Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae ein cyhoeddiadau yn cwmpasu ystod eang o waith archwilio sydd wedi'i gwblhau o fewn cyrff cyhoeddus, gan gynnwys: llywodraeth ganolog, cynghorau lleol, byrddau iechyd, lluoedd heddlu, gwasanaethau tân, a parciau cenedlaethol.

Defnyddiwch y teclyn chwilio i edrych am adroddiad benodol. Neu hidlwch y canlyniadau i'ch helpu i ddod o hyd i gyhoeddiad ar fater, sector, ardal neu flwyddyn benodol.

Pynciau
Sectorau
Adroddiadau
Ardal

Gallwch gael gafael ar adroddiadau hŷn ar archif gwefannau y DU [agorir mewn ffenestr newydd]

Gallwch hefyd gysylltu â ni yn uniongyrchol a byddwn yn hapus i'ch helpu i gael copi electronig.

Cyhoeddiad
Audit wales logo

System Reoli Perfformiad Adnoddau ac Ystadau GIG Cymru - Yst...

Sefydlwyd System Reoli Perfformiad Adnoddau ac Ystadau GIG Cymru (EFPMS) yn 2002. Mae'r system yn annog dynesiad disgybledig tuag at gasglu, rhannu ac adolygu data, ac yn cefnogi gwneud penderfyniadau strategol ar Iefel genedlaethol a Ileol.

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Cronfa Ynni Ganolog y GIG - Ystadau lechyd Cymru

Lansiwyd y Gronfa Ynni Ganolog (CYG) yn 2005 ac mae'n darparu cyllid o dros £3 miliwn i'r GIG yng Nghymru er mwyn ei alluogi i fuddsoddi mewn mentrau effeithlonrwydd cost isel a chanolog a thechnolegau carbon isel. Dros dair blynedd y rhaglen, cefnogwyd oddeutu 149 o gynlluniau unigol. Gyda'i gilydd mae'r prosiectau hyn wedi gwireddu arbedion carbon blynyddol - 13,400 o dunelli.

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Gweithio gyda sefydliadau allanol i sicrhau arian ar gyfer g...

Mae Cymru Gynnes Cyf (Cymru Gynnes) yn adeiladu ar y Model Parthau Cynnes mwyaf Ilwyddiannus a ddatblygwyd yn Stockton on Tees gan National Grid Transco (NGT) ac a gyflwynwyd ar ôl hynny i Redcar a Cleveland a Newcastle upon Tyne. Dechreuodd Cymru Gynnes, o dan arweiniad Rhaglen Cynhesrwydd Fforddiadwy NGT, ei brosiect tair blynedd cyntaf yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot yn 2004, ac yna yn Wrecsam yn 2005.

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Canolfan Adnoddau Gofal Cychwynnol Port Talbot - Bwrdd Iechy...

Y ganolfan adnoddau yw un o'r prosiectau cyntaf yng Nghymru i Iwyddo i integreiddio gwasanaethau cychwynnol a chymuned y GIG, gwasanaethau cymdeithasol a'r sectorau gwirfoddol a masnachol annibynnol.

Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid
Audit wales logo

Rheoli arian cyhoeddus Cymad Cyf

Mae'r adroddiad hwn yn ceisio ateb dau gwestiwn: A gamddefnyddiwyd arian cyhoeddus gan Cymad? Ac, a wnaeth y cyrff cyhoeddus yng Nghymru reoli'n effeithiol yr arian cyhoeddus a dalwyd i Cymad, yn y cyfnod ar ôl 1 Ebrill 2003?

Gweld mwy
Cyhoeddiad
Audit wales logo

Cod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru 2010

Mae'r Cod Ymarfer hwn yn rhagnodi sut y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r archwilwyr a benodir ganddi/ganddo yn cyflawni eu swyddogaethau archwilio

Gweld mwy
Audit wales logo

Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc

Mae'r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau ymchwiliad gan Wasanaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth y Cynulliad i honiadau a wnaed yn erbyn Cymunedau yn Gyntaf Plas Madoc (PMCF). Cafodd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol gymorth gan archwilydd ariannol profiadol o Swyddfa Archwilio Cymru drwy gydol ei ymchwiliad.

Gweld mwy
Audit wales logo

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu eu her fwyaf ers o leiaf genhedlaeth. Dengys y ffigurau yn yr adroddiad hwn bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu gostyngiadau sylweddol i'w cyllidebau yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bwriad yr adroddiad hwn yw helpu'r gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu'r ymateb
hwnnw, drwy nodi maint yr her sy'n eu hwynebu a'r gwersi allweddol sydd wedi deillio o'n gwaith.

Gweld mwy
Audit wales logo

Meddylfryd Darbodus a Meddylfryd Systemau yn y Sector Cyhoed...

Comisiynwyd Canolfan Ymchwil Menter Ddarbodus Prifysgol Caerdydd (LERC) i gynnal gwerthusiad o feddylfryd systemau yn y sector cyhoeddus ar ran Swyddfa Archwilio Cymru fel rhan o'i rhaglen sy'n canolbwyntio ar effeithlonrwydd a'r amgylchedd ariannol cyfyngedig yn y sector cyhoeddus.

Gweld mwy
Audit wales logo

Awdurdod Heddlu Gwent Arolygiad Awdurdod yr Heddlu 2010

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ar y cyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi o'r arolygiad o Awdurdod Heddlu Gwent a  gynhaliwyd ym mis Hydref 2009. 

 

Gweld mwy