sy’n darparu’r gwasanaethau. Nid oes gan drigolion ddewis go iawn pwy sy’n casglu’r rhan fwyaf o’u gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu, er enghraifft. Felly, mae deall yr hyn y mae pobl yn ei feddwl o’r gwasanaeth, yn hytrach na buddiannau’r rhai sy’n darparu’r gwasanaethau, yn bwysig.  

    Mae cynghorau’n darparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd gan ddefnyddio arian cyhoeddus. Felly, mae hi’n hanfodol bod cynghorau’n deall effaith eu gweithgareddau a’u polisïau i wybod a ydynt yn defnyddio arian cyhoeddus yn ddoeth.

    Rôl yr Archwilydd Cyffredinol yw penderfynu a yw cynghorau wedi sefydlu trefniadau i sicrhau gwerth am arian. 

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Mae cynghorau'n darparu gwybodaeth gyfyngedig i helpu uwch arweinwyr i ddeall barn defnyddwyr gwasanaeth

    Gweld mwy
CAPTCHA