Mae llawer mwy o wasanaethau'n symud ar-lein, ond a yw pawb yn teithio ar yr un cyflymder?

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Wrth i wasanaethau digidol gyflymu'n sydyn yn ystod y pandemig, efallai y byddai'n werth oedi i fyfyrio ar y ddihareb Affricanaidd; ‘Os ydych chi am fynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun. Os ydych chi am fynd yn bell, ewch gyda'ch gilydd’

Proses ddwy ffordd yw gwirfoddoli, sy’n gwneud gwahaniaeth i bawb sy’n gysylltiedig â hi

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Gofynnwyd i mi unwaith ystyried rôl fel Prif Weithredwr sefydliad gwirfoddol mawr, cenedlaethol. Atebais ei bod yn ddigon anodd arwain ac ysbrydoli gweithlu cyflogedig a bod yn rhaid ei bod yn llawer mwy anodd arwain gwirfoddolwyr. Bellach, ar ôl dau brofiad grymus o wirfoddoli, y naill yn gwirfoddoli ar ward Hosbis a’r llall, yn fwy diweddar, yn sefydlu Ymateb Cymunedol COVID-19 yn Rhosili, Gŵyr, mae fy marn wedi aeddfedu. Gallaf sefyll yn ôl a myfyrio’n fwy cynhwysfawr ac ystyriol ar werth gwirfoddoli i’n cenedl.

Llyfrgelloedd – mwy na llyfrau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ers ein hedefyn Twitter am wasanaethau llyfrgell yn ôl ym mis Gorffennaf, mae llawer o bethau wedi newid. Mae'r rhestr o bethau rydyn ni'n cael eu gwneud wedi parhau i dyfu'n fwy na'r rhestr o bethau nad ydyn ni'n cael eu gwneud.  Mae cynghorau wedi gallu dechrau meddwl am yr hyn sy'n dod nesaf, yn hytrach na dim ond gorfod ymateb i'r hyn sydd newydd ddigwydd.

Gwersi rhyngwladol i gyrff cyhoeddus Cymru wrth ymateb i COVID-19 ac adfer o hynny

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Bydd yn cymryd amser inni adfer o bandemig byd-eang. Mae’r cyrff cyhoeddus sy’n ein cadw’n ddiogel, yn iach a heini at y dyfodol yn canfod eu hunain mewn byd newydd, gyda phroblemau ariannol i fynd i’r afael â nhw, newid o ran ymddygiad a disgwyliadau dinasyddion ac ymwelwyr, a gweithluoedd sydd angen addasu i ffordd newydd o weithio. Bydd rhaid i bob un ohonom ddelio â risgiau ychwanegol, ac efallai y bydd dychwelyd at yr hen drefn ‘arferol’ yn cymryd cryn amser, os o gwbl.

Archwilio o bell (profiadau hyfforddai)

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Pan ddechreuais weithio ar archwiliad interim o Gomisiwn y Senedd o bell ym mis Mawrth ar ôl dychwelyd o’r coleg, feddylies i erioed y byddwn i’n cwblhau’r archwiliad terfynol ym mis Mai o bell hefyd! Heb os, roedd yn ailgyflwyniad rhyfedd i waith archwilio ar ôl dau fis a hanner o astudio, ond gyda’m hail sgrin a chadair desg wrth fwrdd y gegin, roeddwn i’n barod amdani.