Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae gan y Bwrdd Iechyd Fframwaith Strategol Digidol eglur sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol ac sydd o gymorth i wella gwasanaethau yn yr hirdymor. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cryfhau ei drefniadau llywodraethu ar gyfer trawsnewid digidol, ac mae rhaglen strwythuredig o brosiectau digidol yn ei lle. Fodd bynnag, mae gwendidau mewn trefniadau cynllunio ariannol, gwireddu manteision, ac adrodd am sicrwydd yn cyfyngu ar allu’r Bwrdd i ddeall cynnydd, risgiau ac effaith yn llawn. Er bod y seilwaith digidol a rheolaethau seiber wedi gwella, mae sicrwydd ynghylch cydnerthedd hirdymor yn dal i fod yn gyfyngedig, yn enwedig mewn perthynas â chynllunio cyfalaf, systemau etifeddol, ac adfer ar ôl trychineb. 
    Er bod y Bwrdd Iechyd yn cydnabod potensial AI, mae trefniadau llywodraethu’n dal i fod heb ddatblygu digon. Mae’r Fframwaith Strategol Digidol yn pennu uchelgeisiau lefel uchel ond yn brin o eglurder ynghylch gweithredu, darparu adnoddau, rheoli risg, a goruchwyliaeth. Ar yr un pryd, nid oes gan y sefydliad ddealltwriaeth gynhwysfawr am ei sgiliau digidol a chapasiti ei weithlu eto, gyda defnydd isel o offer hunanasesu, dim cynllun hyfforddiant cydgysylltiedig, a dibyniaeth ar niferoedd bychain o arbenigwyr yn creu risgiau i gadernid. 
    Mae ymgysylltu â staff a defnyddwyr gwasanaethau wedi ategu rhai datblygiadau digidol cadarnhaol, ond mae dulliau’n anghyson ac nid oes iddynt strwythur ffurfiol, gan gynnwys diffyg cynllun ymgysylltu neu gynhwysiant digidol a gymeradwywyd gan y Bwrdd. Ar y cyfan, mae’r Bwrdd Iechyd yn canlyn arni ag ystod o fentrau digidol ac yn dangos ymrwymiad i drawsnewid. Fodd bynnag, mae bylchau mewn rheoli risg yn strategol, cynllunio’r gweithlu, gwireddu manteision, a chynllunio ar gyfer buddsoddi hirdymor yn gwanhau sicrwydd y bydd buddsoddi mewn digidol yn gyson yn dwyn gwelliannau parhaus yn ansawdd, effeithlonrwydd a hygyrchedd gwasanaethau.

CAPTCHA