Mynd i’r Afael â Thlodi yng Nghymru: ymateb i'r her

27 Hydref 2022
  • Hydref 2022 - Bydd y digwyddiad dysgu a rennir hwn yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus i rannu syniadau, dysgu a gwybodaeth am sut y gall sefydliadau ymateb i'r heriau a achosir gan dlodi.   

    Mae tlodi yn amlddimensiwn, yn gymhleth, yn tyfu ac yn effeithio ar fwy o bobl yng Nghymru.

    Cyn yr argyfwng costau byw presennol hyd yn oed, bu bron i un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi sy'n golygu eu bod yn cael llai na 60% o'r cyflog cyfartalog. Mae hynny tua 700,000 o'n cyd-ddinasyddion. Mae'r lefel honno o dlodi cymharol wedi aros yr un fath ers degawdau.  

    Mae tlodi yn gallu golygu cael dim arian yn eich poced, eich plant yn mynd i'r ysgol yn newynog, neu i'r gwely heb ddigon o fwyd. Gall olygu peidio â gallu fforddio côt gaeaf na chynhesu'ch cartref, ac yn aml yn byw am flynyddoedd heb waith na gobaith, wedi’i eithrio rhag cyfleoedd a newid.  

    Gall achosion tlodi hefyd fod yn strwythurol, yn deillio o ac yn cael eu dylanwadu gan y ffordd y mae cymdeithas a'r economi wedi'i fframio ac yn gweithio sy'n helpu i greu cylch sy'n ei gwneud hi'n anoddach i rai pobl ddarparu ar gyfer eu teuluoedd a'u cadw'n gaeth mewn stad o gyni. Mae'r strwythurau hyn yn gyrru anghyfartaledd o ran mynediad at drafnidiaeth, addysg, gofal plant, gofal iechyd, swyddi o ansawdd uchel, a thai fforddiadwy. 

    Gall rhai o'r canlyniadau hyn – er enghraifft ynysu cymdeithasol, gwaharddiad, diffyg pŵer, lles corfforol ac emosiynol – ymestyn ac achosi tlodi i barhau, gan ei gwneud hi'n anodd, os nad yn amhosibl, i bobl ddianc rhag ei effaith. Ac yn aml gall y ffordd y mae polisïau a gwasanaethau o fewn y sector cyhoeddus a phreifat yn cael eu pennu a'u darparu wneud y sefyllfa'n llawer mwy heriol. 

    Cyflwyniadau

    Title Size Link
    Archwilio Cymru Teclyn Data Tlodi 1.11 MB Link
    Cymdeithas Tai ClwydAlyn 1.06 MB Link
    Strategaeth Tlodi Llywodraeth Cymru 549.17 KB Link
    Purple Shoots 10.24 MB Link
    Archwilio Cymru 1.39 MB Link
    Labordy Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru 1.42 MB Link
    'Filled to the Brim' 5.35 MB Link
    Hybiau Cymunedol Caerdydd 5.44 MB Link
    Platfform ac Achub y Plant - Gweithdy Embrace 2.94 MB Link