Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Fe wnaeth ein hadolygiad ystyried a yw’r wybodaeth am berfformiad a ddarperir ar gyfer uwch arweinwyr yn eu helpu i ddeall safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a deilliannau gweithgareddau Cynghorau er mwyn iddynt allu rheoli eu perfformiad yn effeithiol
Roedd ein hadolygiad yn canolbwyntio ar y prif adroddiadau y mae cynghorau’n eu defnyddio i helpu uwch arweinwyr i fonitro a rheoli eu perfformiad.
Mae cynghorau’n gwneud llawer o ymdrech i gynhyrchu’r adroddiadau hyn, sy’n aml yn adroddiadau cyhoeddus. Fe wnaethom yr adolygiad hwn ym mhob un o’r 22 o gynghorau yng Nghymru. Mae cynghorau’n darparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd gan ddefnyddio arian cyhoeddus. Mae’n hanfodol bod cynghorau’n deall effaith eu gweithgareddau a’u polisïau i wybod a ydynt yn defnyddio arian cyhoeddus yn ddoeth ac yn cyflawni’r hyn y maent yn amcanu at eu gyflawni.
Roedd ein canfyddiadau’n debyg ar draws y rhan fwyaf o gynghorau: sef mai ychydig o gynghorau oedd yn gwneud gwybodaeth am safbwynt defnyddwyr gwasanaethau’n greiddiol i’w prosesau adrodd a bod adroddiadau’n tueddu i ganolbwyntio ar allbynnau yn hytrach na deilliannau. Yn gyffredinol rydym wedi cyflwyno’r un argymhellion, neu amrywiadau arnynt, i’r rhan fwyaf o gynghorau:
Er nad oedd yr adolygiad hwn yn ymwneud â threfniadau rheoli perfformiad cynghorau fel y cyfryw, mae ein canfyddiadau’n codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn ag effeithiolrwydd y trefniadau hynny. Mae’n anodd gweld sut y mae rhai cynghorau’n rheoli perfformiad yn effeithiol os nad ydynt yn adrodd ar wybodaeth am ddeilliannau a safbwynt defnyddwyr gwasanaethau.
Roeddwn wedi gobeithio canfod darlun mwy cadarnhaol nag a wnaethom gan bod pwysigrwydd deall deilliannau a safbwynt defnyddwyr gwasanaethau wedi bod yn cael ei bwysleisio am flynyddoedd. Gellid dadlau mai’r rhain yw’r agweddau pwysicaf ar drefniadau rheoli perfformiad cyngor. Mae’r adolygiad hwn yn bwrw amheuaeth a oes gan gynghorau drefniadau priodol i sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio eu hadnoddau. Rwy’n disgwyl canfod sefyllfa well pan fyddwn yn gwneud gwaith dilynol ar ein hargymhellion.