Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae gennym ddwy swydd wag yn ein Tîm Cyfathrebu sydd wedi ennill sawl gwobr
Ydych chi’n Ddylunydd Graffeg dawnus? Ymunwch â ni!
Rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg profiadol i ymuno â’r Tîm Cyfathrebu am gyfnod penodol o 12 mis.
Byddwch yn atebol i’r Pennaeth Cyfathrebu, a byddwch yn creu dyluniadau gweledol arloesol a thrawiadol – ar-lein ac all-lein – i gynorthwyo Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru i rannu eu negeseuon allweddol a’u canfyddiadau data’n effeithiol â chynulleidfa eang.
Byddwch yn dylunio adroddiadau, tudalennau gwe, ffeithluniau, cyflwyniadau a nwyddau brand, ymhlith pethau eraill. Gan weithio’n hyblyg fel aelod o dîm amlddisgyblaeth, byddwch yn cyfrannu at y gwaith parhaus o ddatblygu a mireinio’r deunydd sy’n cael ei ddylunio.
Ydych chi’n mwynhau darllen ac ysgrifennu? Ydych chi’n siarad Cymraeg? Mae eich angen chi arnom ni!
Rydym yn chwilio am Gyhoeddwr Dwyieithog i weithio yn y Tîm Cyfathrebu.
Byddwch yn atebol i’r Pennaeth Cyfathrebu, a byddwch yn darparu gwasanaeth cyhoeddi dwyieithog i sicrhau bod cyhoeddiadau’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn cael eu cynhyrchu’n brydlon, eu bod o’r safon uchaf, a’u bod yn cydymffurfio â’r canllawiau brand a’r arddull tŷ.
Byddwch yn fformadu ac yn prawfddarllen cyhoeddiadau i sicrhau eu bod o’r safon uchaf, gan dynnu sylw’r awduron at ymholiadau a newidiadau. Byddwch yn defnyddio pecynnau Microsoft Word ac Adobe Indesign i gysodi testun mewn templedi, a byddwch yn cydweithio’n agos â Dylunwyr Swyddfa Archwilio Cymru. Byddwch hefyd yn cydweithio â Swyddog yr Iaith Gymraeg i gyfieithu testunau byrion, fel blogiau, negeseuon cyfryngau cymdeithasol, datganiadau i’r wasg a negeseuon e-bost.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Os ydych chi’n ddawnus, yn greadigol ac yn awyddus i feithrin eich sgiliau mewn amgylchedd prysur lle cewch foddhad o’ch gwaith, ewch i’n tudalen swyddi i gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais.
Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer y ddwy swydd yw 3 Hydref 2017.