Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Yr hyn y gwnaethom fwrw golwg arno

    Yn 2017, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i gyflawni sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030. Yn 2021, fe weithredodd Llywodraeth Cymru yn fwy ffurfiol trwy sefydlu uchelgais cyfunol ar gyfer
    sector cyhoeddus sero net erbyn 2030.

    Fe gyhoeddom ni adroddiad ar gynnydd yn 2022 gan ganfod ‘ansicrwydd amlwg’ y byddai cyrff cyhoeddus yn gwireddu’r uchelgais cyfunol. Fe wnaethom bum galwad i weithredu. Roedd y rhain yn ymwneud ag arweinyddiaeth, cyfeiriad strategol, data, cyllid, a sgiliau.

    Mae’r adroddiad diweddaraf hwn yn bwrw golwg lefel-uchel ar yr hyn sydd wedi digwydd ers 2022. Nid ydym wedi archwilio dulliau cyrff cyhoeddus yn fanwl nac wedi archwilio eu penderfyniadau ynglŷn â gwariant.

    Pam fod hyn yn bwysig

    Mae newid hinsawdd yn un o heriau diffiniol y byd, ac fe ddatganodd Llywodraeth Cymru ei bod hi’n argyfwng ar yr hinsawdd yng Nghymru yn 2019. Un o’r ffyrdd allweddol o liniaru effeithiau newid hinsawdd yw lleihau allyriadau carbon.

    Fe rybuddiodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar bod ymdrechion y byd i leihau allyriadau carbon yn beryglus o bell oddi ar y trywydd iawn. Gall y sector cyhoeddus arwain trwy esiampl o ran lleihau allyriadau a bod yn sbardun ar gyfer newidiadau ehangach yn yr economi a chymdeithas.

    Yr hyn yr ydym wedi’i ganfod

    Mae hi bellach yn hynod annhebygol y bydd y sector cyhoeddus yn gwireddu’r uchelgais cyfunol. Er bod nifer o enghreifftiau o newidiadau sy’n berthnasol i’n galwadau ni i weithredu, ar y cyfan, ni chynyddwyd y cyflymder fel y galwon ni amdano yn 2022.

    Daethom ni i’r casgliad hwn am y rhesymau canlynol:

    • Mae datgarboneiddio bellach yn flaenoriaeth is i gyrff cyhoeddus, yn rhannol oherwydd pwysau ariannol. Nid yw wedi cael ei wreiddio’n llawn mewn prosesau penderfynu o ddydd i ddydd, ac nid yw cyrff cyhoeddus yn gwneud digon i weithio gyda’i gilydd.
    • Mae’r uchelgais cyfunol wedi bod yn ysgogiad i weithredu ond mae wedi’i ddiffinio’n wael ac wedi cael ei feirniadu am fod yn ‘anghyraeddadwy’. Mae ar gyrff cyhoeddus eisiau mwy o help i drosi
      Trywydd Sector Cyhoeddus Llywodraeth Cymru (y trywydd) yn gamau gweithredu. Ac nid yw Llywodraeth Cymru’n gwirio a yw cyrff cyhoeddus yn cyrraedd y cerrig milltir yn y trywydd.
    • Mae rhagor o gyrff cyhoeddus bellach yn rhan o system Llywodraeth Cymru ar gyfer adrodd ar allyriadau carbon ac mae rhai bylchau mewn data wedi cael eu llenwi. Mae’r allyriadau yr adroddir arnynt wedi cynyddu ond nid yw data am dueddiadau’n adrodd y stori lawn gan bod y gwelliannau hyn o ran y cyrff sy’n adrodd a’r hyn yr adroddir arno wedi chwarae rhan. Ac mae gan gyrff cyhoeddus bryderon ynghylch ansawdd peth o’r data oherwydd dulliau cyfrifo cyfredol.
    • Cyfyngedig yw’r cynnydd a wnaed ar y cyfan gan gyrff cyhoeddus i ddeall faint fydd datgarboneiddio’n ei gostio. Lle datblygwyd cynlluniau tymor agos wedi’u costio, maent yn amrywio o ran eu hansawdd ac fe hoffai cyrff gael mwy o sicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol. A lle mae cyrff cyhoeddus wedi amcangyfrif y gost dros y tymor hwy, roedd rhai’n dweud ei bod yn anfforddiadwy. Dim ond un rhan o’r gwariant y mae ei angen i wireddu uchelgeisiau sero net ehangach Llywodraeth Cymru ac addasu i newid hinsawdd yw datgarboneiddio’r sector cyhoeddus.
    • Mae cyrff cyhoeddus wedi adnabod bylchau mewn sgiliau datgarboneiddio ond nid oes ganddynt ddealltwriaeth lawn am eu hanghenion. Mae capasiti mewnol yn aml yn gyfyngedig i dimau bychain, arbenigol ac mae cyrff cyhoeddus yn dibynnu ar ymgynghorwyr a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i lenwi bylchau.

    Yr hyn yr ydym yn ei argymell

    Mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar Lywodraeth Cymru yn ei rôl arwain. Maent yn ymdrin ag eglurhau a chefnogi’r cyfeiriad strategol, gwella’r modd yr adroddir ar allyriadau carbon, a chymorth ar gyfer cynllunio ariannol gwell.

    Mae cyrff cyhoeddus yn gyfrifol am eu gweithrediadau eu hunain. Felly, rydym hefyd yn argymell eu bod yn defnyddio’r rhestr wirio yr ydym ni wedi’i datblygu i fyfyrio ynghylch eu dull eu hunain.

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Sector cyhoeddus Cymru’n hynod annhebygol o wireddu’r uchelgais sero net erbyn 2030

    Gweld mwy
CAPTCHA