Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Gweld ein swyddi diweddaraf
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Fe wnaethom ystyried sut y mae dull trawsnewid digidol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o gymorth i wella gwasanaethau.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cydnabod bod trawsnewid digidol yn ganolog i foderneiddio ei gwasanaethau. Er bod ganddi Strategaeth Ddigidol 10 mlynedd a threfniadau llywodraethu ategol, nid yw’r strategaeth yn cynnwys cynllun cyflawni manwl, wedi’i gostio. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anos i’r Ymddiriedolaeth flaenoriaethu gwaith, defnyddio adnoddau’n effeithiol, a bod yn hyderus y gall ei nodau digidol gael eu cyrraedd â’r capasiti sydd ganddi. Mae buddsoddiad digidol wedi cynyddu yn bennaf am bod costau refeniw’n codi. Fodd bynnag, mae cyllid cyfalaf yn anrhagweladwy a disgwylir iddo ostwng yn sylweddol yn 2026-27. Mae hyn yn creu risgiau ar gyfer amnewid hen systemau, a all achosi oedi wrth gyflawni’r Strategaeth Ddigidol. Mae disgwyl i systemau cenedlaethol helpu’r Ymddiriedolaeth i wella diogelwch ac effeithlonrwydd, tra bo prosiectau lleol, megis y Platfform Hyfforddiant Digidol, gwaith dylunio sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, a defnydd cynnar o AI, wedi’u bwriadu i helpu staff i weithio’n fwy effeithlon ac ategu ffyrdd mwy modern o weithio. Serch hynny, mae cynnydd yn cael ei ddal yn ôl gan nifer o fylchau yn nhrefniadau’r Ymddiriedolaeth. Nid yw risgiau allweddol sy’n gysylltiedig â seiberddiogelwch, hen systemau ac AI wastad yn cael eu cofnodi mewn ffordd gyson, sy’n cyfyngu ar allu’r Bwrdd i’w goruchwylio’n effeithiol. Hefyd, nid oes gan yr Ymddiriedolaeth ddealltwriaeth glir am sgiliau digidol ar draws ei gweithlu eto. Hefyd, cyfyngedig yw gwaith i werthuso prosiectau digidol, sy’n ei gwneud hi’n anos dangos a yw manteision disgwyliedig yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd.